Cyflwyniad

Gyda phob cymhwyster newydd rydyn ni’n ei gyflwyno, ein nod yw gwneud y defnydd gorau o'r technolegau digidol sydd ar gael i ddysgwyr a chanolfannau yng Nghymru. Mae hyn yn amrywio o ddefnyddio technoleg i gasglu tystiolaeth sy'n digwydd yn naturiol o gynnydd prentisiaid yn y gweithle i arholiadau ar y sgrin mewn cymwysterau cyffredinol. 

Mae ein tîm moderneiddio asesu wedi’i sefydlu i adeiladu ar y cynnydd sydd wedi’i wneud ym maes asesu digidol yn y blynyddoedd diwethaf, ac i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i elwa ar arloesi yn y system gymwysterau. 

Mae’r tîm yn gweithio gydag eraill ar draws y gymuned cymwysterau ac asesu i archwilio’r manteision y gall technolegau digidol eu cynnig, gan ddefnyddio ei ganfyddiadau i ddylanwadu ar newid cadarnhaol a chefnogi datblygiad polisi cymwysterau. Mae ein dull gweithredu yn canolbwyntio ar dechnolegau a all fod o fudd i hydrinedd, gafaelgarwch, dibynadwyedd a dilysrwydd asesiadau, neu gyfuniad o'r egwyddorion hyn. 

Asesiadau digidol

Mae ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru bellach yn addysgu’r Cwricwlwm i Gymru, y mae rôl technolegau digidol wedi’i wreiddio o’i fewn ac yn cynyddu mewn amlygrwydd. I bobl ifanc sy'n profi'r cwricwlwm hwn, mae technolegau digidol yn llunio pam, beth a sut maen nhw'n dysgu. Er mwyn sicrhau bod cymwysterau yn adlewyrchu beth a sut y caiff dysgwyr eu haddysgu, mae Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd yn cael eu cyflwyno a bydd llawer o bynciau’n cael eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025. 

Ein gweledigaeth yw i ddysgwyr yng Nghymru astudio cymwysterau sy’n eu hysbrydoli ac yn eu paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith – ac y bydd y cymwysterau hyn yn gwneud y defnydd gorau o dechnolegau digidol. Rydyn ni’n cyflwyno asesiadau digidol mewn pynciau lle rydyn ni’n hyderus y bydd yn gwella dilysrwydd yn yr asesiad. 

Rydyn ni wedi cyhoeddi’r set gyflawn o feini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru. Bydd llawer o'r cymwysterau TGAU hyn, ond nid pob un, yn cynnwys arholiadau digidol ac asesiadau di-arholiad. Rydyn ni hefyd yn datblygu meini prawf ar gyfer cymwysterau Sylfaen, TAAU a Sgiliau Bywyd a Gwaith newydd, a all hefyd gynnwys asesiadau digidol. 

Arholiadau digidol

Mae arholiadau digidol yn unig wedi cael eu cadarnhau i’w defnyddio o fewn wyth TGAU Gwneud-i-Gymru newydd o’r cychwyn cyntaf. Mae ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i gynnwys arholiadau digidol mewn pedwar pwnc arall. Ym mhynciau'r dyniaethau, bydd arholiadau digidol yn cael eu cyflwyno o fewn y pum mlynedd gyntaf o astudio. 

Mewn pynciau fel cyfrifiadureg, addysg gorfforol ac iechyd, a drama, bydd arholiadau digidol yn unig ar gael o'r cychwyn cyntaf. Bydd yr arholiadau hyn yn cael eu dylunio i wneud y defnydd gorau o'u fformat ar-sgrin. Mewn pynciau fel technoleg ddigidol a chyfrifiadureg, bydd cydlyniant rhwng yr arholiadau, y cynnwys y bydd dysgwyr yn ei astudio, a'r dulliau dysgu. 

Mewn pynciau fel drama a cherddoriaeth, bydd dysgwyr yn gallu adolygu ac ymateb i amrywiaeth o ddeunyddiau sain a fideo, gyda swyddogaethau fel oedi, sgrwbio ac ailchwarae'r deunydd yn hyrwyddo eu hymgysylltiad. Bydd y deunyddiau hefyd yn gyffredin i bob dysgwr, gan hyrwyddo sail asesu deg i bob dysgwr. 

