Yn yr adran hon...
Cyflwyniad
Y Prif Weithredwr a'r Tîm Gweithredol sy'n gyfrifol am weithgareddau Cymwysterau Cymru o ddydd i ddydd. Mae ein gwaith ni a gwaith y sefydliad ehangach yn cael ei oruchwylio gan fwrdd a benodwyd yn gyhoeddus. Amlinellir gwybodaeth fanwl am ein nodau, ein gweithrediadau a'n atebolrwydd yn ein dogfen fframwaith.
Rôl y bwrdd
Mae'r bwrdd yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn ac yn cynnwys y Cadeirydd, y Prif Weithredwr a hyd at ddeg aelod arall.
Mae’r bwrdd yn gyfrifol am:
- ddiffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion
- dwyn y Prif Weithredwr i gyfrif a monitro gweithgareddau Cymwysterau Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol
- hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus - gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian.
Aelodau'r bwrdd
David Jones OBE DL, Cadeirydd
Penodir David B. Jones gan Lywodraeth Cymru yn Gadeirydd Cymwysterau Cymru, ynghyd ag aelodau anweithredol eraill y bwrdd.. Mae hefyd yn atebol i Senedd Cymru am berfformiad y sefydliad yn unol â Deddf Cymwysterau Cymru 2015. Cafodd ei benodi i ddechrau ym mis Hydref 2019, a'i ailbenodi am ail dymor tair blynedd ym mis Hydref 2022.
Ac yntau’n Beiriannydd Electroneg Siartredig, mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad o weithio ym maes addysg bellach ac addysg uwch ac fe fu’n Brif Weithredwr Coleg Cambria. Mae ganddo hefyd brofiad eang mewn amrywiaeth o rolau anweithredol, gan gynnwys penodiadau cyfredol gyda Chyfarpar Amddiffyn a Chymorth (Deca), Estyn ac NSPCC Cymru. Bu hefyd yn arwain adolygiad 2023 o Addysg Bellach a Hyfforddiant yn y sector Byrddau Addysg a Hyfforddiant yn Iwerddon.
Mae David yn siaradwr Cymraeg rhugl, ac yn byw yn Rhuthun, Sir Ddinbych.
Philip Blaker, Prif Weithredwr
Fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu Cymwysterau Cymru, mae Philip Blaker yn bersonol gyfrifol am:
- ofalu’n briodol am arian cyhoeddus
- gweithrediadau o ddydd i ddydd
- sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.
Mae ganddo gefndir mewn darparu asesiadau ac arholiadau cenedlaethol ac mae ei yrfa wedi canolbwyntio ar gyflawni gwaith cymhleth ar raddfa fawr
Daeth Philip yn Brif Weithredwr pan sefydlwyd Cymwysterau Cymru yn 2015.
Douglas Blackstock, aelod o’r bwrdd
Douglas yw Llywydd y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch (ENQA), sydd ag aelodau a chysylltiadau mewn 45 o wledydd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop.
Mae’n gyn Brif Weithredwr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd annibynnol y DU ar gyfer Addysg Uwch (QAA), eu rôl yw sicrhau bod safonau academaidd yn cael eu cynnal a bod cyfleoedd dysgu myfyrwyr o’r ansawdd uchaf ar draws pedair gwlad y DU. Bu Douglas mewn swyddi Gweithredol yn yr Asiantaeth am 20 mlynedd ac mae bellach yn gweithredu fel ymgynghorydd rhyngwladol i QAA. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth ymgynghori annibynnol ac yn aelod o fwrdd ymgynghorol y Sefydliad Addysg Gydol Oes.
Yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd Cymwysterau Cymru, mae ganddo rolau cyfarwyddwr anweithredol yn Cilex Legal Regulation, Prifysgol y Gyfraith, Y Brifysgol Brydeinig yn yr Aifft, a Choleg De Swydd Gaerloyw a Stroud ac mae’n aelod o Fwrdd Cynghori FutureLearn
Ymunodd Douglas â'r Bwrdd ym mis Mehefin 2021.
Julie Brannan, aelod o’r bwrdd
Mae Julie yn gyn Gyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant yn yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, a hi fu’n arwain y gwaith o gyflwyno'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr newydd ar gyfer derbyn mynediad fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.
