NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

20.08.26

Dysgwyr yn derbyn eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol lefel 2 heddiw

Mae heddiw (20 Awst 2026) yn ddiwrnod canlyniadau i filoedd o ddysgwyr ledled Cymru sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol lefel 2.

Mae heddiw’n garreg filltir bwysig i ddysgwyr wrth iddyn nhw dderbyn canlyniadau cymwysterau a fydd yn siapio eu camau nesaf, boed hynny'n parhau â’u hastudiaethau, cychwyn prentisiaeth, dechrau hyfforddiant, neu symud i gyflogaeth. 

Wrth longyfarch dysgwyr, dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: 

"Llongyfarchiadau i bawb sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw, a da iawn am yr holl waith caled, ymrwymiad a gwytnwch rydych chi wedi'u dangos trwy gydol eich astudiaethau. 

Mae derbyn eich canlyniadau yn garreg filltir bwysig ac yn foment i fyfyrio ar bopeth rydych chi wedi'i gyflawni. Heddiw, bydd llawer o ddysgwyr hefyd yn dechrau cynllunio cam nesaf eu taith addysg, hyfforddiant neu yrfaol. 

Beth bynnag yw eich canlyniadau, mae cyfleoedd ar gael i'ch helpu chi i symud ymlaen. Os nad ydych chi wedi derbyn y graddau roeddech chi wedi gobeithio amdanynt, peidiwch â phoeni. Gall eich ysgol neu goleg roi cyngor ac arweiniad ar yr opsiynau sydd ar gael i chi a'ch helpu chi i benderfynu ar eich camau nesaf." 

Gan ddiolch i'r rhai sydd wedi cefnogi dysgwyr trwy gydol y flwyddyn, ychwanegodd Philip: 

"Hoffem ddiolch i bawb ym mhob rhan o’r system addysg a chymwysterau sydd wedi cefnogi dysgwyr drwy gydol eu hastudiaethau. 

Diolch i'r holl athrawon ymroddedig, darlithwyr, staff cymorth, arweinwyr ac arholwyr sydd wedi cefnogi dysgwyr i gwblhau eu cymwysterau."  

Mae eleni hefyd yn nodi cynnydd parhaus yn y newid i'r Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd, gan fod rhai dysgwyr wedi derbyn canlyniadau mewn rhai unedau o'r TGAU newydd. Mae'r cymwysterau TGAU newydd hyn wedi'u dylunio i ddiwallu anghenion penodol dysgwyr yng Nghymru, gan ddangos tystiolaeth o'r dysgu maen nhw wedi'i wneud o dan y Cwricwlwm i Gymru.    

Canlyniadau TGAU 

  • Dyfarnwyd 289,506 o raddau TGAU yr haf hwn, gostyngiad o 5.7% o'i gymharu â 2025 
  • Dyfarnwyd graddau i 46,335 o ddysgwyr yng Nghymru yr haf hwn, o'i gymharu â 58,740  yn haf 2025 
  • Dyfarnwyd 275,000 o raddau TGAU i ddysgwyr 16 oed, gostyngiad o 0.5% o'i gymharu â 2025 
  • Mae 19.6% o ganlyniadau TGAU eleni yn raddau A/7 neu uwch, mae 62.3% yn raddau C/4 neu uwch ac mae 96.8% yn raddau G/1 neu uwch 

Ar gyfer disgyblion 16 oed a safodd cymwysterau TGAU wedi'u graddio o A* i G: 

  • Mae 6.9% o ganlyniadau yn raddau A*, mae 19.9% o ganlyniadau yn raddau A* neu A, mae 63.4% o ganlyniadau yn raddau A* i C ac mae 97.0% o ganlyniadau yn raddau A* i G 

Mae manylion llawn canlyniadau heddiw ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru. Mae yna hefyd wybodaeth am apeliadau, gwasanaethau ôl-ganlyniadau a chefnogaeth i ddysgwyr wrth iddyn nhw ystyried eu camau nesaf.