Cyflwyniad
Y Prif Weithredwr a'r Tîm Gweithredol sy'n gyfrifol am weithgareddau Cymwysterau Cymru o ddydd i ddydd. Mae ein gwaith ni a gwaith y sefydliad ehangach yn cael ei oruchwylio gan fwrdd a benodwyd yn gyhoeddus. Amlinellir gwybodaeth fanwl am ein nodau, ein gweithrediadau a'n atebolrwydd yn ein dogfen fframwaith.
Mae crynodebau o holl gyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg i'w gweld yma.
Rôl y bwrdd
Mae'r bwrdd yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn ac yn cynnwys y Cadeirydd, y Prif Weithredwr a hyd at 10 aelod arall.
Mae’r bwrdd yn gyfrifol am:
- ddiffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion
- dwyn y Prif Weithredwr i gyfrif a monitro gweithgareddau Cymwysterau Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol
- hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus - gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian
Aelodau'r bwrdd
Paul Bevan, Cadeirydd
Mae Paul wedi gweithio yn y sectorau addysg, cyhoeddus a nid-er-elw am yr 20 mlynedd diwethaf, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai, ac mewn rolau trawsnewid ac arweiniol ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, Prifysgol Lerpwl, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ar hyn o bryd mae’n cefnogi rhaglen newid sefydliadol a digidol eang ar gyfer Jisc, elusen Technoleg Addysg y DU, ochr yn ochr ag amrywiaeth o rolau annibynnol a di-elw, gan gynnwys fel Aelod o’r Cyngor a chadeirydd pwyllgor Buddsoddiadau Prifysgol Aberystwyth, aelod o Bwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Ymddiriedolwr Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint a Chyngor ar Bopeth Gogledd Cymru, aelod o Glas Cymru, ac fel cadeirydd Cymdeithas Cerbydau Trydan Cymru (EVA Cymru).
Mae Paul yn siaradwr Cymraeg ail iaith rhugl sy’n byw yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Daeth Paul yn Gadeirydd Bwrdd Cymwysterau Cymru ym mis Hydref 2025.
Philip Blaker, Prif Weithredwr
Fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu Cymwysterau Cymru, mae Philip Blaker yn bersonol gyfrifol am:
- ofalu’n briodol am arian cyhoeddus
- gweithrediadau o ddydd i ddydd
- sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.
Mae ganddo gefndir mewn darparu asesiadau ac arholiadau cenedlaethol ac mae ei yrfa wedi canolbwyntio ar gyflawni gwaith cymhleth ar raddfa fawr
Daeth Philip yn Brif Weithredwr pan sefydlwyd Cymwysterau Cymru yn 2015.
Douglas Blackstock, aelod o’r bwrdd
Douglas yw cyn-Lywydd y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch (ENQA), sydd ag aelodau a chysylltiadau mewn 45 o wledydd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop.
Mae’n gyn-Brif Weithredwr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd annibynnol y DU ar gyfer Addysg Uwch (QAA) sy’n sicrhau bod safonau academaidd yn cael eu cynnal a bod cyfleoedd dysgu myfyrwyr o’r ansawdd uchaf ar draws pedair gwlad y DU. Bu Douglas mewn swyddi Gweithredol yn yr Asiantaeth am 20 mlynedd ac mae bellach yn gweithredu fel ymgynghorydd rhyngwladol i QAA. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth ymgynghori annibynnol.
Yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd Cymwysterau Cymru, mae ganddo rolau cyfarwyddwr anweithredol yn Cilex Legal Regulation, Prifysgol y Gyfraith, Y Brifysgol Brydeinig yn yr Aifft, Cyngor Hong Kong ar gyfer Achredu Cymwysterau Academaidd a Galwedigaethol, Prifysgol Lincoln Bishop ac mae’n aelod o Fwrdd Cynghori Future Learn a'r Sefydliad Addysg Gydol Oes.
Ymunodd Douglas â'r Bwrdd ym mis Mehefin 2021.
Julie Brannan, aelod o’r bwrdd
Mae Julie yn gyn-Gyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant yn yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, a hi fu’n arwain y gwaith o gyflwyno'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr ar gyfer derbyn mynediad fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.
Cyn hynny, roedd hi’n Gyfarwyddwr Sefydliad Rhydychen dros Ymarfer Cyfreithiol ac yn bartner ymgyfreitha yn Herbert Smith Freehills.
Yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd Cymwysterau Cymru, mae Julie yn aelod o Fwrdd Cynghori Barbri UK.
Ymunodd Julie â'r Bwrdd ym mis Medi 2021.
