Mae Meini Prawf Cymeradwyo yn amlinellu'r rhagofynion y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu bodloni er mwyn i ni gymeradwyo cymhwyster i'w ddefnyddio ar gyrsiau addysg a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru. 

Mae dau fath o ddogfennaeth meini prawf ar gyfer cymwysterau TGAU: 

1. Meini Prawf Cymeradwyo Cymhwyster TGAU: Dyma feini prawf cymeradwyo lefel cyfres sy'n berthnasol i bob pwnc TGAU. 

2. Meini prawf cymeradwyo lefel pwnc: Mae'r dogfennau hyn yn nodi ein gofynion dylunio ar gyfer cymwysterau TGAU ar lefel pwnc. Mae hyn yn cynnwys:  

  • pwrpas a nodau 
  • cynnwys 
  • trefniadau asesu 
  • graddio  
  • adrodd 

Mae'r dogfennau hyn ar gael ar gyfer pynciau rydyn ni wedi eu cymeradwyo i’w haddysgu am y tro cyntaf ers mis Medi 2025. 

Gall y meini prawf cymeradwyo hyn gael eu diweddaru gyda mân newidiadau ar wahanol adegau yn ystod y broses gymeradwyo.