Cyflwyniad

Mae ein strategaethau a'n polisïau yn nodi sut rydym yn bwriadu cynnal ein gweithgareddau.

Mae ein cynlluniau busnes ac adroddiadau ariannol yn dangos sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau i gyflawni ein nodau a'n hamcanion, mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.

Mae ein hadroddiadau blynyddol yn adlewyrchu ar sut rydym yn symud ymlaen yn erbyn yr ymrwymiadau hynny.

Blaenoriaethau strategol

Mae’r Cynllun, sy’n cwmpasu’r cyfnod 2022 i 2027, wedi’i ysbrydoli gan awydd i sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn elwa ar system asesu sydd ymhlith y mwyaf arloesol a’r mwyaf modern yn y byd, gan wneud y gorau o ystod eang o dechnegau asesu a meithrin hyblygrwydd o ran sut, a phryd, y bydd dysgwyr yn cael eu hasesu. 

Mae’r cynllun yn amlinellu sut, dros y pum mlynedd nesaf, y bydd Cymwysterau Cymru yn: 

  • cwblhau ei raglen o adolygiadau sector a dechrau gwerthuso manteision ac effaith ein diwygiadau; 
  • gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, cyrff dyfarnu ac eraill i sicrhau a chryfhau ystod gynaliadwy o gymwysterau cadarn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid ôl-16; 
  • parhau â’i waith o adolygu cymwysterau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod perthynas glir rhwng cymwysterau 14-16 a dilyniant i addysg uwch; 
  • cwblhau ei waith o adolygu a diwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru, gan sicrhau bod dull cydgysylltiedig a chadarn o asesu llythrennedd, rhifedd a sgiliau perthnasol eraill i ddiwallu anghenion dysgwyr; 
  • gweithio gyda chyrff dyfarnu i gynyddu’r ystod o gymwysterau sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, fel bod nifer y dysgwyr sy’n gallu cael mynediad at gymwysterau yn y naill iaith neu’r llall yn cynyddu’n sylweddol; 
  • hyrwyddo dulliau modern, cadarn ac arloesol o asesu

Cynllunio busnes

Mae ein Cynllun Busnes yn sefydlu ein blaenoriaethau gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 – 24 sy’n dechrau ac yn gorffen ym mis Ebrill. Rydym bellach wedi cyhoeddi ein cynllun busnes a gallwch ei ddarllen yma.  

 Mae’r cynllun wedi cael ei siapio o amgylch ein Blaenoriaethau Strategol pum mlynedd ac mae’n rhoi pethau i ni ganolbwyntio arnynt dros y flwyddyn nesaf 

Mae hefyd yn cynnwys y gweithredoedd yr ydym yn bwriadu cynyddu drwy ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol gan egluro sut yr ydym yn cefnogi Lles Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Adroddiad blynyddol

Roedd y cyfnod adrodd ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-2022 yn un o heriau parhaus i'r system addysg.

Mae'r adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at rywfaint o waith Cymwysterau Cymru yn ystod y cyfnod yma, yn cynnwys: 

  • Monitro a goruchwylio cyflwyno'n ddiogel y gyfres arholiadau gyntaf ers tair blynedd  
  • Paratoi ar gyfer ei ymgynghoriad mwyaf erioed, i ddiwygio TGAU yng Nghymru 
  • Dechrau gweithio i nodi pa gymwysterau eraill y dylai fod ar gael fel rhan o gynnig cydlynol, cynhwysol i'r rhai rhwng 14-16 oed 
  • Parhau i fonitro cymwysterau galwedigaethol newydd wedi’u Gwneud-i-Gymru, mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig  
  • Cynhyrchu adnoddau newydd i gefnogi cyrff dyfarnu i wella argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg 
  • Comisiynu cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru newydd a fydd yn dechrau cael ei addysgu o'r flwyddyn nesaf ymlaen 

Adrodd ariannol

Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, rydym yn ymrwymo i gyhoeddi ein cyfrifon bob blwyddyn.

Mae ein set ddiweddaraf o gyfrifon blynyddol yn ymdrin â'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022. Mae'n bleser gan y Swyddog Cyfrifyddu gadarnhau ei fod yn adroddiad 'diamod' gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Gallwch hefyd adolygu ein cyfrifon am y cyfnodau sy'n cwmpasu 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 a 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020.

Yr iaith Gymraeg

Mae ein strategaeth Dewis i Bawb yn nodi’n glir ein hymrwymiad i’r Gymraeg a’n nod i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg. 

Mae hefyd yn pwysleisio ein bwriad i weithio gyda chyrff dyfarnu a phartneriaid eraill er mwyn cyfrannu at flaenoriaethau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. 

Mae Dewis i Bawb yn nodi pedwar maes ffocws strategol: 

  • blaenoriaethu cymwysterau i fod ar gael yn Gymraeg mewn addysg llawn amser, lleoliadau ôl-16 a phrentisiaethau 
  •  cryfhau cymorth i gyrff dyfarnu a’u gallu i ddarparu cymwysterau cyfrwng Cymraeg 
  • adolygu ein grant Cymorth Iaith Gymraeg i ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth, cymwysterau newydd a chymwysiadau arloesol 
  • gwella gwybodaeth a dyddiad ar gyfer dysgwyr, ysgolion a cholegau, ac at ein dibenion rheoleiddio 

Rydym hefyd wedi cynhyrchu ac yn adolygu Cynllun Iaith Gymraeg yn rheolaidd, sy'n nodi sut rydym yn cyflawni ein swyddogaethau a'n cyfrifoldebau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.

Llesiant cenedlaethau'r dyfodol

Er nad ydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar hyn o bryd, rydym o’r farn bod ein rôl yn cefnogi ei phwrpas, a bod ei gofynion yn gydnaws â sut rydym yn gweithio. O ganlyniad, rydym wedi dewis yn wirfoddol i ymgymryd á darpariaethau’r Ddeddf fel sail i’r ffordd yr ydym yn cyflawni ein swyddogaethau.

Mae ein gwaith yn seiliedig ar ein gwerthoedd:

  • cydweithredol yn y ffordd yr ydym yn gweithio
  • meddylgar yn y dulliau rydym yn cymryd
  • cadarnhaol o ran ein hagwedd
  • dysgu o brofiad ac eraill

Mae’r gwerthoedd hyn yn gosod cydweithrediad a phenderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ystyriol, wrth wraidd ein hymddygiad. Mae cymwysterau yn hynod bwysig i ni oherwydd ein bod yn deall y gwahaniaeth y mae addysg dda yn ei wneud i gyfleoedd bywyd hirdymor, a phwysigrwydd gallu dangos cyflawniad trwy gymwysterau cadarn ac ystyrlon.