Cyflwyniad
Mae cymwysterau galwedigaethol yn cyfrif am gyfran fawr o’r cymwysterau a gaiff eu dilyn yng Nghymru ac mae ystod eang ar gael mewn ysgolion, colegau a lleoliadau dysgu seiliedig ar waith.
Dylai cymwysterau galwedigaethol adlewyrchu anghenion cyflogwyr p'un a ydyn nhw’n arwain at waith neu at y cam dysgu nesaf. Maen nhw ar gael ar lefelau 1, 2 a 3.
Mae angen gwahanol ddulliau asesu ar gyfer gwahanol fathau o gymwysterau galwedigaethol i adlewyrchu eu natur a'u pwrpas.
Gwneud-i-Gymru
Rydym yn cydnabod bod gan Gymru nodweddion unigryw y mae angen eu hystyried yn ofalus o fewn ein holl waith, gan gynnwys:
- y Cwricwlwm i Gymru
- yr angen am gynnig gweithredol o gymwysterau dwyieithog
- sefydlogrwydd yn yr ystod o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr - yn enwedig o ystyried newidiadau polisi mewn mannau eraill yn y DU
- galw am ystod eang o gymwysterau galwedigaethol - gan gynnwys llawer â niferoedd isel o ddysgwyr
- gofynion deddfwriaethol ar wahân mewn materion datganoledig
Dyma pam mae rhai pynciau wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Rydym yn cyfeirio at y cymwysterau yma fel cymwysterau cymeradwy.
Fodd bynnag, mae cymwysterau galwedigaethol wedi'u cynllunio ar gyfer Lloegr sydd hefyd yn addas ac felly ar gael i ddysgwyr yng Nghymru Cyfeirir at y cymwysterau a gynlluniwyd ar gyfer gwledydd eraill y DU sydd hefyd ar gael yng Nghymru fel cymwysterau dynodedig.
Darllenwch ein hymateb i'r adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yma.
Cyflwyno TAAU
Ym mis Medi 2027, bydd pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru yn gallu sefyll cymwysterau TAAU newydd mewn ystod gyffrous o bynciau sy'n gysylltiedig â gwaith, gan gynnwys meysydd ymarferol lle nad oedd cymwysterau ffurfiol 14–16 oed i’w cael cyn hyn.
Bydd TAAU ar gael ar Lefel 1 a Lefel 2. Byddan nhw’n cael eu cefnogi gan gymwysterau Sylfaen cyfatebol cysylltiedig â gwaith ar Lefel Mynediad ac ar Lefel 1, felly gall dysgwyr ddewis cael addysg a phrofiadau galwedigaethol waeth beth fo’u diddordebau, eu doniau, neu eu cyflawniadau.
Gallwch ddysgu mwy am y TAAU yma ac am y cymwysterau Sylfaen yma.