Cymwysterau Sylfaen Newydd: cynnig llwybr at lwyddiant i bob dysgwr
O fis Medi 2027, bydd cymwysterau Sylfaen yn rhoi cynnig cynhwysol i athrawon sy’n adlewyrchu cryfderau, galluoedd a diddordebau gwahanol pob dysgwr. Mae’r Uwch Reolwr Cymwysterau, June Jenkins, yn edrych yn fanwl ar sut bydd y cymwysterau newydd hyn yn edrych.
Mae pob athro’n gwybod bod gan bob ystafell ddosbarth ddysgwyr sydd â gwahanol gryfderau, diddordebau, galluoedd a ffyrdd o ddysgu. Mae angen i gymwysterau adlewyrchu’r realiti hwnnw, nid brwydro yn ei erbyn. Dyna’r syniad y tu ôl i’r cymwysterau Sylfaen newydd sy’n cael eu lansio ym mis Medi 2027.
Pam rydyn ni’n cyflwyno cymwysterau Sylfaen?
Yn ystod fy amser yn dysgu, gwelais dro ar ôl tro faint y gall cymhwyster ei olygu i ddysgwr, hyd yn oed un nad yw’n ymddangos yn llawer ar bapur. Gall yr hyn sy’n ymddangos yn fach o’r tu allan roi hwb enfawr i hyder rhywun y tu mewn.
Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed yn barod i sefyll arholiadau TGAU a TAAU ar lefel 1 a lefel 2. Ond nid pawb, ac nid ym mhob pwnc. Dyna’r bwlch y mae cymwysterau Sylfaen wedi’u bwriadu i’w lenwi.
Gan rychwantu lefelau mynediad 1, 2 a 3 a lefel 1, mae’r cymwysterau newydd hyn yn ffurfio rhan o gyfres y Cymwysterau Cenedlaethol, ochr yn ochr â’r cymwysterau TGAU a TAAU newydd, gan roi cynnig cynhwysol i athrawon sy’n diwallu anghenion y dysgwyr sydd o’u blaenau.
Trwy baratoi ein pobl ifanc yng Nghymru â sgiliau a gwybodaeth hanfodol, nid yn unig maen nhw’n cael eu paratoi ar gyfer llwyddiant ar unwaith, ond maen nhw hefyd yn cael eu grymuso i lywio cymhlethdodau’r byd modern gyda hyder a gwydnwch. Fel addysgwyr, rhieni a llunwyr polisïau, ein cyfrifoldeb ar y cyd yw sicrhau bod gan bob plentyn y cyfle i adeiladu sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes.
Beth yw’r buddion i ddysgwyr?
Mae cymwysterau Sylfaen yn rhoi sail gadarn i ddysgwyr mewn ystod o bynciau gwahanol. Ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, eu nod yw hyrwyddo profiadau dysgu cadarnhaol, cefnogi iechyd meddwl a lles, ac annog ymgysylltu â’r broses asesu.
Ni fydd cynnydd yn edrych yr un fath i bob dysgwr, ac mae hynny’n iawn. I rai, bydd y cymwysterau hyn yn sbardun i astudio neu hyfforddi ymhellach. I eraill, byddan nhw’n gyflawniad ystyrlon ynddynt eu hunain. Y naill ffordd neu’r llall, maen nhw’n rhoi rhywbeth cadarn i ddysgwyr adeiladu arno.
Pa bynciau fydd ar gael?
Mae naw pwnc cyffredinol yn gysylltiedig â meysydd dysgu a phrofiad y Cwricwlwm i Gymru. Mae yna hefyd 15 pwnc sy’n gysylltiedig â gwaith sy’n cyfateb i’r rhai sydd ar gael fel TAAU, gan alluogi addysgu ar y cyd ar draws y gwahanol fathau o gymwysterau.
Mae’r cymwysterau sy’n gysylltiedig â gwaith yn ddatblygiad arbennig o gyffrous. Maen nhw’n cynnig cyflwyniad eang i faes galwedigaethol i ddysgwyr, a’r math o brofiadau ymarferol a all helpu dysgwyr i ddychmygu llwybr gyrfa nad oedden nhw wedi’i ystyried o’r blaen.
Gall dysgwyr gyfuno cymwysterau Sylfaen cyffredinol a rhai sy’n ymwneud â gwaith, a’u cyfuno â chymwysterau TGAU, TAAU a’r Gyfres Sgiliau.
Sut fydd y cymwysterau hyn yn edrych yn ymarferol?
Fel y rheoleiddiwr, ein rôl yw datblygu’r gofynion y mae’n rhaid i gyrff dyfarnu eu bodloni er mwyn gallu cynnig eu cymwysterau i ysgolion yng Nghymru. Mae’r gofynion hyn wedi’u cynllunio ar y cyd â rhanddeiliaid ar draws y sector. O ganlyniad, mae rhai meysydd craidd lle mae rhanddeiliaid wedi helpu i siapio ymarferoldeb y cymwysterau newydd hyn:
- Mae'r pynciau'n cyd-fynd â'r hyn sy'n cael ei gynnig ar lefelau TGAU a TAAU.
- Mae pob cymhwyster Sylfaen yr un maint, rhwng 120 a 140 awr o ddysgu dan arweiniad, er mwyn ei gwneud hi’n haws trefnu amserlenni.
- Maen nhw’n cefnogi nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru, gan helpu ysgolion i gyflawni’r hawl i ddysgu 14 i 16 oed.
Fel sy’n wir am gymwysterau newydd y TAAU a’r Gyfres Sgiliau, gall mwy nag un corff dyfarnu gynnig cymhwyster Sylfaen penodol.
Gall cyrff dyfarnu ddewis gwahanol ddulliau o asesu’r cymwysterau newydd hyn, gan ystyried hydrinedd, dibynadwyedd, a dilysrwydd y gwahanol ddulliau asesu ac, yn bwysig, pa mor ddiddorol y byddan nhw i ddysgwyr.
Paratoi ar gyfer mis Medi 2027
Mae cyrff dyfarnu eisoes wedi dechrau cyhoeddi eu manylebau a’u deunyddiau ategol, gan alluogi ysgolion i fwrw ymlaen â'r gwaith cynllunio.
Mae hyn yn bwysig oherwydd bydd y mwyafrif o gymwysterau galwedigaethol a sgiliau presennol ar gyfer dysgwyr 14-16 oed yn dod i ben y flwyddyn nesaf, gyda dim ond llond llaw o'r cymwysterau hyn yn parhau. Gallwch chi bori drwy gronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru i weld pa gymwysterau lefel mynediad a lefel 1 fydd ar gael a phryd.
Gallwch chi hefyd ddod o hyd i'r rhestr lawn o bynciau Sylfaen, a pha gyrff dyfarnu fydd yn darparu pa bwnc, ar ein tudalen cymwysterau Sylfaen.
I gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer manyleb benodol, dylai ysgolion gysylltu â’r corff dyfarnu yn uniongyrchol.