Graham Hudson, aelod o’r bwrdd
Mae gan Graham gefndir helaeth ym maes safonau a chymwysterau gydag amrywiaeth o gyrff dyfarnu a rheoleiddio. Arweiniodd raglen ymchwil a ariannwyd yn gyhoeddus a oedd yn cynnwys yr holl wledydd datganoledig oedd yn edrych ar y defnydd o dechnoleg mewn arholiadau ac asesiadau.
Ar hyn o bryd mae'n cefnogi sefydliadau sy'n dymuno symud i asesiadau digidol prif ffrwd a hyrwyddo'r achos dros ddefnyddio asesiadau technoleg estynedig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n Aelod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr, yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, yn Gymrawd Cymdeithas Asesu Addysgol - Ewrop ac yn Gadeirydd y Gymdeithas e-Asesu.
Ymunodd Graham â'r Bwrdd ym mis Mehefin 2021.
Yr Athro John Latham CBE, aelod o’r bwrdd
John yw Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredol Grŵp Prifysgol Coventry. Mae ganddo gefndir mewn technoleg gwybodaeth a thelathrebu. Yn y gorffennol, bu'n gweithio i nifer o sefydliadau sector preifat gan gynnwys JHP Group, Jaguar Cars a BT.
Mae John wedi dal rolau proffil uchel ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol ac Ewropeaidd yn hyrwyddo arloesedd, technoleg a datblygiad economaidd. Mae hefyd yn aelod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr a’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig.
Ymunodd John â'r Bwrdd ym mis Rhagfyr 2021.
Ravi Pawar, aelod o’r bwrdd
Mae Ravi Pawar yn arweinydd addysgol profiadol gyda dros 33 o flynyddoedd mewn addysg uwchradd, gan gynnwys 25 o flynyddoedd mewn arweinyddiaeth uwch ac 16 o flynyddoedd fel pennaeth. Yn gyn-Lywydd ASCL Cymru, mae ganddo ddealltwriaeth ddofn o wella ysgolion, polisi addysgol, llywodraethu, a datblygu'r gweithlu ar draws system addysg Cymru.
Mae Ravi wedi cyfrannu'n helaeth at ddiwygio addysgol cenedlaethol trwy ystod eang o rolau cynghori, arolygu a llywodraethu. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Anweithredol yn Estyn ac yn gwasanaethu fel Cadeirydd Parthian Books Ltd. Mae wedi cynnal arolygiadau cyfoedion ar gyfer Estyn ar draws meysydd craidd uwchradd a thematig, gan gynnwys diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), ac mae wedi cefnogi arweinwyr uchelgeisiol fel mentor o fewn Rhaglen Arweinyddiaeth Lleiafrifoedd Ethnig Estyn.
Ochr yn ochr â'i rolau cenedlaethol, mae Ravi yn gweithio'n agos gydag arweinwyr ysgolion fel Partner Gwella Ysgolion, gan gefnogi datblygu arweinyddiaeth a gyrru gwelliant ar draws ysgolion uwchradd.
Ymunodd Ravi gyda'r Bwrdd fel cynghorydd ym mis Medi 2022, ac fel aelod bwrdd ym mis Ebrill 2025.
Hannah Rowan, aelod o’r bwrdd
Dechreuodd Hannah ei gyrfa gyda Teach First, elusen sy'n hyfforddi athrawon i weithio mewn ysgolion sy'n gwasanaethu cymunedau difreintiedig. Bu’n gweithio fel athrawes ieithoedd cyn ymuno â thîm y staff ac yn y pen draw rheoli rhaglen Teach First yng Nghymru.
Mae hi bellach yn rhedeg ei busnes ymgynghori ei hun, gan ddefnyddio ei sgiliau hyfforddi a rheoli newid i helpu sefydliadau nid-er-elw i ddatrys problemau cymhleth. Mae'n parhau i weithio ar amrywiaeth o brojectau i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, lle mae’n gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Partneriaeth Academaidd ac mae ganddi rôl Hyrwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Ymunodd Hannah â'r Bwrdd ym mis Ebrill 2021.
Liz Rosser, aelod o'r bwrdd
Ar hyn o bryd, Liz yw Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau ac Adnoddau yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Mae hi’n arwain ystod eang o wasanaethau corfforaethol mewnol yno, gan gynnwys Cyllid, Adnoddau Dynol, TG, Llywodraethu Gwybodaeth, Risg, a Newid Busnes. Mae hi hefyd yn arwain tîm gweithredol mawr sy'n darparu gwasanaethau allanol i'r proffesiwn cyfreithiol. Cyn hynny, bu'n Gyfarwyddwr Adnoddau gyda’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch. Mae Liz yn gyfrifydd siartredig sydd â thros 30 mlynedd o brofiad yn y sector nid-er-elw. Mae hi’n arweinydd strategol uchel ei pharch, ac mae hi hefyd wedi cyflawni sawl swydd anweithredol, gan gynnwys Is-gadeirydd Llywodraethwyr ar gyfer ysgol gynradd fawr, a Thrysorydd ymddiriedolaeth ysbyty.
