Cyflwyniad
Rydyn ni wedi mynd ati i feithrin diwylliant cynhwysol sy'n cydnabod talentau a chefndiroedd unigol, nodweddion sy’n cael eu gwarchod, dewisiadau iaith a safbwyntiau gwahanol – ymhlith ein staff a'n rhanddeiliaid.
Rydyn ni’n credu bod pob math o amrywiaeth yn ychwanegu gwir werth at ein gwaith.
Mae ein dull cynhwysol o ymgysylltu yn sicrhau bod sgyrsiau, adborth a phrofiadau gan ystod amrywiol o ddysgwyr yn cael eu rhannu ar draws y sefydliad i helpu i ddatblygu a llywio ein ffordd o feddwl a’n cynlluniau at y dyfodol.
Cynllun cydraddoldeb
Ein prif nodau yw sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol ar gyfer bodloni anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru, a hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.
O fewn y nodau hyn, rydyn ni wedi ymrwymo i:
- hyrwyddo amrywiaeth, gan gydnabod bod pawb yn wahanol a bod yr amrywiaeth yma’n dod â safbwyntiau ehangach sy'n ein helpu ni i ddeall a bodloni anghenion dysgwyr yn well
- trin pobl yn deg, fel bod pawb yn cael cyfle cyfartal a mynediad cyfartal – boed hynny wrth recriwtio, mewn polisïau Adnoddau Dynol, wrth ddatblygu staff, cymryd rhan mewn ymgynghoriadau, cael gwybodaeth gennym ni, defnyddio ein cyfleusterau neu fynychu ein digwyddiadau
- gwrthod goddef gwahaniaethu, erledigaeth, bwlio neu aflonyddu (uniongyrchol neu anuniongyrchol, bwriadol neu anfwriadol) yn erbyn unrhyw berson ar unrhyw sail o gwbl, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y nodweddion gwarchodedig hynny sy’n cael eu rhestru yn Neddf Cydraddoldeb 2010
- rhoi cyfle i'n polisïau a'n penderfyniadau gael eu llywio gan farn pobl sydd â nodweddion gwahanol a'r effaith bosibl arnyn nhw
- wrth reoleiddio cyrff dyfarnu, ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu, wrth ddatblygu cymwysterau, ddileu neu leihau anfanteision i bobl â nodweddion gwarchodedig a rhoi addasiadau/trefniadau rhesymol ar waith mewn modd rhagweithiol i alluogi pobl ag anabledd i allu dilyn cymwysterau;
- defnyddio ein dull o ymdrin â chydraddoldeb i ymgorffori hawliau dynol yn seiliedig ar werthoedd cyffredin tegwch, cydraddoldeb, amrywiaeth, urddas a pharch
- cydnabod hawliau plant a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn drwy geisio deall ac ystyried barn plant mewn penderfyniadau neu bolisïau perthnasol
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb 2022-2028 presennol yn amlinellu pum amcan cydraddoldeb sefydliadol allweddol:
- cynyddu cynrychiolaeth a chynhwysiant o fewn y cynnig cymwysterau drwy sicrhau bod cynnwys cymwysterau cymeradwy yn adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas, bod yr ystod yn gynhwysol a bod cymwysterau’n cael eu dylunio mewn ffordd sy’n deg ac yn hybu cyfle cyfartal
- mabwysiadu dull rheoleiddio teg, tryloyw a diduedd sy’n cefnogi cynwysoldeb ac amrywiaeth wrth gyflwyno ac asesu cymwysterau
- gwella amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn ein gweithlu a’n bwrdd, tra’n hyrwyddo diwylliant gweithle hygyrch a chynhwysol
- cynnwys rhanddeiliaid amrywiol yn ein gwaith a chynnal ymchwil i ddeall eu hanghenion a gwahanol safbwyntiau, llywio penderfyniadau a sbarduno newid
Rydyn ni’n adrodd ar ein cynnydd yn erbyn ein hamcanion cydraddoldeb bob blwyddyn.
Mae modd darllen ein hadroddiad cydraddoldeb diweddaraf ar gyfer y cyfnod 2023-2024 yma.
Gallwch hefyd edrych yn ôl ar ein hadroddiadau ar gyfer 2020-21, 2021-22 a 2022-23 a'n Cynllun Cydraddoldeb 2022-2024.
Cymwysterau cynhwysol
Mae Cymwysterau Cymru a CCEA Regulation wedi llunio canllawiau ar y cyd, ar sut y gellir cynllunio cymwysterau i roi'r cyfleoedd tecaf posibl i bob dysgwr ddangos yr hyn y maent yn ei wybod, ei ddeall ac y gallant ei wneud.
Gall ystyried mynediad teg yn gynnar wrth ddylunio cymhwyster neu asesiad helpu i leihau'r angen am addasiadau neu addasiadau dilynol. Am ragor o fanylion, darllenwch ein canllaw Mynediad Teg Drwy Ddylunio.
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru roi sylw dyledus i’r angen i:
- ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth, ac unrhyw ymddygiad arall a gaiff ei wahardd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydyn nhw
- meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydyn nhw
Mae’r ddyletswydd gyffredinol yn cwmpasu’r nodweddion gwarchodedig canlynol - oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Mae'n ddyletswydd arnom ni i gyhoeddi gwybodaeth am gyflogaeth bob blwyddyn a'i chyflwyno ar gyfer pob un o'r naw nodwedd warchodedig wahanol. Mae ein data diweddaraf - ar gyfer 2020-2022 ar gael isod. Er mwyn cynyddu hygyrchedd, atebolrwydd a thryloywder, cyhoeddir y data ar ffurf data agored.
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n deall bod hyn yn golygu mynd ati i adnabod a dileu'r systemau, y strwythurau a’r prosesau sy'n cynhyrchu canlyniadau gwahaniaethol iawn mewn bywyd i ddysgwyr o gefndiroedd amrywiol.
Dyma ein cynllun gweithredu sefydliadol ein hunain sy'n cwmpasu'r cyfnod ar gyfer 2024-2028
Gellir darllen ein hadroddiad cynnydd gwrth-hiliol diweddaraf ar y cyfnod 2022-2024 yma.