Cyflwyniad

Mae Cymru’n genedl ddwyieithog a chanddi uchelgais gref i gynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg.

I gefnogi hyn, ac i sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru'n gallu dilyn cymwysterau yn eu dewis iaith, rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu ystod ac argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.

Dewis i Bawb

Gyda thwf addysg cyfrwng Cymraeg, rhagwelir y bydd nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg yn cynyddu i 70% erbyn 2050.

Mae ein strategaeth Dewis i Bawb yn nodi’n glir ein hymrwymiad i’r Gymraeg a’n nod i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.

Mae hefyd yn pwysleisio ein bwriad i weithio gyda chyrff dyfarnu a phartneriaid eraill er mwyn cyfrannu tuag at flaenoriaethau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Mae Dewis i Bawb yn nodi pedwar maes ffocws strategol:

  • blaenoriaethu cymwysterau sydd ar gael yn Gymraeg mewn addysg amser llawn, lleoliadau ôl-16 a phrentisiaethau
  • cryfhau'r gefnogaeth i gyrff dyfarnu a'u gallu i ddarparu cymwysterau cyfrwng Cymraeg
  • adolygu ein grant Cymorth i’r Gymraeg er mwyn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth, cymwysterau newydd a cheisiadau arloesol
  • gwella gwybodaeth a data ar gyfer dysgwyr, ysgolion a cholegau, ac at ein dibenion rheoleiddio.

Gofynion rheoleiddio

Mae Amod D9 o'n Hamodau Cydnabod Safonol yn amlinellu ein Hamodau a'n gofynion ar gyfer cyrff dyfarnu cydnabyddedig ynghylch cymwysterau cyfrwng Cymraeg. 

Yn benodol: 

  • rhaid i gorff dyfarnu sicrhau bod cymwysterau Cymeradwy ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg 
  • rhaid i gorff dyfarnu sicrhau bod cymwysterau Dynodedig i ddysgwyr cyn-16 fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â'n Polisi Dynodi, o fis Medi 2027 (neu unrhyw ddyddiad a gaiff ei osod gennym ni)  
  • mae'n ofynnol i bob corff dyfarnu gyhoeddi datganiad polisi sy'n nodi i ba raddau maen nhw’n sicrhau bod cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg 
  • pan fo corff dyfarnu yn sicrhau bod cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iddo hyrwyddo argaeledd y cymwysterau hynny a hwyluso mynediad atyn nhw 

Er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth â’r gofynion rheoleiddio hyn, rydyn ni wedi cyhoeddi Canllawiau i gyrff dyfarnu ar Amod D9: cymwysterau cyfrwng Cymraeg.  

 

Y Cynnig Cymraeg - Cynnig Gweithredol

Yn rhan o'n gwaith o gryfhau'r cymorth i gyrff dyfarnu a gwella'r wybodaeth sydd ar gael i ddysgwyr, ysgolion, a cholegau am argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg, rydyn ni wedi cynhyrchu pecyn adnoddau rhyngweithiol i gefnogi'r holl gyrff dyfarnu i ddarparu’r Cynnig Cymraeg - y Cynnig Gweithredol, mewn modd rhagweithiol.

Mae'r pecyn yn annog cyrff dyfarnu i ddarparu gwybodaeth benodol i ddysgwyr am gymwysterau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac i hyrwyddo a hysbysebu cymwysterau Cymraeg neu ddwyieithog i ddysgwyr Cymru.

Cymwysterau cyfrwng Cymraeg sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus

Mae cyrff dyfarnu wedi bod yn gweithio gyda ni i gadarnhau’r canlynol:

  • y cymwysterau maen nhw’n eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg
  • y cymwysterau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg sydd yn dod i ben a, lle bo hynny'n berthnasol, y cymwysterau fydd yn eu disodli
  • cymwysterau newydd sy'n cael eu datblygu ac a fydd ar gael i ddysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg yn fuan.

Rydyn ni wedi cysylltu â nifer o gyrff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau a gaiff eu hariannu’n gyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg.

Os nad ydyn ni wedi cysylltu â chi, neu os ydych chi am ddiweddaru'r wybodaeth a ddarparwyd gan eich sefydliad, cysylltwch â ni.

Chwilio cronfa ddata QiW.

Grantiau’n ymwneud â’r Gymraeg

Rydyn ni’n cynnig grantiau i gyrff dyfarnu i helpu i gynnal a chynyddu argaeledd darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Gall cyrff dyfarnu wneud cais i ni am gymorth ariannol i helpu gyda'r gost o fodloni'r galw am gymwysterau a gaiff eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydyn ni hefyd yn rhoi grant i CBAC er mwyn helpu i gyfieithu papurau asesu byw ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch.

Grwpiau cymorth a chynghori

Mae gennym ni Grŵp Cefnogi Cyrff Dyfarnu gyda’r Gymraeg lle rydyn ni’n trafod materion sy'n ymwneud â chymwysterau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog gyda chyrff dyfarnu.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno, cysylltwch â grwpcymorthcymraeg@cymwysterau.cymru

Weithiau, mae cyrff dyfarnu yn ei chael hi’n anodd recriwtio personél asesu sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Os oes diddordeb gennych chi mewn dod yn aseswr neu'n gymedrolwr/dilyswr allanol cyfrwng Cymraeg, cysylltwch â'r corff dyfarnu perthnasol neu cysylltwch â ni ar yr e-bost uchod i drafod.