Cyn bo hir, bydd pobl ifanc yng Nghymru yn gallu dewis o amrywiaeth o gymwysterau newydd cyffrous wrth wneud eu dewisiadau ar gyfer Blwyddyn 10.
Mae'r Cymwysterau Cenedlaethol yn set gynhwysfawr a pherthnasol o gymwysterau, sy’n amrywio o gymwysterau TGAU Dyfarniad Unigol a Dwbl mewn pynciau fel Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, i'r TAAU newydd sy'n gysylltiedig â gwaith mewn pynciau fel gwasanaethau cyhoeddus a pheirianneg. Mae yna hefyd gyfres o gymwysterau Sylfaen, yn ogystal ag amrywiaeth o unedau Sgiliau Bywyd a Gwaith a Phrosiect Personol.
Mae'r Cymwysterau Cenedlaethol yn cefnogi nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru.
Bydd canolfannau'n gallu cynnig cyfuniad pwrpasol o'r cymwysterau newydd hyn i gefnogi eu dysgwyr i gyflawni eu nodau unigol ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.
Yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ar draws ystod amrywiol o feysydd pwnc a sector, bydd y Cymwysterau Cenedlaethol hefyd:
-
- yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol
- yn darparu sgiliau y mae cyflogwyr Cymru yn galw amdanyn nhw
- yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu ymarferol
- yn cynnig cymysgedd ehangach o ddulliau asesu
- yn werthfawr yng Nghymru a thu hwnt
Rydyn ni'n sicrhau y bydd pobl ifanc yng Nghymru yn dod yn gymwys ar gyfer y dyfodol.
Cymwysterau diwygiedig ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru
Lefelau dysgu
Bydd y Cymwysterau Cenedlaethol yn darparu cyfleoedd asesu ar Lefel Mynediad, Lefel 1 a Lefel 2.
Creu cwrs astudio cydlynol
Mae'r Cymwysterau Cenedlaethol wedi'u cynllunio i gefnogi ehangder a dyfnder mewn dysgu a chynnydd.
Mae pob un o'r pedwar math o gymhwyster yn gwasanaethu pwrpasau gwahanol, ac yn aml pwrpasau lluosog. Caiff dysgwyr eu hannog i astudio'r cymwysterau hynny sydd ar gael yn eu canolfan a fydd yn rhoi'r profiad dysgu gorau iddyn nhw yn seiliedig ar eu cryfderau, eu diddordebau a'u dyheadau.
Amserlen ar gyfer gweithredu cymwysterau
Mae'r cymwysterau diwygiedig yn cael eu cyflwyno mewn ffordd hawdd ei reoli a chynaliadwy, mewn tair ton.
Cymwysterau ton 1 |
|
Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025: |
|
|
|
*Most appropriate programme of study for the majority of learners
Cymwysterau ton 2 |
|
Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026: |
|
|
|
*Y rhaglen astudio fwyaf priodol ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr
Cymwysterau ton 3 |
|
Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027: |
|
|
|
Mwy am y Cwricwlwm i Gymru
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn darparu fframwaith sy’n cefnogi pob canolfan i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain ac i ddewis y cymwysterau maen nhw’n eu cynnig.
Mae trefniadau ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ysgolion hefyd yn newid. Bydd perfformiad ysgol yn cael ei werthuso ar sail ystod eang a chytbwys o dystiolaeth, gyda llai o bwyslais ar ganlyniadau cymwysterau, gan roi mwy o ryddid i flaenoriaethu anghenion dysgwyr wrth ddylunio cymwysterau newydd.
Mae'r Cymwysterau Cenedlaethol wedi'u datblygu gyda'r cwricwlwm newydd mewn golwg.
Rhagor o wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru
Cymorth i ganolfannau
Mae nifer o randdeiliaid yn gweithio gyda'i gilydd i wireddu uchelgais y Cwricwlwm i Gymru, a gallwch weld beth yw ein rolau a'n cyfrifoldebau isod.
- Llywodraeth Cymru: yn gosod polisi addysg
Yn goruchwylio'r system addysg a rôl cymwysterau ynddi, gan bennu cyfeiriad polisi a rhoi arweiniad.
- Cymwysterau Cymru: rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau 14-19 a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.
Yn nodi'r gofynion dylunio ac yn cymeradwyo, monitro a gwerthuso cymwysterau i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru.
- Cyrff dyfarnu: yn datblygu’r cymwysterau yn unol â gofynion dylunio Cymwysterau Cymru.
Mae CBAC yn datblygu'r cymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig newydd, tra bydd amrywiaeth o gyrff dyfarnu yn datblygu'r cymwysterau TAAU, y cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau.
Ein dull o ddatblygu cymwysterau
Rydyn ni wedi cynnwys amrywiaeth o bartneriaid, athrawon, dysgwyr, cynghorwyr arbenigol, cyflogwyr, colegau, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion i helpu i lunio'r cymwysterau newydd.
