Cyflwyniad
Mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod y gall hyfywedd cymwysterau yn y Gymraeg fod yn her i gyrff dyfarnu, gan y gall nifer y dysgwyr sy'n dilyn cymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg weithiau fod yn isel neu amrywio dros amser.
Yn ogystal, lle mae galw gan ddysgwyr wedi’i nodi, gall fod yn her ymateb mewn pryd i’r dysgwyr hynny, gyda darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ei lle ymhell ar ôl iddyn nhw symud ymlaen drwy’r system.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged amcanol i 70% o’r holl ddysgwyr ar ddiwedd addysg statudol allu siarad Cymraeg (sy’n cyfateb i tua 25,000) erbyn 2050.
Mae'n debygol y bydd nifer y dysgwyr sydd eisiau dilyn cymwysterau cyfrwng Cymraeg yn cynyddu ac mae'n annhebygol y bydd y cyflenwad presennol o gymwysterau yn ddigonol i ateb y galw yn y dyfodol.
Mae hwyluso ac annog y defnydd o’r Gymraeg ar gyfer asesu ac arholi yn rhywbeth rydyn ni’n ei alw’r Cynnig Cymraeg - Y Cynnig Gweithredol.
Comisiynwyd y pecyn adnoddau yma gan Cymwysterau Cymru ac fe'i crëwyd gan IAITH - y ganolfan cynllunio ieithyddol. Nod y pecyn yw cefnogi pob corff dyfarnu cydnabyddedig i gyflwyno Cynnig Cymraeg Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer cyrff cyhoeddus, a gwneud hynny’n rhagweithiol. Yn yr adnoddau hyn, rydyn ni’n cyfeirio at hyn fel y Cynnig Gweithredol.
Hybu a hwyluso
Gan ddilyn arweiniad y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae Cymwysterau Cymru wedi creu pecyn adnoddau a fydd yn cefnogi pob corff dyfarnu i gyflwyno’r Cynnig Cymraeg.
Mae’r pecyn adnoddau yn cynnig arweiniad i gyrff dyfarnu ar sut y gellir cyflwyno’r Cynnig Cymraeg ochr yn ochr â thaith cymhwyster dysgwr ac mae’n cynnwys enghreifftiau o arfer da a chysylltiadau ag adnoddau a chysylltiadau ychwanegol.
Mae'r pecyn adnoddau’n annog cyrff dyfarnu i ddarparu gwybodaeth wedi'i thargedu i ddysgwyr am gymwysterau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a gwneud hynny heb iddyn nhw orfod gofyn amdani.
Mae hefyd yn annog cyrff dyfarnu i fynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo a hysbysebu cymwysterau Cymraeg neu ddwyieithog drwy dynnu sylw at eu hargaeledd ac annog dysgwyr a chanolfannau i fanteisio arnyn nhw.
Pecyn adnoddau
Mae'r pecyn wedi'i rannu'n adrannau ac mae wedi'i gynllunio i fod yn adnodd rwydweithiol neidio mewn ac allan - sy’n eich galluogi i gael mynediad at wybodaeth sydd o bwys i chi.
Mae'r adnoddau’n cynnwys y canlynol:
- cyflwyniad i'r Cynnig Gweithredol – gan gynnwys ei fanteision i chi ac i ddysgwyr
- ffyrdd y gallwch chi oresgyn heriau sy'n gysylltiedig â sicrhau bod cymwysterau Cymraeg a dwyieithog ar gael ac annog pobl i fanteisio arnyn nhw
- sut mae'r Cynnig Gweithredol eisoes yn cael ei gyflwyno gan eraill
- syniadau a chamau ymarferol y gallwch chi eu cymryd i wireddu'r Cynnig Gweithredol
- dolenni defnyddiol i adnoddau, cefnogaeth a chanllawiau ychwanegol.
Mae yna hefyd dri phroffil dysgwr sy’n dangos sut y gall y graddau y mae’r Cynnig Cymraeg yn cael ei gyflwyno effeithio ar brofiad dysgwr wrth dilyn cymhwyster.
Mae modd gweld y pecyn adnoddau llawn drwy glicio ar y dolenni unigol isod:
- Cefndir
- Beth yw'r Cynnig Gweithredol?
- Manteision y Cynnig Gweithredol
- Pam bod angen y Cynnig Gweithredol arnon ni?
- Cyflwyno'r Cynnig Gweithredol
- Profiad y Dysgwr
- Rhannu Arfer Dda.
Gwybodaeth ac Adnoddau Defnyddiol.