Ymunodd Liz â'r bwrdd ym mis Ionawr 2025.
Emmajane Milton, aelod o'r bwrdd
Mae Emmajane wedi gweithio ym maes Addysg ers dros 20 mlynedd a hynny mewn ystod eang o swyddi arweiniol ym meysydd academia, datblygu polisi, ac yn y sector ysgolion statudol. Yn 2018, daeth yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol Advance-HE, ac mae ei diddordebau ymchwil/ysgolheictod yn canolbwyntio ar ymarfer addysgol, ymholi a dysgu proffesiynol athrawon/addysgwr, dulliau addysgiadol o arwain a mentora, a recriwtio a chadw gweithwyr addysg proffesiynol.
Ar hyn o bryd, mae Emmajane yn Athro Ymarfer Addysgol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae ganddi ymroddiad dwfn a pharhaus i wella ymarfer addysg ym mhob maes addysg.
Mae Emmajane wedi cyflawni sawl swydd arwain strategol, gan gynnwys ar gyfer y Gymdeithas Datblygu Proffesiynol Rhyngwladol ac i sefydliadau'r trydydd sector a'r celfyddydau yng Nghymru.
Ymunodd Emmajane â'r bwrdd ym mis Ionawr 2025.
Gwrthdaro buddiannau
Mae'n ofynnol i holl aelodau'r bwrdd gwblhau Datganiadau o Ddiddordeb.
Y tîm gweithredol
Mae tîm gweithredol Cymwysterau Cymru yn gyfrifol am weithgareddau'r sefydliad o ddydd i ddydd ac yn cydweithio â'r bwrdd wrth ddatblygu strategaethau a chynlluniau hirdymor.
Mae'r tîm gweithredol yn cynnwys:

Cyfarwyddwyr
Mae ein cyfarwyddwyr yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli ac yn gweithio'n uniongyrchol i'r Prif Weithredwr. Y rolau yw:
- Cyfarwyddwr, Dadansoddi a Mewnwelediad
- Cyfarwyddwr, Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Grŵp Uwch Arweinyddiaeth
Gan adrodd i'n cyfarwyddwyr, mae gennym yr Uwch Grŵp Arwain (SLG).
Mae’r rolau canlynol yn adrodd i'r Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio:
- Pennaeth Monitro Cymwysterau Galwedigaethol a Chydymffurfiad Corff Dyfarnu
- Pennaeth Monitro a Safonau Cymwysterau Cyffredinol
- Pennaeth Cymeradwyo Cymhwyster a Dynodiad
- Pennaeth Polisi Rheoleiddio
Mae’r rolau canlynol yn adrodd i'r Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi a Diwygio:
- Rheolwr Prosiectau
- Uwch Reolwr Cymwysterau x7
Mae’r rolau canlynol yn adrodd i'r dan y Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Corfforaethol:
- Pennaeth Ymchwil ac Ystadegau
- Pennaeth Cyllid
- Pennaeth Caffael
- Pennaeth TG
- Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol
- Pennaeth AD
- Uwch Reolwr Cyfleusterau
Pwyllgorau'r bwrdd
Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, ynghyd â’n harchwilwyr mewnol ac allanol, i adolygu ein prosesau ar gyfer risg, rheolaeth a llywodraethu, ac i asesu ein datganiadau ariannol a’n cyfrifon.
Mae crynodebau o holl gyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg ar gael yma.
Y Pwyllgor Adnoddau
Mae'r Pwyllgor Adnoddau yn canolbwyntio ar gyllid, cynllunio busnes ac adnoddau dynol. Mae'n cyfarfod tua thair gwaith y flwyddyn.
Y Pwyllgor Rheoleiddio
Mae'r Pwyllgor Rheoleiddio Polisi a Goruchwylio Safonau yn rhoi argymhellion i'r bwrdd ar unrhyw faterion sy'n ymwneud â rheoliadau, polisïau a fframweithiau. Mae'r pwyllgor yn cyfarfod hyd at bedair gwaith y flwyddyn.
Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol
Mae'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn i ddarparu argymhellion ar gydnabyddiaeth ariannol staff ac aelodau'r bwrdd, gan gynnwys telerau ac amodau, buddion, cyflogau a phensiynau.
Bwrdd Cymwysterau Cymru - Cylch Gorchwyl
Cofnodion y bwrdd
Mae cofnodion holl gyfarfodydd diweddar bwrdd Cymwysterau Cymru i'w gweld yma.