TAAU

Mae cymwysterau TAAU yn fath newydd o gymhwyster galwedigaethol sy'n unigryw i Gymru. Maen nhw’n un o bedwar math o gymhwyster sydd ar gael fel rhan o'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed.

Byddan nhw’n cael eu haddysgu am y tro cyntaf mewn ysgolion a cholegau o fis Medi 2027.

Mae cymwysterau TAAU wedi'u cynllunio'n benodol gydag anghenion dysgwyr yng Nghymru mewn golwg, ac maen nhw’n cynnig cipolwg ar sectorau cyflogaeth a chyfleoedd gyrfa trwy ddull ymarferol o ddysgu ac asesu.

Gall rhai dysgwyr astudio cymwysterau TAAU yn eu hysgol, tra gall eraill eu hastudio yn eu coleg lleol yn lle hynny. Mae modd eu hastudio ochr yn ochr â chymwysterau TGAU, cymwysterau Sylfaen a chymwysterau’r Gyfres Sgiliau.

Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu cyflwyno gan un neu fwy o'r cyrff dyfarnu canlynol, yn amodol ar gymeradwyaeth manyleb:

Mae cymwysterau TAAU yn cynnwys lefel 1 a lefel 2 y Fframwaith Credydau a Chymwysterau, yr un fath â chymwysterau TGAU.

Pa bynciau TAAU fydd ar gael?

Gall dysgwyr ddewis o'r 15 pwnc TAAU canlynol yn seiliedig ar eu diddordebau, eu cryfderau a'u dyheadau, yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gynnig yn eu hysgol.

  • Adfer Natur
  • Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth
  • Amgylchedd Adeiledig
  • Busnes, Cyfrifeg a Chyllid
  • Cynhyrchu Creadigol a’r Cyfryngau, a Thechnoleg
  • Cynnal a Chadw Cerbydau Modur
  • Chwaraeon a Hamdden

  • Gofal Anifeiliaid 
  • Gwallt a Harddwch
  • Gwasanaethau Cyhoeddus 
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Adwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • Peirianneg 
  • Teithio a Thwristiaeth
  • Y Celfyddydau Perfformio

Merch mewn cit addysg gorfforol yn dal raced badminton o flaen y camera

 

Beth yw manteision allweddol TAAU? 

 

Yn ogystal â rhoi cyflwyniad i’r sector cyflogaeth i ddysgwyr, mae’r cymwysterau TAAU:

  • ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • yn bodloni nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru
  • yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau gyda phwyslais ar ddulliau ymarferol
  • yn hyrwyddo profiadau dysgu cadarnhaol
  • yn adlewyrchu amrywiaeth y dysgwyr a'r byd maen nhw'n byw ynddo
  • yn cynnig amrywiaeth o fathau o asesiadau
  • yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i astudiaethau ôl-16, fel arfer naill ai i gymwysterau lefel 2 neu lefel 3, yn dibynnu ar y llwybr cynnydd mwyaf priodol
  • i gael eu cyflwyno o fewn yr adnoddau rhesymol sydd ar gael i ysgolion (ond heb fod yn gyfyngedig i ysgolion)
  • â system raddio gyson   

Strwythur graddio TAAU

Y strwythur graddio ar gyfer TAAU yw: 

  • Lefel 2: Rhagoriaeth*, Rhagoriaeth, Teilyngdod, Llwyddo
  • Lefel 1: Teilyngdod, Llwyddo

Dysgwr mewn gwisg a ffedog yn llifio wrth fainc waith

 

Llwybrau cynnydd i ac o astudiaeth TAAU

Mae dysgwyr nad ydyn nhw’n barod i gymryd cymhwyster TAAU yn gallu astudio unrhyw un o'r 15 pwnc TAAU fel cymhwyster Sylfaen, ac eithrio'r celfyddydau perfformio lle bydd cymhwyster Sylfaen yn y celfyddydau mynegiannol yn lle hynny. Mae cymwysterau sylfaen ar gael ar lefel mynediad a lefel 1.

Ar ôl cwblhau eu cymwysterau TAAU, gall dysgwyr symud ymlaen i astudiaeth alwedigaethol ôl-16 yn yr ysgol, mewn sefydliadau addysg bellach neu fel rhan o ddysgu seiliedig ar waith fel hyfforddai neu brentis, er enghraifft. Efallai y bydd rhai yn symud ymlaen yn syth i gyflogaeth.   

Gall dysgwyr sy'n cymryd cyfuniad o gymwysterau TAAU, TGAU a chymwysterau galwedigaethol eraill hefyd symud ymlaen i astudio cymwysterau UG a Safon Uwch.

 

Cymorth ac adnoddau

Mae deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael gan bob corff dyfarnu.

Mae cyrff dyfarnu yn aml yn darparu adnoddau addysgu er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno eu cymwysterau, gan gynnwys deunyddiau cynllunio’r cwricwlwm, taflenni gwaith a chanllawiau eraill. Maen nhw hefyd yn aml yn cynnig dysgu proffesiynol trwy gyfleoedd hyfforddi ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Bydd adnoddau a hyfforddiant ychwanegol ar gael gan Adnodd a Dysgu maes o law.

Gwefan Adnodd
Gwefan Dysgu

Dysgwch fwy am y Cymwysterau Cenedlaethol

 

Darganfyddwch yr amrywiaeth o Gymwysterau Cenedlaethol sydd ar gael ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed, gan gynnwys cymwysterau TGAU, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau. Mae modd cyfuno'r cymwysterau hyn â chymwysterau TAAU i gefnogi gwahanol lwybrau dysgu.

I gael ragor o wybodaeth gefndirol, edrychwch ar amserlen ein project, sy'n amlinellu'r ymchwil, y gweithgarwch ymgynghori a'r penderfyniadau allweddol sydd wedi llunio datblygiad y cymwysterau hyn.