Cyflwyniad
Mae Cymwysterau Cymru bellach yn rhan annatod o system addysg a hyfforddiant Cymru, ar ôl datblygu ffyrdd newydd ac arloesol o gyflawni ein dyletswyddau fel rheoleiddiwr cyfrifol.
Mae hybu a chynnal hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a system gymwysterau Cymru yn ganolog i'n gwaith. Rydyn ni’n sicrhau hyn drwy wella sut rydyn ni’n cyfathrebu ac yn ymgysylltu â’r ystod ehangaf posibl o gynulleidfaoedd ledled y wlad.
Mae gennym ni amrywiaeth o sianeli a thechnegau ac rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector addysg, diwydiant a chymdeithas sifil i gyfleu ein dyletswyddau rheoleiddio a diwygio.
Blaenoriaethau strategol
Rydyn ni wedi nodi pum thema allweddol a fydd yn sylfaen i'n gwaith dros y blynyddoedd nesaf.
Gwneud-i-Gymru
Rydyn ni’n cydnabod bod gan Gymru nodweddion unigryw sydd angen eu hystyried yn ofalus yn ein holl waith, gan gynnwys:
- cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru
- yr angen am gynnig gweithredol o gymwysterau dwyieithog
- sefydlogrwydd yn yr amrywiaeth o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr, yn enwedig o ystyried newidiadau polisi sy'n datblygu mewn rhannau eraill o'r DU
- galw am amrywiaeth eang o gymwysterau galwedigaethol, gan gynnwys llawer sydd â nifer isel o ddysgwyr
- gofynion deddfwriaethol ar wahân mewn materion sydd wedi’u datganoli
Dull deinamig
Mae cymwysterau'n chwarae rhan bwysig mewn addysg ac mae'n rhaid iddyn nhw barhau i fod yn gyfoes ac yn berthnasol i gymdeithas fodern. Yn hanesyddol, mae'r broses o ddiwygio cymwysterau wedi bod yn ddiwygiad mawr cyfnodol, yn aml gyda seibiau hir rhwng iteriadau. Gall hyn arwain at gymwysterau'n mynd yn hen ffasiwn neu’n groes i ddisgwyliadau.
Rydyn ni’n credu mewn dull deinamig, lle gall cymwysterau addasu a newid dros amser i adlewyrchu cyfleoedd neu anghenion newydd wrth iddyn nhw godi. Rydyn ni hefyd yn cydnabod efallai na fydd bob amser yn hylaw i bob uchelgais gael ei gyflawni mewn un cam, felly bydd angen proses o esblygiad i wneud newidiadau sy'n gweithio i bawb dan sylw.
Rheoli newid
Rydyn ni bellach wedi arwain y gwaith o ddiwygio llawer o gymwysterau ac wedi dysgu pa mor bwysig yw hi i'r system ymwneud â dylunio a datblygu cymwysterau mewn proses o gyd-greu a pharatoi ar gyfer newid cymwysterau ac ymrwymo iddo.
Mae newid llwyddiannus yn gofyn i'r system addysg a hyfforddiant ddod at ei gilydd ar y cyd a chyfathrebu'n effeithiol. Rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan yn y cydweithio hwnnw ac i feithrin y cysylltiadau sydd eu hangen er mwyn i bawb allu chwarae eu rhan yn llwyddiannus mewn newid.
Asesu arloesol
Mae moderneiddio asesu wedi bod yn bwnc trafod yn y DU ers blynyddoedd lawer, ond mae'r cynnydd wedi bod yn araf. Mae gan Gymru gyfle unigryw i ddatblygu'r seilwaith digidol sydd ei angen i gefnogi mathau newydd ac arloesol o asesu, y mae modd eu defnyddio i ehangu dulliau asesu er mwyn mynd i'r afael ag amrywiaeth ehangach o alluoedd a doniau dysgwyr.
Rydyn ni’n cydnabod bod cyfyngiadau a phryderon wrth symud i ddulliau mwy digidol o asesu, ond gydag ymagwedd sector cyfan at newid, gallwn ni gefnogi’r daith i asesiadau sy’n gydnaws â chymdeithas gynyddol ddigidol.
Lles dysgwyr
Mae cymwysterau'n bwysig a rhaid diogelu eu gwerth ar gyfer y dysgwyr maen nhw’n ceisio eu gwasanaethu. Mae lles dysgwyr yn ganolog i’n penderfyniadau. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydyn ni’n cynnwys dysgwyr ac yn ymgysylltu’n uniongyrchol â nhw wrth wneud penderfyniadau. Rydyn ni'n cydnabod bod cymwysterau lle mae llawer yn y fantol yn gallu peri straen ac yn gallu bod yn heriol, a’u bod nhw'n ysgogi dysgu ac yn meithrin gwytnwch.
System gymwysterau Cymru
Yng Nghymru, Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r cyfeiriad ar gyfer addysg ac yn penderfynu ar bolisi. Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cymwysterau ac yn cydnabod cyrff dyfarnu sy'n gyfrifol am ddatblygu'r cymwysterau. Mae gan Cymwysterau Cymru rôl sylweddol hefyd o ran diwygio cymwysterau.
Mae dysgwyr yn dilyn ystod o gymwysterau mewn ysgolion, colegau, gweithleoedd neu ddarparwyr dysgu eraill ac mewn lleoliadau cymunedol - mae'r rhain yn cynnwys:
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r holl randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff dyfarnu i sicrhau bod y cymwysterau sydd ar gael yn bodloni anghenion dysgwyr yng Nghymru a bod gan y cyhoedd hyder ynddyn nhw.
