Amdanom ni

Mae ein system addysg yn ganolog i ddyfodol ein cenedl. Mae hi'n hanfodol er mwyn creu Cymru lewyrchus gyda mwy o gyfle cyfartal, diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy'n ffynnu.

Mae cymwysterau - a hyder pobl ynddyn nhw - yn hanfodol i'r ffyniant hwnnw.

Cymwysterau Cymru yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru a gynigir gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig. Rydyn ni eisiau i bawb yng Nghymru fod yn hyderus bod y cymwysterau mae ein dysgwyr yn eu cyflawni yn deg, yn ddibynadwy ac yn cael eu gwerthfawrogi ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Yr un mor bwysig â chynnal yr hyder hwnnw yw siapio sut bydd cymwysterau'n diwallu anghenion dysgwyr yn y dyfodol - ac mae hynny'n rhan o'n rôl ni hefyd.

Bwriad ein blaenoriaethau strategol yw creu system gymwysterau gryfach, fwy cadarn a mwy gwydn sy'n diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol.