Canllaw ar gyfer arholiadau ac asesiadau

Mae paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn amser prysur, ac efallai bydd gen ti gwestiynau am dy gymwysterau. *

Dysga fwy am dy arholiadau ac asesiadau, yn ogystal â chymorth ychwanegol yn ein Canllaw i Arholiadau ac Asesiadau.

 

 

Blogiau diweddaraf

Dy ganllaw ar arholiadau ac asesiadau

Darllen mwy

Cymorth a chefnogaeth

Rydyn ni’n deall bod paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn gyfnod anodd i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr. Mae amrywiaeth eang o adnoddau a chefnogaeth ar gael. Mae  cefnogaeth ychwanegol ar gael yn y dolenni isod. 


P’un a wyt ti’n ystyried parhau ag addysg ôl-16, dod yn brentis neu wneud cais am brentisiaeth gradd, mae gan wefan Gyrfa Cymru wybodaeth ddefnyddiol gyda chanllawiau a chymorth i dy helpu i gymryd dy gamau nesaf.  


Os hoffet ti archwilio dy opsiynau mewn coleg addysg bellach yng Nghymru, cer i wefan  Colegau Cymru lle cei restr o holl golegau Cymru gyda dolenni i’w gwefannau unigol.  


Os wyt ti eisiau symud ymlaen i addysg uwch, mae gan wefan UCAS ragor o wybodaeth am ba gyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais.


Os hoffet ti gymryd dy gam nesaf i gyflogaeth, mae Cymru’n Gweithio ar gael i dy gefnogi gyda chyngor ac arweiniad rhad ac am ddim, a mynediad i hyfforddiant i dy helpu i gael gwaith a datblygu dy yrfa.