Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau a’u rhoi ar waith mewn cyd-destunau perthnasol i baratoi ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithgar.
Mae'r cymhwyster yn datblygu'r pedwar sgìl cyfannol a amlinellir yn y Cwricwlwm i Gymru:
-
- meddwl yn feirniadol a datrys problemau
- creadigrwydd ac arloesi
- cynllunio a threfnu
- effeithiolrwydd personol
Cymhwyster Lefel 3 yw hwn sy’n cael ei gymryd yn bennaf gan ddysgwyr 16-19 oed sy'n dilyn rhaglenni astudio Lefel 3, fel Safon Uwch.

Cynnwys y cymhwyster
Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cynnig profiadau dysgu gwirioneddol, dilys. Mae pwyslais ar ddysgu y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth, yn ogystal â ffocws ar ddatblygu dysgu annibynnol.
Mae dysgwyr yn cael eu hannog i arfer ymreolaeth a dewis meysydd astudio sydd o ddiddordeb personol iddynt ac sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Dydy dysgwyr ddim yn cael eu hasesu'n uniongyrchol ar eu gwybodaeth am y meysydd astudio hyn, ond yn hytrach ar sut maen nhw’n rhoi’r pedwar sgìl cyfannol ar waith. Mae'r cymhwyster hefyd yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.
Mae'r cymhwyster wedi'i rannu'n dair cydran orfodol:
| Cydran | Disgrifiad | Pwysoli |
| Cydran 1: Project Cymuned Fyd-eang | Bydd dysgwyr yn datblygu’r Sgiliau Cyfannol ac yn arddangos sut maent yn eu rhoi ar waith wrth ystyried materion byd-eang cymhleth a chyfranogi mewn gweithgareddau cymunedol lleol (o leiaf 15 awr) i hyrwyddo dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru. | 25% |
| Cydran 2: Project Cyrchfannau'r Dyfodol | Bydd dysgwyr yn datblygu’r Sgiliau Cyfannol ac yn arddangos sut maent yn eu rhoi ar waith wrth archwilio nodau cyrchfannau’r dyfodol ar gyfer bywyd, cyflogadwyedd a dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru. | 25% |
| Cydran 3: Project Unigol | Bydd dysgwyr yn datblygu’r Sgiliau Cyfannol ac yn arddangos sut maent yn eu rhoi ar waith wrth gynllunio, rheoli a chynnal prosiect ymchwil annibynnol (prosiect ysgrifenedig estynedig neu arteffact). | 50% |
Graddio cymwysterau
Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch wedi'i graddio rhwng A* ac E.
Nid yw'n ofynnol i ddysgwyr basio pob cydran i ennill gradd cymhwyster, a chaniateir iddynt ailsefyll unwaith ar gyfer pob cydran.
Dilyniant cymwysterau
Bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch o gymwysterau sy'n asesu'r pedwar sgìl cyfannol ar Lefel 2. Dyma'r Dystysgrif Her Sgiliau ar hyn o bryd.
O fis Medi 2027 ymlaen, bydd y Dystysgrif Her Sgiliau yn cael ei disodli gan y Gyfres Sgiliau Cymwysterau Cenedlaethol, sy'n cynnwys Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith, Sgiliau Bywyd a Gwaith, a'r Project Personol.

Symud ymlaen i astudio yn y brifysgol
Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cario'r un pwyntiau UCAS â Safon Uwch ac mae’n cael ei chydnabod gan brifysgolion ledled y DU ac yn fyd-eang fel cymhwyster cyfatebol i Safon Uwch.
Mae'r cymhwyster yn ofyniad mynediad derbyniol yn y prifysgolion y mae mwyafrif y myfyrwyr yng Nghymru yn eu mynychu.
Dogfennaeth y cymhwyster
Fel y rheoleiddiwr ar gyfer y cymhwyster hwn, rydyn ni'n gyfrifol am sicrhau bod y fanyleb a'r ddogfennaeth ategol a ddatblygwyd gan y corff dyfarnu yn bodloni ein disgwyliadau o ran trylwyredd a gwerth.
