TAAU: cymhwyster galwedigaethol newydd i bobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghymru
Mae'r Rheolwr Cymwysterau, Jo Moriarty, yn esbonio sut mae cymwysterau TAAU yn gweithio a pham mae datblygu sgiliau cyflogadwyedd ochr yn ochr â gwybodaeth academaidd yn hanfodol ar gyfer paratoi pobl ifanc ar gyfer gwaith.
Mae'r byd gwaith yn newid yn gyflym.
Bydd dysgwyr heddiw yng Nghymru yn mynd ymlaen i weithio mewn diwydiannau cyffrous ac arloesol. Bydd rhai hyd yn oed yn gwneud swyddi a fydd yn defnyddio technoleg, offer a dulliau sydd heb eu dyfeisio eto.
Felly sut ydyn ni'n eu paratoi nhw ar gyfer hynny?
Beth yw TAAU?
Mae cymwysterau TAAU yn nodi'r cam nesaf ymlaen ar gyfer dysgu galwedigaethol yng Nghymru. Dw i'n gyffrous iawn am yr hyn y gallen nhw ei olygu i'n dysgwyr.
Gan ddechrau ym mis Medi 2027, maen nhw’n rhoi cyflwyniad eang, sy’n briodol i oedran, i ddysgwyr Blwyddyn 10 ac 11 i bynciau sy'n gysylltiedig â gwaith. Nid bwriad cymwysterau TAAU yw datblygu gwybodaeth dechnegol fanwl neu gymhwysedd galwedigaethol (hynny yw, y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i wneud swydd). Mae'r rheiny fel arfer yn cael eu datblygu yn ystod astudiaethau ôl-16.
Rydyn ni wedi sefydlu cymwysterau TAAU er mwyn:
- ennyn diddordeb a brwdfrydedd dysgwyr ynghylch maes cyflogaeth penodol
- adeiladu ymwybyddiaeth o'r ystod o yrfaoedd sydd ar gael yn y maes hwnnw
- rhoi cyfleoedd i ddysgu drwy brofiad ymarferol uniongyrchol
Rydyn ni hefyd wedi eu datblygu nhw'n benodol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru, gan adlewyrchu cefndir cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd y wlad.
Mae cymwysterau TAAU yn cefnogi dibenion y Cwricwlwm i Gymru. Byddan nhw’n helpu ysgolion i:
- gyflwyno agwedd addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith y cwricwlwm
- rhoi cyfleoedd dysgu eang a chytbwys
- bodloni’r hawl i ddysgu 14 i 16
Sut bydd TAAU yn edrych mewn gwirionedd?
Cymwysterau lefel 1 a lefel 2 yw TAAU, a gall athrawon eu cyflwyno mewn tua 120–140 o oriau dysgu dan arweiniad, yn union fel TGAU.
Mae cymwysterau TAAU wedi’u dylunio i weithio gyda'r adnoddau sydd gan ysgolion yn barod, felly ni fydd angen llawer o offer neu gyfleusterau technegol arbenigol.
Mae pob TAAU yn cynnwys asesiad allanol fydd werth 30%. Gall dulliau asesu amrywio yn ôl corff dyfarnu a gallen nhw fod ar sawl ffurf, er enghraifft:
- tasgau ymarferol
- projectau
- profion ar-lein
- arholiadau ysgrifenedig
Pa bynciau fydd ar gael?
Bydd ysgolion yn gallu dewis o blith 15 o bynciau, gan gynnwys yr Amgylchedd Adeiledig, Peirianneg, Gwallt a Harddwch, Lletygarwch ac Arlwyo, a’r Celfyddydau Perfformio. Gall mwy nag un corff dyfarnu gynnig pob pwnc, fel bod ysgolion yn gallu dewis y cynnwys, y profiadau a'r dull asesu sy'n gweddu orau i'w dysgwyr.
Mae cyflwyno TAAU yn gyfle i ysgolion edrych o'r newydd ar y pynciau galwedigaethol maen nhw'n eu cynnig.
