Cyflwyniad
Os nad wyt ti wedi clywed am Cymwysterau Cymru o'r blaen, rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac eraill, i wneud yn siŵr bod cymwysterau yn bodloni'ch anghenion, ac yn hybu hyder yn y system gymwysterau.
Rydym yn rheoleiddio cyrff dyfarnu sy'n datblygu ac yn darparu'r cymwysterau canlynol yng Nghymru:
Lefelau cymwysterau
Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio pob cymhwyster yng Nghymru a gynigir gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig, ar wahân i raddau. Mae'n bwysig i ti wybod pa lefel yw cymhwyster, er mwyn i ti allu deall sut y gall dy helpu gyda'r gamau nesaf i mewn i'r gwaith, neu astudiaethau ymhellach.
Ar draws y DU, mae'r rhan fwyaf o gymwysterau a gymerir yn yr ysgol, coleg addysg bellach, gwaith neu brifysgol yn ffitio i un o naw lefel (12 yn yr Alban). Yr uchaf yw'r lefel, yr anoddaf yw'r cymhwyster. Gall cymwysterau ar yr un lefel fod yn wahanol iawn o ran cynnwys a'r amser maen nhw'n ei gymryd i'w gwblhau.
Mae Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru'n darparu un ffordd gyffredin o fesur yr hyn a gyflawnir wrth ddysgu, gan ddysgwyr o bob oedran a gallu. Mae fframweithiau tebyg ym mhob un o wledydd y DU.
Arholiadau ac asesiadau 2023-24
Y flwyddyn academaidd hon, rydym yn cymryd y cam olaf ar ein taith yn ôl i drefniadau cyn y pandemig ar gyfer cymwysterau yng Nghymru.
Bydd popeth sydd angen i chi ei wybod am y trefniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau’r flwyddyn academaidd hon yn yr adran arbennig hon ar gyfer arholiadau ac asesiadau 2023-24.
Canlyniadau Haf 2023
Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, un o’n prif weithgareddau yw goruchwylio’r broses o ddyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, Tystysgrifau Her Sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.
Yn yr adran hon sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer canlyniadau haf 2023, fe weli di fanylion am sut y caiff cymwysterau yng Nghymru eu dyfarnu eleni, golwg cyffredinol ar y broses apelio, yn ogystal â chymorth a chefnogaeth i ddysgwyr sy'n ystyried eu camau nesaf. Ar ddiwrnodau'r canlyniadau, byddwn ni hefyd yn cyhoeddi ein hadroddiadau Adolygu Cyfres Arholiadau Haf 2023 a chanllawiau Canlyniadau Haf 2023.
I gael rhagor o wybodaeth, cer i'n hadran sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer Canlyniadau Haf 2023.
Lefel Nesa
Mae Cymwysterau Cymru’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ar Lefel Nesa, sy’n cynnwys awgrymiadau a gwybodaeth i’th helpu yn ystod tymor arholiadau ac asesiadau 2022/23 ac ar gyfer y cam nesaf yn dy fywyd.
Arholiadau 360
Mae pobl yn aml yn ein holi ni am y system arholiadau a sut mae’n gweithio. Pethau fel, pwy sy’n ysgrifennu fy mhapur arholiad a sut mae graddau arholiadau’n cael eu gosod?
Ar Arholiadau 360, mae modd i ti ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau hynny ac i ymholiadau cyffredin eraill sy’n gysylltiedig ag arholiadau.
TGAU Gwneud-i-Gymru
Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar gyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau eraill Gwneud-i-Gymru a fydd yn gwireddu uchelgais y Cwricwlwm i Gymru ac yn bodloni anghenion dysgwyr. Rydyn ni wedi bod yn ymgynghori ar gyfres lawn o gynigion dylunio ar gyfer pob pwnc a fydd ar gael o 2025.
Mae barn dysgwyr presennol o bob oed yn rhan bwysig o'r gwaith yma. Wrth baratoi ar gyfer yr ymgynghoriad, fe wnaethom ni gynnal cyfres o weithdai a siarad â dysgwyr ym mhob rhan o’r wlad – mae modd cael gwybod rhagor yn ein Hadroddiad Llais y Dysgwr.
Ymuna’r ein grwpiau ddysgwyr
Mae llunio cymwysterau sy’n bodloni anghenion y dyfodol yn faes pwysig o’n gwaith. Er mwyn ein helpu ni i wneud hyn, rydyn ni wedi sefydlu dau grŵp i ddysgwyr sy'n galluogi i lais dysgwyr gael ei gynnwys yn ein gwaith.
Mae aelodau’r ddau grŵp yn bobl ifanc ysbrydoledig sydd ag ystod amrywiol ac eang o brofiadau. Rydyn ni’n chwilio am ddysgwyr newydd i ymuno â'n grwpiau, felly os hoffet ti gymryd rhan, anfona dy gais atom ni.
Mae ymuno ag un o’n grwpiau dysgwyr yn gyfle gwych i ti fagu hyder, dweud dy ddweud ar gymwysterau yng Nghymru, a rhoi profiad gwerthfawr i ti i gefnogi’r camau nesaf ar dy daith ddysgu neu waith.