I wneud hyn, rydyn ni wedi gosod maen prawf y mae'n rhaid i'r deunyddiau hyn eu bodloni cyn gallu eu cymeradwyo i'w cyflwyno mewn ysgolion a cholegau.
Meini prawf cymeradwyo Bagloriaeth Sgiliau Cymru UwchDatblygu'r cymhwyster presennol
Gallwch chi ddod o hyd i'r holl ddogfennaeth berthnasol ynglŷn â'n hymgynghoriad ar y cymhwyster hwn yma:
Dogfennaeth y corff dyfarnu
Caiff Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ei darparu gan CBAC, a ddatblygodd y cymhwyster ar y cyd â rhanddeiliaid.
Gallwch chi ddod o hyd i'r holl ddogfennau ategol perthnasol ar wefan y corff dyfarnu, gan gynnwys y fanyleb, adnoddau ategol, a dysgu proffesiynol ar alw sydd wedi ei drefnu i athrawon.
Ewch i wefan CBACRolau a chyfrifoldebau
Mae amrywiaeth o sefydliadau’n cyfrannu at sector addysg Cymru, pob un â chylch gwaith clir. Er bod eu cyfrifoldebau’n wahanol, maen nhw’n gweithredu mewn system sydd wedi’i chysylltu’n agos ac sy’n rhyngddibynnol.
Isod, rydyn ni wedi amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r cyrff allweddol sy'n gysylltiedig â chymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.

Llywodraeth Cymru
Rôl Llywodraeth Cymru yw goruchwylio'r system addysg ehangach a rôl cymwysterau ynddi, gan osod cyfeiriad polisi a rhoi arweiniad ar ddefnydd y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.
Medr
Mae Medr yn gyfrifol am ariannu a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol, gan gynnwys y rhai sy'n cynnig cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.
Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru. Mae'n nodi gofynion dylunio a rheoleiddio’r cymhwyster ar gyfer Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac yn monitro cydymffurfiaeth CBAC â’r gofynion hynny.
CBAC
CBAC sy'n gyfrifol am ddarparu a dyfarnu cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio Cymwysterau Cymru.
Cwestiynau Cyffredin
Mae'r cwestiynau cyffredin canlynol a'r ymatebion wedi cael eu datblygu ar y cyd gan y pedwar sefydliad.
Ydy. Mae BSC Uwch yn gymhwyster lefel 3 sy'n cyfateb i Safon Uwch. Mae'r un maint (360 o oriau dysgu dan arweiniad) ac mae ganddo'r un graddau (A*-E). Fodd bynnag, dydy e ddim yn cael ei alw'n TAG Safon Uwch.
Mae'r pwyntiau tariff canlynol yn ymddangos ar gyfer BSC Uwch ar wefan UCAS. Maen nhw’n cyfateb i'r pwyntiau tariff ar gyfer Safon Uwch:
|
Gradd |
A* |
A |
B |
C |
D |
E |
|
Pwyntiau |
56 |
48 |
40 |
32 |
24 |
16 |
Cyfrifa dy bwyntiau Tariff UCAS [Saesneg yn unig]
Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn y DU yn derbyn BSC Uwch o fewn eu gofynion mynediad. Fodd bynnag, does dim un dull penodol yn unig. Gall polisïau mynediad amrywio rhwng prifysgolion a gall hefyd fod yn wahanol ar draws cyrsiau o fewn yr un brifysgol. Felly, cynghorir dysgwyr i wirio gofynion mynediad prifysgolion a chyrsiau unigol yn ofalus cyn dechrau eu proses ymgeisio UCAS.
Mae rhai prifysgolion yn derbyn BSC Uwch trwy'r Tariff UCAS, tra bod eraill yn ei gydnabod fel cymhwyster sy'n cyfateb i Safon Uwch. Mewn rhai achosion, gall dysgwyr sydd â chymhwyster BSC Uwch dderbyn cynnig gradd Safon Uwch is.
