Canlyniadau haf 2026

Mae ein dogfen Haf 2026 - Canlyniadau a Throsolwg o’r Gyfres yn cynnwys manylion y cymwysterau a ddyfarnwyd eleni ynghyd â dadansoddiad o'r canlyniadau.  

 

 

Data canlyniadau haf 2026

*Cliciwch ar y lluniau isod i'w gweld mewn maint mwy

Data canlyniadau Safon Uwch 

Data canlyniadau UG  

Data canlyniadau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch  

   

 

 

Proses apelio

Os nad wyt ti wedi cael y canlyniadau roeddet ti wedi’u disgwyl, paid â phoeni. Y cam cyntaf yw i ti siarad gyda dy athro neu dy ddarlithydd i drafod dy opsiynau. Os wyt ti’n ystyried apelio neu ailsefyll arholiad, mae’n bwysig cael cyngor oddi wrth dy ysgol neu goleg mor fuan â phosibl.  

Gwylia ein fideo ar apeliadau i gael rhagor o wybodaeth am y broses. 

 

 

Ble nesaf?

Mae diwrnod canlyniadau yn garreg filltir gyffrous ac yn gyfle i edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael i ti. Beth bynnag wyt ti’n bwriadu ei wneud – parhau gyda dy astudiaethau, dechrau prentisiaeth, neu ystyried cyfleoedd eraill – mae cymorth ar gael i dy helpu di i wneud dewisiadau gwybodus. 

Gwylia ein fideo i ddysgu mwy am yr holl opsiynau a chael gwybod ble elli di ddod o hyd i gyngor ar gymryd dy gamau nesaf.   

 

 

Newyddion

Cymorth a Chefnogaeth

Am ragor o help a chefnogaeth, dyma gasgliad o adnoddau allai dy helpu di i wneud penderfyniadau am dy gamau nesaf:

P’un a wyt ti’n ystyried parhau ag addysg ôl-16, dod yn brentis neu wneud cais am brentisiaeth gradd, mae gan wefan Gyrfa Cymru wybodaeth ddefnyddiol gyda chanllawiau a chymorth i’th helpu i gymryd dy gamau nesaf.  

Os hoffet ti archwilio dy opsiynau mewn coleg addysg bellach yng Nghymru, cer i wefan  Colegau Cymru lle cei restr o holl golegau Cymru gyda dolenni i’w gwefannau unigol.  

Os wyt ti eisiau symud ymlaen i addysg uwch, mae gan wefan UCAS ragor o wybodaeth am ba gyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais.

Os hoffet ti gymryd dy gam nesaf i gyflogaeth, mae Cymru’n Gweithio ar gael i’th gefnogi gyda chyngor ac arweiniad am ddim a mynediad i hyfforddiant i’th helpu i gael gwaith ac i ddatblygu dy yrfa.

   

Canlyniadau haf 2025