Mae ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru yn cynnwys manylion yr holl gymwysterau sy'n cael eu cymeradwyo neu eu dynodi ar gyfer eu haddysgu yng Nghymru ar gyfer dysgwyr - ac eithrio addysg uwch.
Lefelau cymwysterau
Ar draws y DU, mae'r rhan fwyaf o gymwysterau a gymerir yn yr ysgol, coleg addysg bellach, gwaith neu brifysgol yn ffitio i un o naw lefel (12 yn yr Alban). Yr uchaf yw'r lefel, yr anoddaf yw'r cymhwyster. Gall cymwysterau ar yr un lefel fod yn wahanol iawn o ran cynnwys a'r amser maen nhw'n ei gymryd i'w gwblhau.
Mae Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru'n darparu un ffordd gyffredin o fesur yr hyn a gyflawnir wrth ddysgu, gan ddysgwyr o bob oedran a gallu. Mae fframweithiau tebyg ym mhob un o wledydd y DU.
Cymwysterau galwedigaethol
Rydyn ni’n ystyried mai cymwysterau galwedigaethol yw'r rhai sy'n asesu gwybodaeth, dealltwriaeth a/neu sgiliau sy'n ymwneud yn benodol â’r byd gwaith. Dylai cymwysterau galwedigaethol adlewyrchu anghenion cyflogwyr p'un a ydyn nhw’n arwain at waith neu at y cam dysgu nesaf. Rydyn ni’n rheoleiddio cymwysterau galwedigaethol drwy gynnal adolygiadau sector rheolaidd neu drwy ddynodi cymwysterau ar gyfer canolfannau yng Nghymru.
Adolygiadau sector
Yn ogystal â’n gwaith o ddydd i ddydd fel rheoleiddiwr, adolygiadau sector yw asgwrn cefn ein gwaith gyda chymwysterau galwedigaethol, gan ganiatáu inni ganolbwyntio ar gymwysterau o fewn sectorau cyflogaeth. Gyda phob adolygiad sector, ein nod yw:
- deall y dirwedd cymwysterau
- clywed barn rhanddeiliaid am y cymwysterau a'r system gymwysterau
- penderfynu a ddylen ni gymryd camau - neu argymell bod eraill yn eu cymryd - i wella cymwysterau neu'r system gymwysterau.
Ar gyfer rhai sectorau mwy, rydyn ni hefyd yn anelu at:
- ystyried a yw'r cymwysterau, a'r system gymwysterau, yn dechnegol effeithiol ac yn addas i'r diben
- dysgu gwersi o systemau cymwysterau gwledydd eraill.
Dynodi cymwysterau
Gallwn ni hefyd ddynodi cymhwyster fel un sy’n gymwys i’w ddefnyddio ar raglenni dysgu a gaiff eu hariannu’n gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan bedair ar bymtheg oed yng Nghymru. Mae dynodi yn golygu ein bod ni’n rheoleiddio’r corff dyfarnu sy’n cynnig y cymhwyster a’n bod ni’n fodlon ei bod yn briodol cynnig y cymhwyster ar gyrsiau a gaiff eu hariannu’n gyhoeddus i bobl ifanc.
Sgiliau Hanfodol Cymru
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn ymdrin â sgiliau allweddol y byddi di eu hangen ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith. Mae’r holl gymwysterau Sgiliau Hanfodol ar gael o lefel mynediad 1 i lefel 3, ac eithrio Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol, sydd ar gael o lefel mynediad 3 i lefel 3. Maen nhw wedi cael eu datblygu i gael eu defnyddio mewn lleoliadau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, dysgu oedolion yn y gymuned a lleoliadau amgen.
I gael rhagor o wybodaeth, cer i'n hadran Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru
Mae Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru yn gymhwyster lefel 3 sy’n cefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithgar sy’n barod i gymryd eu lle mewn cymdeithas fyd-eang gynaliadwy ac yn y gweithle. Mae’n hyrwyddo dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi gyda dysgwyr yn cael eu hannog i ddewis meysydd astudio sydd o ddiddordeb personol ac sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n hadran Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru.
Dweud Eich Dweud
Rydyn ni’n credu bod deialog agored ac adborth yn ein helpu ni i wella ein gweithgareddau a system gymwysterau Cymru.
Beth bynnag fo'ch diddordeb mewn cymwysterau yng Nghymru, Dweud Eich Dweud yw eich llwyfan pwrpasol chi i gyfrannu ac i roi sylwadau. Dyma lle gallwch chi lenwi ein harolygon diweddaraf, cofrestru ar gyfer un o'n grwpiau cynghori, neu ymateb i ymgynghoriadau pwysig.
Gweithio gyda ni
Rydyn ni wedi ymrwymo i ymgysylltu’n uniongyrchol â chynulleidfaoedd presennol a newydd drwy amrywiaeth o ddulliau – cyfarfodydd rhanddeiliaid, cyflwyniadau, gweminarau, digwyddiadau, arolygon a thrwy ddefnyddio ein sianeli digidol.
Rydyn ni wedi sefydlu grwpiau cyswllt â ffocws i wella dealltwriaeth rhwng rhanddeiliaid, lleihau gwrthdaro posibl a hyrwyddo cydweithredu effeithiol. Mae'r grwpiau'n ffordd wych o gael deialog dwy ffordd a chasglu adborth ar ddiwygio cymwysterau, a chynlluniau rheoleiddio a chynigion eraill.
Os hoffech chi ein helpu ni i wella cymwysterau yng Nghymru, cysylltwch â'n Tîm Ymgysylltu Strategol.