Mae BSC Uwch yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau gwerthfawr fel ymchwil annibynnol, meddwl yn feirniadol, datrys problemau a chyfathrebu effeithiol, sy'n cael eu parchu'n fawr gan brifysgolion. Yn achos prifysgolion mwy dethol nad ydyn nhw’n cynnwys y cymhwyster BSC Uwch yn ffurfiol yn eu gofynion mynediad, maen nhw wedi cyhoeddi polisïau sy'n cydnabod gwerth y cymhwyster ac yn nodi y gall gryfhau cais, gan fod dysgwyr yn gallu tynnu ar y sgiliau y maen nhw wedi'u datblygu, yn enwedig drwy gwblhau'r Project Unigol.
Mae’r cymhwyster BSC Uwch lefel 3 yn canolbwyntio ar ddatblygu ac asesu'r pedwar sgìl cyfannol.
Mae'r sgiliau cyfannol fel a ganlyn:
- Cynllunio a threfnu
- Creadigrwydd ac arloesi
- Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
- Effeithiolrwydd personol
Mae'r sgiliau hyn yn bwysig i AU a chyflogwyr.
Bydd cymwysterau’r Project Personol a gymerir cyn-16 o 2027 ymlaen yn asesu'r sgiliau cyfannol hyn, er ar lefelau is (lefel mynediad 1 i lefel 2). Mae hyn yn gwneud BSC Uwch yn gam naturiol i ddysgwyr sy'n dymuno gwella'r sgiliau hanfodol hyn.
Mae BSC Cymru Uwch yn parhau i gefnogi ac asesu datblygiad dysgwyr o ran sgiliau cyfannol y Cwricwlwm i Gymru, rydyn ni’n gwybod sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant mewn addysg uwch ac yn bwysig i gyflogwyr.
Disgwylir i BSC Uwch fod ar gael a chael ei gynnig i bob dysgwr rhwng 16 a 18 oed ar gwrs lefel 3, dwy flynedd.
Er y dylid annog pob dysgwr cymwys i ymgymryd â BSC Uwch, dylai ysgolion a SAB ystyried anghenion ac amgylchiadau unigol dysgwyr, fel y bydden nhw ar gyfer unrhyw gymhwyster.
Mae hyn yn cynrychioli'r polisi a sefydlwyd gan y llywodraeth flaenorol ac mae'n ddarostyngedig i benderfyniadau a wneir gan Weinidogion newydd.
Mae Medr yn cyhoeddi'r mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16, sy'n cwmpasu ysgolion â chweched dosbarth a cholegau addysg bellach. Mae'r mesurau cyflawniad yn cynnwys dangosyddion penodol ar gyfer BSC Uwch sy'n edrych ar gwblhau dros ddwy flynedd y cymhwyster a chanlyniadau graddau. Rhennir adroddiadau manwl ar lefel darparwr sy'n cwmpasu'r mesurau hyn gyda darparwyr unigol, awdurdodau lleol ac Estyn.
Fel rhan o'r Fframwaith Ansawdd, bydd Medr yn ystyried data mewn perthynas ag ystod o ganlyniadau (gan gynnwys BSC Uwch) i bennu unrhyw risg i ansawdd addysg drydyddol. Pan fo angen, bydd data yn sbardun ar gyfer sgwrs gyda darparwyr yn y lle cyntaf, er mwyn hwyluso dealltwriaeth o'r cyd-destun. Bydd ymyriadau sy'n ymwneud ag ansawdd yn cael eu hintegreiddio o fewn fframwaith rheoleiddio ehangach Medr a byddan nhw’n gymesur â'r risg a gyflwynir.
Helpodd cyflogwyr o bob cwr o'r DU i ddylunio BSC Uwch. Maen nhw’n parchu'r cymhwyster oherwydd ei fod yn datblygu sgiliau fel datrys problemau, meddwl yn feirniadol, cyfathrebu a gweithio’n annibynnol – sgiliau y mae llawer o gyflogwyr yn adrodd sy’n brin.
