Cymwysterau Sylfaen

Mae cymwysterau Sylfaen yn rhan annatod o'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol, gan gynyddu dewis a hyblygrwydd i bobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghymru.

Byddan nhw’n cael eu haddysgu am y tro cyntaf mewn ysgolion a cholegau o fis Medi 2027.

Ar gael mewn amrywiaeth o bynciau cyffredinol a phynciau cysylltiedig â gwaith, mae cymwysterau Sylfaen yn adeiladu ar y dysgu a'r profiadau a gyflawnwyd o dan y Cwricwlwm i Gymru. Maen nhw wedi'u dylunio ar gyfer y rhai nad ydyn nhw efallai’n teimlo'n barod ar gyfer astudio TGAU a TAAU.  

Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu cyflwyno gan un neu fwy o'r cyrff dyfarnu canlynol, yn amodol ar gymeradwyaeth manyleb:

 

Mae cymwysterau Sylfaen yn cynnwys lefel mynediad a lefel 1 y Fframwaith Credydau a Chymwysterau (ac eithrio'r cymwysterau Cymraeg). 

Pa bynciau fydd ar gael fel cymwysterau Sylfaen? 

Mae’r gyfres yn cynnwys naw pwnc cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r meysydd dysgu a phrofiad sy’n rhan o’r Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â 15 pwnc cysylltiedig â gwaith. 

Gall dysgwyr gymryd cyfuniad o gymwysterau Sylfaen cyffredinol a chysylltiedig â gwaith, a gallan nhw hefyd gymryd y cymwysterau hyn ochr yn ochr â TGAU, TAAU a'r Gyfres Sgiliau

Athro yn eistedd wrth ddesg, yn darlunio gyda dau ddysgwr mewn gwisg ysgol

Pynciau cyffredinol
  • Cymraeg
  • Cymraeg Craidd
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Saesneg
  • Technoleg Ddigidol
  • Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Y Dyniaethau
  • Y Gwyddorau

Pynciau cysylltiedig â gwaith
  • Adfer Natur
  • Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth
  • Busnes, Cyfrifeg a Chyllid
  • Cynhyrchu Creadigol A’r Cyfryngau, a Thechnoleg
  • Cynnal a Chadw Cerbydau Modur
  • Chwaraeon a Hamdden
  • Gofal Anifeiliaid
  • Gwallt a Harddwch
  • Gwasanaethau Cyhoeddus 
  • Iechyd A Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant 
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Adwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • Peirianneg 
  • Teithio a Thwristiaeth
  • Yr Amgylchedd Adeiledig 

Beth yw prif fanteision y cymwysterau Sylfaen?


Yn ogystal â rhoi cefndir cadarn i ddysgwyr mewn amrywiaeth o bynciau cyffredinol a phynciau cysylltiedig â gwaith, mae cymwysterau Sylfaen: 

  • ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • yn bodloni nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru
  • yn hyrwyddo profiadau dysgu cadarnhaol
  • yn adlewyrchu amrywiaeth y dysgwyr a'r byd maen nhw'n byw ynddo
  • yn cefnogi iechyd meddwl a lles cadarnhaol
  • yn cynnig amrywiaeth o fathau o asesiadau
  • yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i hyfforddiant neu ddysgu ôl-16 a, lle bo'n briodol, TGAU a TAAU
  • i gael eu cyflwyno o fewn yr adnoddau rhesymol sydd ar gael i ysgolion (ond heb fod yn gyfyngedig i ysgolion)
  • â system raddio gyson

Strwythur graddio Sylfaen

Y strwythur graddio ar gyfer cymwysterau Sylfaen yw:

  • Lefel 1: Llwyddo
  • Lefel Mynediad 3: Llwyddo
  • Lefel Mynediad 2: Llwyddo
  • Lefel Mynediad 1: Llwyddo

Yr eithriad i hyn yw’r graddio ar gyfer Cymraeg Sylfaen a Cymraeg Craidd Sylfaen, sydd ar gael ar lefel mynediad ond nid lefel 1.

Llwybrau cynnydd o astudiaeth Sylfaen

Bydd cymwysterau Sylfaen yn cael eu cydnabod yn eu rhinwedd eu hunain, a gall rhai dysgwyr ddewis astudio pynciau Sylfaen ochr yn ochr â’u TGAU a/neu TAAU ar lefel 1 a lefel 2.

Gall eraill, nad ydyn nhw efallai’n teimlo’n barod i astudio TGAU a TAAU, ddewis astudio cymwysterau Sylfaen i ddechrau a symud ymlaen i hyfforddiant neu ddysgu ôl-16. Efallai y bydd rhai yn dewis symud ymlaen yn syth i gyflogaeth.

Cymorth ac adnoddau

Mae deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael gan bob corff dyfarnu sy'n darparu cymwysterau Sylfaen. 

Bydd cyrff dyfarnu yn aml yn darparu adnoddau ac arweiniad ychwanegol, megis cynlluniau gwaith a thaflenni gwaith, ac efallai y bydd ganddyn nhw hefyd ddysgu proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar-lein ar gael ar gyfer athrawon. 

Bydd adnoddau a hyfforddiant ychwanegol ar gael gan Adnodd a Dysgu maes o law.

Gwefan Adnodd
Gwefan Dysgu

Brwshys paent a phaent wedi'u gosod yn barod ar gyfer addurno globau papier mâché

 

 

Dysgwch fwy am y Cymwysterau Cenedlaethol yma

 

Mae'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol hefyd yn cynnwys cymwysterau TGAU, TAAU a'r Gyfres Sgiliau, y mae modd eu hastudio ochr yn ochr â chymwysterau Sylfaen. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynnig llawn o gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed ar y dudalen Cymwysterau Cenedlaethol. 

Gallwch hefyd ddarllen am yr holl ymchwil, ymgynghoriadau a phenderfyniadau yn ymwneud â'r Cymwysterau Cenedlaethol yn llinell amser ein project.