Help llaw ar gyfer arholiadau ac asesiadau 2026-2027
P’un ai wyt ti’n paratoi ar gyfer arholiadau, yn cwblhau gwaith cwrs neu'n aros am ganlyniadau, mae ein canllaw i ddysgwyr, sydd wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2026-2027, yn dod â’r wybodaeth a'r gefnogaeth allweddol y byddi di eu hangen trwy gydol y flwyddyn academaidd at ei gilydd.
Bydd dysgwyr sy'n cymryd cymwysterau eleni yn sefyll arholiadau ac yn cwblhau cymwysterau.
Rydyn ni’n gwybod y gall dysgwyr fod â llawer o gwestiynau am eu cymwysterau. Dyna pam ein bod ni wedi diweddaru ein dogfen help llaw i ddysgwyr ar arholiadau ac asesiadau 2026-2027, sydd wedi'i chynllunio i'w helpu i ddeall sut mae eu cymwysterau’n cael eu hasesu a beth i'w ddisgwyl drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Mae'r canllaw’n cynnwys:
- dyddiadau allweddol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon
- gwybodaeth am asesu a graddio
- canllawiau ar yr hyn sy'n digwydd ar ôl diwrnod y canlyniadau
- gwybodaeth am rannu adborth ar arholiadau drwy ein harolwg blynyddol Dweud eich Dweud
- dolenni i adnoddau adolygu, adnoddau lles a chefnogaeth arall sydd ar gael i ddysgwyr.
Rydyn ni’n gobeithio y byddi di'n gweld y canllaw yn ddefnyddiol trwy gydol y flwyddyn. Mae pawb yn Cymwysterau Cymru yn dymuno pob llwyddiant i ti yn dy astudiaethau.
Cymer gip ar y canllaw ar ein gwefan