Fel rhan o'n gwaith i ddiwygio'r cymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru, rydyn ni’n cyflwyno TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) i'n cyfres Cymwysterau Cenedlaethol 14-16.
Mae TAAU ar gael mewn amrywiaeth ddiddorol o bynciau cysylltiedig â gwaith, gan alluogi pobl ifanc i ddysgu am feysydd galwedigaethol trwy ddull ymarferol o ddysgu ac asesu.
Bydd TAAU yn rhychwantu Lefel 1 a Lefel 2, fel TGAU.
Pa bynciau TAAU fydd ar gael?
Yn dilyn adolygiad o’r cynnig cymwysterau galwedigaethol presennol, ac ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer y pynciau TAAU newydd, cawsom amrywiaeth o ymatebion gan randdeiliaid, gan gynnwys athrawon a darlithwyr, cyflogwyr, cyrff dyfarnu, cyrff cynrychioliadol, rhieni/gofalwyr, dysgwyr ac eraill a luniodd ein penderfyniadau.
Mae’r pynciau y cytunwyd arnyn nhw yn gysylltiedig â gwaith, gan roi cyflwyniad eang i ddysgwyr ar sector cyflogaeth penodol.
Pynciau VCSE | |
|
|
TAAU Gofal Anifeiliaid
Yn ogystal â rhoi cyflwyniad i’r sector cyflogaeth i ddysgwyr, bydd y cymwysterau TAAU newydd:
-
-
- ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg
- yn bodloni nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru
- yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau gyda
- phwyslais ar ddulliau ymarferol
- yn hyrwyddo profiadau dysgu cadarnhaol
- yn adlewyrchu amrywiaeth y dysgwyr a'r byd maen nhw'n byw ynddo
- yn cynnig amrywiaeth o fathau o asesiadau
- yn cefnogi’r dysgwyr i symud ymlaen i astudiaethau galwedigaethol ôl-16
- i gael eu cyflwyno o fewn yr adnoddau rhesymol sydd ar gael i ysgolion (ond heb fod yn gyfyngedig i ysgolion)
- â system raddio gyson
-
Strwythur graddio TAAU
Dyma fydd y strwythur graddio ar gyfer TAAU:
Lefel 1 | Lefel 2 |
Lefel 1 Llwyddo |
Lefel 2 Llwyddo |
Lefel 1 Teilyngdod |
Lefel 2 Teilyngdod |
Lefel 2 Rhagoriaeth |
|
Lefel 2 Rhagoriaeth*
|
Llwybrau cynnydd i ac o astudiaeth TAAU
Bydd dysgwyr nad ydyn nhw’n barod i gymryd cymhwyster TAAU yn gallu astudio unrhyw un o'r 15 pwnc TAAU fel cymhwyster Sylfaen, ac eithrio'r celfyddydau perfformio lle bydd cymhwyster Sylfaen yn y celfyddydau mynegiannol yn lle hynny. Mae cymwysterau sylfaen ar gael ar Lefel Mynediad a Lefel 1.
Ar ôl cwblhau eu cymwysterau TAAU, gall dysgwyr symud ymlaen i astudiaeth alwedigaethol ôl-16 yn yr ysgol, mewn sefydliadau addysg bellach neu fel rhan o ddysgu seiliedig ar waith fel hyfforddai neu brentis, er enghraifft. Efallai y bydd rhai yn symud ymlaen yn syth i gyflogaeth.
Gall dysgwyr sy'n cymryd cyfuniad o gymwysterau TAAU, TGAU a chymwysterau galwedigaethol eraill hefyd symud ymlaen i astudio cymwysterau UG a Safon Uwch.
Llinell amser cyflawni’r prosiect
Bydd cymwysterau TAAU yn cael eu haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf o fis Medi 2027. Mae nifer o gerrig milltir i fod yn ymwybodol ohonyn nhw fel rhan o ddatblygiad y cymwysterau newydd hyn:
2024
Byddwn yn cyhoeddi'r meini prawf cymeradwyo (yr amodau y mae angen i gorff dyfarnu eu bodloni er mwyn i'w cymhwyster gael ei awdurdodi) ar gyfer y cymwysterau TAAU erbyn diwedd y flwyddyn.
2025-2026
Bydd cyrff dyfarnu yn datblygu'r cymwysterau TAAU i ni eu cymeradwyo.
2026
Bydd cyrff dyfarnu'n cyhoeddi'r manylebau ar gyfer y cymwysterau TAAU cymeradwy, flwyddyn cyn iddyn nhw gael eu haddysgu am y tro cyntaf mewn ysgolion.