Mewn pynciau eraill, fel addysg gorfforol ac iechyd, a bwyd a maeth, bydd y mathau o gwestiynau sydd ar gael yn y fformat digidol yn gwella dilysrwydd yr arholiadau. Er enghraifft, gall asesiadau digidol ganiatáu i ddysgwyr lusgo, gollwng a dilyniannu delweddau a thestun i'w categoreiddio a chreu diagramau proses. Gall cynnwys fideos o arddangosiadau ymarferol ganiatáu i ddysgwyr werthuso'r modd y mae eraill yn cymhwyso ac yn perfformio eu sgiliau yn y pynciau hyn. 

Ym mhynciau'r dyniaethau, gan gynnwys daearyddiaeth a busnes, bydd arholiadau digidol yn cael eu cyflwyno yn ystod y pum mlynedd gyntaf o astudio. Bydd cyflwyno’r arholiadau digidol hyn yn raddol yn helpu ysgolion i baratoi i’w gweithredu ac yn caniatáu amser i ddulliau asesu digidol gael eu harchwilio a’u treialu ymhellach yn y pynciau hyn. 

Dyma’r rhestr lawn o gymwysterau TGAU: 

Asesiadau digidol o’r dechrau

Dan ystyriaeth bellach 

Bydd asesiadau digidol yn cael eu cyflwyno maes o law

Pynciau 2025 

  • Cyfrifiadureg 
  • Drama 
  • Cerddoriaeth 
  • Bwyd a Maeth 

  • Hanes 

 

Pynciau 2026 

  • Ffilm a Chyfryngau Digidol 
  • Technoleg Ddigidol 
  • Dawns 

  • Addysg Gorfforol ac Iechyd

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant   

 

 

  • Dylunio a Thechnoleg 
  • Daearyddiaeth 
     
  • Astudiaethau Cymdeithasol  
  • Astudiaethau Crefyddol   

  • Busnes 

Bydd cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru hefyd yn caniatáu i ysgolion a dysgwyr wneud y defnydd gorau o'u hoffer digidol mewn ffyrdd eraill. Mewn llawer o bynciau, defnyddir technolegau digidol i alluogi profiadau dysgwyr, fel cael gafael ar ddeunydd adnoddau hanesyddol neu fynd ar deithiau rhithiol o amgylch amgylcheddau naturiol neu weithleoedd. Bydd technolegau digidol hefyd yn cael eu defnyddio i gwblhau a chyflwyno asesiadau di-arholiad. 

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, CBAC ac eraill i gefnogi gweithrediad effeithiol asesiadau digidol yn y cymwysterau newydd cyffrous hyn. 

Goruchwylio o bell

Mae'r defnydd o oruchwylio o bell o fewn asesiadau cymwysterau wedi esblygu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Un rheswm pwysig am y newid hwn oedd pandemig COVID-19. Roedd goruchwylio o bell a thechnolegau cysylltiedig eraill yn helpu cyrff dyfarnu i ganiatáu i asesiadau rhai cymwysterau barhau yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r technolegau hyn yn caniatáu i ddysgwyr sefyll asesiadau mewn lleoliad o'u dewis, tra'n sicrhau eu bod yn cael eu sefyll o dan amodau rheoledig. 

Rydyn ni’n archwilio sut mae technolegau goruchwylio o bell yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, ac a allen nhw ddod â manteision ychwanegol i'r system gymwysterau yng Nghymru.  

Yn ddiweddar, gwnaethom wahodd cyrff dyfarnu i ddod i gyfweliad lled-strwythuredig i fyfyrio ar eu defnydd o oruchwylio o bell. Gofynnon ni i gyrff dyfarnu am sut y gwnaethon nhw ddefnyddio goruchwylio o bell i addasu asesiadau yn ystod y pandemig, dylanwad hyn ar y cymwysterau maen nhw’n eu cynnig ar hyn o bryd, a beth all defnyddio technolegau ei olygu i ddysgwyr a chanolfannau. Mae eu cyfraniadau yn cael eu disgrifio yn ein dogfen gryno.  