Cyn hynny, roedd hi’n Gyfarwyddwr Sefydliad Rhydychen dros Ymarfer Cyfreithiol ac yn bartner ymgyfreitha yn Herbert Smith Freehills.
Yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd Cymwysterau Cymru, mae Julie yn aelod o Fwrdd Cynghori Barbri UK.
Ymunodd Julie â'r Bwrdd ym mis Medi 2021.
Anne Marie Duffy OBE, aelod o'r bwrdd
Mae Anne Marie wedi gweithio yn y sector addysg yng Ngogledd Iwerddon fel athrawes, uwch-reolwr a chyfarwyddwr. Bu'n Gyfarwyddwr Cymwysterau yn CCEA (y Cyngor Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu), yn gyfrifol am gyfarwyddo’r gwaith o lunio, gweithredu, cyflwyno a graddio cymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol ac mae hi wedi dal rôl Swyddog Cyfrifol. Bu hefyd yn cyfarwyddo rhaglen trawsnewid digidol CCEA.
Mae’n parhau i wasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Cwricwlwm ar gorff llywodraethu ysgol gyfun fawr yng nghanol dinas ac mae’n Gadeirydd Pwyllgor Addysg, Hyfforddiant a Safonau Bwrdd Nyrsio a Bydwreigiaeth Iwerddon. Fe’i penodwyd yn OBE yn 2017 am Wasanaethau i Addysg.
Ymunodd Anne Marie â'r Bwrdd ym mis Ebrill 2019.
Michael Griffiths OBE, aelod o’r bwrdd
Roedd Michael yn bennaeth mewn dwy o ysgolion uwchradd mwyaf de Cymru yn ystod gyrfa hir yn dysgu.
Ar hyn o bryd mae Mike yn ymgynghorydd addysgol, yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth ac ymchwil, sydd yn y gorffennol wedi cynnwys y sectorau ysgolion a phrifysgolion yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rhwng 2012 a 2021, roedd yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn Gadeirydd ei Bwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol.
Ymunodd Michael â'r Bwrdd ym mis Mehefin 2021.
Graham Hudson, aelod o’r bwrdd
Mae gan Graham gefndir hir ym maes safonau a chymwysterau gydag amrywiaeth o gyrff dyfarnu a rheoleiddio. Arweiniodd raglen ymchwil a ariannwyd yn gyhoeddus a oedd yn cynnwys yr holl wledydd datganoledig oedd yn edrych ar y defnydd o dechnoleg mewn arholiadau ac asesiadau.
Ar hyn o bryd mae'n cefnogi sefydliadau sy'n dymuno symud i asesiadau digidol prif ffrwd a hyrwyddo'r achos dros ddefnyddio asesiadau technoleg estynedig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n Aelod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr, yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac yn Gadeirydd y Gymdeithas e-Asesu.
Ymunodd Graham â'r Bwrdd ym mis Mehefin 2021.
Yr Athro John Latham CBE, aelod bwrdd
John yw Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredol Grŵp Prifysgol Coventry. Mae ganddo gefndir mewn technoleg gwybodaeth a thelathrebu. Yn y gorffennol, bu'n gweithio i nifer o sefydliadau sector preifat gan gynnwys JHP Group, Jaguar Cars a BT.
Mae John wedi dal rolau proffil uchel ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol ac Ewropeaidd yn hyrwyddo arloesedd, technoleg a datblygiad economaidd. Mae hefyd yn aelod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr a’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig.
Ymunodd John â'r Bwrdd ym mis Rhagfyr 2021.
Ravi Pawar, cynghorydd i'r bwrdd
Mae gan Ravi 30 mlynedd o brofiad o weithio ym maes addysg uwchradd fel athro ac uwch-arweinydd mewn ysgolion ar draws de Cymru. Ar hyn o bryd mae'n bennaeth Ysgol Gyfun Bryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae wedi cyfrannu at waith Cymwysterau Cymru fel aelod o'i Grŵp Cyfeirio Penaethiaid. Ef yw Cadeirydd presennol Parthian Books, gan gyfrannu at ddiwylliant llenyddol Cymru drwy gyhoeddi'r gyfres Library of Wales.