Mae'n bwysig iawn bod ysgolion yn cofio y bydd TAAU yn disodli'r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol presennol ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed. Bydd hyn yn gwneud y cynnig galwedigaethol yng Nghymru yn gliriach ac yn haws i'w esbonio i ddysgwyr, rhieni, gofalwyr a chyflogwyr.
Gall athrawon ddefnyddio'r gronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru i ddarganfod pa gymwysterau galwedigaethol presennol fydd yn parhau.
Rydyn ni wedi sicrhau bod pob pwnc TAAU ar gael ar lefel mynediad a lefel 1 fel cymhwyster Sylfaen, gan roi cyfle i fwy o ddysgwyr gymryd rhan mewn dysgu galwedigaethol.
Sut gall athrawon gael gafael ar gymorth?
Fel gyda chymwysterau galwedigaethol presennol, dylai ysgolion sydd eisiau cyflwyno cymwysterau TAAU siarad â'r cyrff dyfarnu perthnasol. Gallan nhw roi gwybodaeth am y cymwysterau, ynghyd ag unrhyw hyfforddiant neu adnoddau i gefnogi’r gwaith o’u cyflwyno.
Gall athrawon ymweld â'n tudalen ar gymwysterau TAAU i ddarganfod pa gyrff dyfarnu sy'n cynnig pa bynciau.
Pam mae sgiliau cyflogadwyedd yn bwysig?
Mae cyflogwyr eisiau pobl ifanc sy'n hyblyg ac yn barod i ffynnu mewn diwydiannau sy'n newid yn gyflym.
Mae adroddiad Life Lessons 2024 Ymddiriedolaeth Sutton yn cefnogi hyn. Canfu fod hyder, cymhelliant, gwydnwch a chyfathrebu yr un mor bwysig i lwyddiant â gwybodaeth academaidd, yn yr ysgol ac yn y gwaith.
Mae rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu'r sgiliau hyn, ochr yn ochr â chyflwyniad gwirioneddol i wahanol sectorau cyflogaeth, yn rhan hanfodol o addysg 14 i 16 yng Nghymru.
Beth sy'n gwneud i ddysgu galwedigaethol weithio mor dda?
Dw i wedi addysgu ystod eang o gymwysterau dros y blynyddoedd, a dw i bob amser yn cael fy nharo gan sut mae cyrsiau ymarferol, sy'n seiliedig ar sgiliau yn ennyn diddordeb dysgwyr mewn ffyrdd na all pynciau eraill.
Mae cymwysterau galwedigaethol yn gadael i ddysgwyr gael profiad ymarferol. Maen nhw’n ymchwilio i sut mae’r sector yn edrych yn y byd go iawn.
Maen nhw hefyd yn ategu'r cymwysterau eraill y mae dysgwyr yn eu hastudio, gan eu helpu nhw i ddatblygu sgiliau sy'n cysylltu ar draws pob agwedd ar fywyd ysgol. Ac maen nhw’n chwarae rôl allweddol, ochr yn ochr â chymwysterau eraill y dysgwyr, wrth eu helpu nhw i gymryd eu camau nesaf, boed hynny i addysg bellach neu gyflogaeth.
Pam mae ehangder yn bwysig yn 14 oed?
Yn 14 oed, dydy’r rhan fwyaf o ddysgwyr ddim yn gwybod yn union pa yrfa maen nhw ei eisiau. Mae hynny'n gwbl ddealladwy.
Felly mae angen i ni gael cydbwysedd. Dylai cymwysterau galwedigaethol yr oedran hwn fod yn gyfle i gael blas. Dylen nhw gynnig cyflwyniad eang, nid arbenigedd cul, fel bod dysgwyr wedi'u paratoi'n dda ar gyfer astudio ôl-16 neu gyflogaeth.
Mae dull ymarferol, cynnwys gafaelgar ac amrywiaeth o ddulliau asesu yn gyfuniad llwyddiannus sy’n helpu pobl ifanc i symud ymlaen yn hyderus i’w camau nesaf.