Dysgwyr yn derbyn eu canlyniadau UG, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol lefel 3 heddiw
Mae miloedd o ddysgwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau UG, Safon Uwch, cymwysterau galwedigaethol a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch heddiw (13 Awst).
Mae heddiw’n garreg filltir bwysig i ddysgwyr wrth iddyn nhw dderbyn canlyniadau cymwysterau a fydd yn eu helpu nhw i gymryd eu camau nesaf mewn bywyd, boed hynny'n symud ymlaen i addysg uwch, astudiaethau pellach, prentisiaeth, hyfforddiant neu gyflogaeth.
“Llongyfarchiadau i bawb sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw. Dylech chi fod yn falch o'r hyn rydych chi wedi’i gyflawni," meddai Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru.
"Mae diwrnod canlyniadau yn garreg filltir bwysig, a bydd llawer o ddysgwyr nawr yn edrych ymlaen at eu camau nesaf. Beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud nesaf – symud ymlaen i'r brifysgol, parhau â'ch addysg yn y coleg, dechrau prentisiaeth neu fentro i'r byd gwaith – bydd eich cymwysterau yn aros gyda chi i ddangos yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni a'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth rydych chi wedi'u datblygu.
Efallai na fydd rhai dysgwyr yn cael y canlyniadau roedden nhw wedi gobeithio amdanynt. Os felly, ceisiwch beidio â phoeni. Mae cefnogaeth ar gael, a gall eich ysgol neu goleg eich helpu chi i ddeall eich opsiynau a phenderfynu ar y camau nesaf gorau."
Gan ddiolch i'r rhai sydd wedi cefnogi dysgwyr trwy gydol eu hastudiaethau, parhaodd Philip Blaker:
"Hoffem ddiolch i bawb ym mhob rhan o’r system addysg a chymwysterau sydd wedi cefnogi dysgwyr drwy gydol y flwyddyn.
Yn benodol, rydyn ni’n cydnabod ymroddiad athrawon, darlithwyr, staff cymorth, arweinwyr, arholwyr a phawb sydd wedi helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer eu cymwysterau a’u cwblhau. Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu gwaith caled dysgwyr ac ymrwymiad y rhai sydd wedi eu cefnogi ar hyd y ffordd."
Canlyniadau UG, Safon Uwch a Bagloriaeth Sgiliau Uwch
Safon Uwch
- Cafodd 32,633 o raddau Safon Uwch eu dyfarnu yr haf hwn – i fyny 2.6% o'i gymharu â 2025
- Cafodd graddau eu dyfarnu i 13,930 o ddysgwyr yng Nghymru eleni – o'i gymharu â 13,585 haf diwethaf
- Mae 10.7% o ganlyniadau Safon Uwch eleni yn raddau A*, mae 29.6% o ganlyniadau yn raddau A* neu A, ac mae 97.7% o ganlyniadau yn raddau A* i E
Ar gyfer unigolion 18 oed yn sefyll Safon Uwch cymeradwy:
- mae 10.5% o ganlyniadau yn raddau A*, mae 29.7% o ganlyniadau yn raddau A* neu A, ac mae 98.0% o ganlyniadau yn raddau A* i E
UG
- Cafodd 42,082 o raddau UG eu dyfarnu yr haf hwn – i fyny 5.4% o'i gymharu â 2025
- Cafodd graddau eu dyfarnu i 17,875 o ddysgwyr yng Nghymru yr haf hwn – o'i gymharu â 17,010 yn haf 2025
- Mae 22.5% o ganlyniadau UG eleni yn raddau A, ac mae 90.7% o ganlyniadau yn raddau A i E
Ar gyfer unigolion 17 oed yn sefyll cymwysterau UG cymeradwy:
- mae 22.8% o ganlyniadau yn raddau A, ac mae 90.1% o ganlyniadau yn raddau A i E
Bagloriaeth Sgiliau Uwch
- Safodd 12,237 o ddysgwyr y cymhwyster yr haf hwn, o’i gymharu â 10,969 yn haf 2025
- O'r canlyniadau a ddyfarnwyd, mae 8.0% yn raddau A*, 29.0% yn raddau A* neu A a 97.4% yn raddau A* i E
Mae manylion llawn canlyniadau heddiw ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru. Mae yna hefyd wybodaeth am wasanaethau ôl-ganlyniadau, apeliadau a chefnogaeth i ddysgwyr wrth iddyn nhw ystyried eu camau nesaf.