Ymunodd Ravi â'r Bwrdd fel cynghorydd ym mis Medi 2022 i Mawrth 2024.
Hannah Rowan, aelod o’r bwrdd
Dechreuodd Hannah ei gyrfa gyda Teach First, elusen sy'n hyfforddi athrawon i weithio mewn ysgolion sy'n gwasanaethu cymunedau difreintiedig. Bu’n gweithio fel athrawes ieithoedd cyn ymuno â thîm y staff ac yn y pen draw rheoli rhaglen Teach First yng Nghymru.
Mae hi bellach yn rhedeg ei busnes ymgynghori ei hun, gan ddefnyddio ei sgiliau hyfforddi a rheoli newid i helpu sefydliadau nid-er-elw i ddatrys problemau cymhleth. Mae'n parhau i weithio ar amrywiaeth o brosiectau i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, lle mae’n gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Partneriaeth Academaidd ac mae ganddi rôl Hyrwyddwr Ymchwil.
Ymunodd Hannah â'r Bwrdd ym mis Ebrill 2021.
Jayne Woods, aelod o'r bwrdd
Mae Jayne yn un o gymrodorion Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr gyda dros 25 mlynedd o brofiad fel gweithiwr cyllid proffesiynol. Mae hi wedi gwasanaethu ar fyrddau gweithredol ers dros ddeng mlynedd, gan ganolbwyntio ar gyllid, risg, llywodraethu ac effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithredol.
Ar hyn o bryd, mae'n aelod annibynnol o Bwyllgor Cyfalaf, Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae'n Llywodraethwr ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yng Ngholeg Sir Gâr ac mae wedi gweithio mewn ystod o swyddi cyllid amrywiol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Ymunodd Jayne â'r Bwrdd ym mis Ebrill 2019.
Gwrthdaro buddiannau
Mae'n ofynnol i holl aelodau'r bwrdd gwblhau Datganiadau o Ddiddordeb.
Y tîm gweithredol
Mae tîm gweithredol Cymwysterau Cymru yn gyfrifol am weithgareddau'r sefydliad o ddydd i ddydd ac yn cydweithio â'r bwrdd wrth ddatblygu strategaethau a chynlluniau hirdymor.
Mae'r tîm gweithredol yn cynnwys:
- Prif Weithredwr
- Cyfarwyddwr Gweithredol, Rheoleiddio
- Cyfarwyddwr Gweithredol, Adnoddau Corfforaethol
- Cyfarwyddwr, Polisi a Diwygio Cymwysterau (Cymwysterau Galwedigaethol)
- Cyfarwyddwr, Polisi a Diwygio Cymwysterau (Cymwysterau Cyffredinol)
- Cyfarwyddwr, Cyfathrebu ac Ymgysylltu.
Pwyllgorau'r bwrdd
Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, ynghyd â’n harchwilwyr mewnol ac allanol, i adolygu ein prosesau ar gyfer risg, rheolaeth a llywodraethu, ac i asesu ein datganiadau ariannol a’n cyfrifon.
Y Pwyllgor Adnoddau
Mae'r Pwyllgor Adnoddau yn canolbwyntio ar gyllid, cynllunio busnes ac adnoddau dynol. Mae'n cyfarfod tua thair gwaith y flwyddyn.
Y Pwyllgor Rheoleiddio
Mae'r Pwyllgor Rheoleiddio Polisi a Goruchwylio Safonau yn rhoi argymhellion i'r bwrdd ar unrhyw faterion sy'n ymwneud â rheoliadau, polisïau a fframweithiau. Mae'r pwyllgor yn cyfarfod hyd at bedair gwaith y flwyddyn.
Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol
Mae'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn i ddarparu argymhellion ar gydnabyddiaeth ariannol staff ac aelodau'r bwrdd, gan gynnwys telerau ac amodau, buddion, cyflogau a phensiynau.
Bwrdd Cymwysterau Cymru - Cylch Gorchwyl
Cofnodion y bwrdd
Mae cofnodion holl gyfarfodydd diweddar bwrdd Cymwysterau Cymru i'w gweld isod.