Mae tystiolaeth o ymchwil cyflogwyr yng Nghymru yn tynnu sylw at fylchau sgiliau parhaus, sy'n golygu bod cymwysterau fel BSC Uwch, yn enwedig trwy'r Project Unigol, yn helpu dysgwyr i ddangos y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr fwyfwy.
Mae'r tri phroject sy'n ffurfio'r cymhwyster yn cael eu hasesu trwy asesu di-arholiad. Nid oes arholiadau ar gyfer y cymhwyster.
Bydd gan bob canolfan eu dyddiadau cau mewnol eu hunain ar gyfer cwblhau'r gwaith ac mae gan CBAC ddyddiadau cau llym ar gyfer cyflwyno gwaith i'w gymedroli'n allanol. Mae dyddiadau allweddol yn cael eu cyhoeddi ar eu gwefan. Mae cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cael ei ddyfarnu ym mhob cyfres arholiadau/asesu y mis Ionawr a'r haf, gyda chanlyniadau'n cael eu rhoi i ganolfannau a dysgwyr ym mis Mawrth ac ym mis Awst yn y drefn honno.
Dydy Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ddim yn ofyniad statudol ar gyfer dysgwyr ôl-16. Fodd bynnag, mae polisi Llywodraeth Cymru yn annog pob chweched dosbarth a choleg addysg bellach i'w gynnwys yn eu rhaglenni dysgu llawn amser.
Bydd ysgolion â chweched dosbarth a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a gynhelir gan awdurdodau lleol yn gallu manteisio ar gyllid Medr er mwyn darparu BSC Uwch. Dydy'r cyllid hwn ddim yn cael ei ddyrannu fel ffrwd ar wahân neu bwrpasol, ond yn hytrach, mae'n cael ei ymgorffori o fewn trefniadau cyllido rhaglenni presennol.
Mae BSC Uwch yn gymhwyster lefel 3 annibynnol, sy'n seiliedig ar sgiliau, sy'n cyfateb o ran maint a galw academaidd i Safon Uwch:
- Mewn rhaglenni galwedigaethol lefel 3 llawn amser, mae BSC Uwch yn rhan o'r elfen Graidd, gyda 135 o oriau dysgu dan arweiniad wedi'u cynnwys yn y cyfrifiad cyllid ar gyfer rhaglenni unigol.
- Mewn rhaglenni Addysg Gyffredinol lefel 3 llawn amser, mae'n cael ei drin fel prif gymhwyster, sy'n cyfateb i bwnc Safon Uwch, gyda 135 o oriau dysgu dan arweiniad yn cael eu cyfrif at bwrpas ariannu rhaglenni.
Oes, mae Tîm Cefnogi Rhanbarthol CBAC yn rhoi cefnogaeth i ganolfannau ac yn eu helpu i gynllunio.
Mae rhagor o wybodaeth ar dudalen we y tîm Cefnogi Rhanbarthol neu gellir cysylltu â nhw ar CefnogaethSgiliau.Cymru@cbac.co.uk
Mae dogfen ffioedd CBAC yn rhoi manylion cost y cymhwyster BSC Uwch. Cyfeiriwch at adran Bagloriaeth Cymru yn y ddogfen ffioedd.
Nac oes, does dim rhaid cofrestru ar gyfer BSC Uwch. Dim ond ar gyfer pob Project a chyfnewid y cymhwyster y bydd angen cofrestru ymgeiswyr.
Mae CBAC wedi cynhyrchu pecyn brandio digidol ar gyfer pob canolfan, sydd ar gael o dan 'Cefnogaeth i Athrawon' ar y dudalen Dogfennau Allweddol. Mae'r pecyn yn cynnwys dyluniadau ar gyfer taflenni, posteri a baneri y gall canolfannau eu haddasu a'u cynhyrchu eu hunain, yn ogystal â'r holl logos ar gyfer y Sgiliau a'r Projectau. Dydy CBAC ddim yn darparu copïau caled.
Mae CBAC wedi cyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial gyda phob un o’u cymwysterau. Maen nhw hefyd wedi creu ffeithlun defnyddiol i gefnogi myfyrwyr.