Rydyn ni bellach yn archwilio barn dysgwyr ar dechnolegau goruchwylio o bell. Rydyn ni’n gwahodd dysgwyr i ymweld â'n llwyfan Dweud Eich Dweud i rannu eu barn a'u profiadau o sefyll asesiadau sydd wedi’u goruchwylio o bell. 

Asesu ffurfiannol

Wrth i dechnolegau digidol gael eu defnyddio’n ehangach mewn addysg, rydyn ni’n ymgysylltu ag ysgolion i ddeall sut maen nhw’n defnyddio technolegau digidol i wella arferion asesu ffurfiannol. 

Mae athrawon a dysgwyr wedi bod yn rhannu enghreifftiau o sut maen nhw’n defnyddio ystod o dechnolegau, mewn gwahanol feysydd pwnc, i gael mynediad at ddeunydd adolygu, rhoi cynnig ar gwestiynau ac ymarferion, ac i roi adborth i ddysgwyr.  

Yn ein hadroddiad diweddaru prosiect, rydyn ni’n disgrifio'r enghreifftiau hyn yn fanwl ac yn myfyrio ar y cyfleoedd y mae'r technolegau hyn yn eu cynnig i ysgolion a dysgwyr.  

Rydyn ni bellach yn gwahodd ysgolion eraill i rannu eu profiadau o ddefnyddio technolegau digidol ar gyfer asesiadau ffurfiannol gyda ni drwy ein llwyfan Dweud Eich Dweud. Mae cydweithio ag ysgolion yn ein helpu i ystyried yn well sut y gellir llunio asesiadau digidol mewn ffyrdd sy’n hydrin, yn afaelgar, yn ddibynadwy ac yn ddilys.  

Deallusrwydd artiffisial

Rydyn ni wedi diweddaru’r datganiad o’n safbwynt ar ddeallusrwydd artiffisial yn ddiweddar. Gallwch ddod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf yma.

Archwilio creadigrwydd, arloesedd a dilysrwydd mewn asesiadau ar sgrin

Mae hwn yn gyfnod cyffrous ym maes cymwysterau ac asesiadau yng Nghymru, gydag asesiadau digidol newydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o gyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru. Mae hyn yn golygu nad oes amser gwell i rannu peth o'r gwaith y mae ein tîm moderneiddio asesu yn ei wneud i archwilio'r manteision ychwanegol y gall technoleg ddigidol eu cynnig i asesu mewn cyfres blog newydd. 

Rydyn ni wedi bod yn ffodus i gydweithio â thri darparwr llwyfan asesu ar sgrin, RM, Surpass, a TCS iON, i gynnal cyfres o weithdai rhithwir gyda naw athro o bob rhan o Gymru er mwyn archwilio'r cyfleoedd a'r heriau y gall asesu digidol eu cynnig.  

Yn y gyfres yma o flogiau,  byddwn yn canolbwyntio ar dri maes allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod y gweithdai: 

Ymatebion amlfoddol – archwilio’r posibiliadau y gall ymatebion sain a fideo i eitemau eu cynnig yng nghyd-destun dylunio asesu. 

Arloesi - dangos mathau o eitemau arloesol a'r posibiliadau y gallan nhw eu cynnig o ran gwella egwyddorion allweddol ennyn diddordeb a dilysrwydd wrth asesu. 

Hygyrchedd a chynhwysiant ffocws ar yr amrywiaeth o offer a swyddogaethau hygyrchedd sydd ar gael ar lwyfannau ar y sgrin a sut y gall hyn gefnogi pob dysgwr. 

Yn ychwanegol at y blogiau hyn, byddwn ni hefyd yn rhannu crynodeb o'r adborth gan athrawon sy'n weddill ynglŷn â’u profiadau o greu eitemau asesu digidol yn ogystal â'r broses o bontio i asesiadau digidol. 

Gobeithio y byddwch yn gweld y blogiau hyn yn ddiddorol ac yn ymuno yn y sgwrs gyda ni, hefyd.