Cyn i bob cymhwyster gael ei addysgu yn yr ystafell ddosbarth, rydyn ni’n mynd trwy broses helaeth o ymchwilio, ymgynghori a gweithio ar ddatblygu cymwysterau gyda chyrff dyfarnu.
Llinell amser cyflawni’r prosiect
2019
Fe wnaethon ni gynnal ein hymgynghoriad cyhoeddus cyntaf er mwyn sefydlu'r egwyddorion arweiniol amlinellol a ddylai lywio'r cymwysterau diwygiedig. Gofynnwyd yn benodol i randdeiliaid beth ddylai ddigwydd gyda chymwysterau TGAU a'r Dystysgrif Her Sgiliau.
Darllenwch yr adroddiad penderfyniadau
Fe wnaethon ni gwblhau ymchwil i ganfyddiadau a phrofiadau athrawon a dysgwyr ynghylch asesiadau di-arholiad.
Darllenwch yr adroddiad ymchwil
Fe wnaethon ni gomisiynu ymchwil i systemau asesu addysgol rhyngwladol a sut maen nhw’n cynnwys athrawon yn y cylch asesu.
Darllenwch yr adroddiad ymchwil
2021
Fe wnaethon ni gyflwyno ein hail ymgynghoriad cyhoeddus yn gofyn am farn ar y sgiliau cyfannol yn y Dystysgrif Her Sgiliau, yn ogystal â'r amrywiaeth o bynciau a ddylai fod ar gael ar gyfer TGAU.
Darllenwch yr adroddiad penderfyniadau
Fe wnaethom hefyd gyhoeddi ein penderfyniad ar gymwysterau Cymraeg TGAU.
2022
Fe wnaethon ni gyflwyno ein trydydd ymgynghoriad cyhoeddus yn ymwneud yn benodol â'n cynigion pwnc ar gyfer TGAU.
Darllenwch yr adroddiad penderfyniadau
Darllenwch grynodeb o’r adroddiad penderfyniadau
Darllenwch ganlyniadau'r ymgynghoriad fesul pwnc
Darllenwch fersiwn o’r adroddiad sy’n arbennig ar gyfer pobl ifanc
2023
Fe wnaethon ni gynnal nifer o weminarau i gyflwyno canlyniadau'r ymgynghoriad a phenderfyniadau ar lefel pwnc:
-
-
-
-
-
-
-
Yr Adroddiad Ymgynghori – Gwyliwch a Chyflwyniad
-
Penderfyniadau'r Dyniaethau - Gwyliwch a Chyflwyniad
-
Penderfyniadau Mathemateg a Rhifedd - Gwyliwch a Chyflwyniad
-
Penderfyniadau Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Gwyliwch a Chyflwyniad Atebion Holi ac Ateb
-
Penderfyniadau Iechyd a Lles - Gwyliwch a Chyflwyniad
-
Penderfyniadau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu - Gwyliwch a Chyflwyniad
-
Penderfyniadau'r Celfyddydau Mynegiannol - Gwyliwch a Chyflwyniad
-
-
-
-
-
-
Fe wnaethon ni gyflwyno ein pedwerydd ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn sefydlu barn ar y cynnig cymwysterau galwedigaethol diwygiedig.
Darllenwch yr adroddiad penderfyniadau
Darllenwch grynodeb o’r adroddiad penderfyniadau
Darllenwch fersiwn o’r adroddiad sy’n arbennig ar gyfer pobl ifanc
2024
CBAC i gyhoeddi manylebau ar gyfer cymwysterau TGAU Ton 1.
Meini prawf cymeradwyo i'w cyhoeddi ar gyfer cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau.
Fe wnaethon ni gyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer pob TGAU diwygiedig.
Cyhoeddom Meini Prawf Cymeradwyo lefel cymhwyster ac Amodau a Gofynion diwygiedig ar gyfer cymwysterau TGAU Cenedlaethol.
Cyhoeddwyd ein Datganiad o Fwriad Polisi ar gyfer Cymwysterau Cenedlaethol 14-16
2025
Bydd cymwysterau TGAU Ton 1 yn cael eu haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf.
CBAC i gyhoeddi manylebau ar gyfer cymwysterau TGAU Ton 2.
Cyrff dyfarnu i ddatblygu manylebau ar gyfer cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau.
2026
Bydd cymwysterau TGAU Ton 2 yn cael eu haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf.
Cyrff dyfarnu i gyhoeddi manylebau ar gyfer cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau.
2027
Bydd cymwysterau TGAU Ton 1 yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf.
Bydd cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau yn cael eu haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf.
Bydd dyfarnu'n dechrau ar gyfer rhai cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen a’r Gyfres Sgiliau.
2028
Bydd cymwysterau TGAU Ton 2 yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf.
Meini Prawf Cymeradwyo lefel cymhwyster
Cadwch i fyny â'r newyddion diweddaraf, ymgynghoriadau agored ac adolygu gweithgareddau sydd wedi dod i ben ar ein platfform Dweud Eich Dweud.
Gallwch hefyd ofyn unrhyw ymholiadau sydd gennych am ddiwygio cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed, a bydd ein Rheolwyr Cymwysterau yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.