BLOG

Cyhoeddwyd:

30.01.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Manteisio ar gyfleoedd Cymwysterau Cenedlaethol newydd

Cassy Taylor – Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi a Diwygio Cymwysterau

Mae addysg wrth wraidd cynnydd cymdeithasol, ac yng Nghymru, mae'r sylfaen hon wrthi’n cael ei thrawsnewid. Wrth i’r Cymwysterau Cenedlaethol newydd gael eu cyflwyno, mae ton newydd o gyfleoedd cyffrous ar y gorwel i ddysgwyr ac addysgwyr.  

Tirwedd sy'n newid
Mae tirwedd addysgol Cymru wedi’i hail-lunio gan y Cwricwlwm i Gymru, sy'n rhoi'r ymreolaeth i ysgolion gyflwyno rhaglen addysgu eang a chytbwys. Mae Cymwysterau Cenedlaethol yn bodloni nodau a disgwyliadau'r Cwricwlwm y mae pob dysgwr mewn addysg gynradd ac uwchradd yng Nghymru yn ei ddilyn erbyn hyn.  

Mae’r newid sylweddol yma wedi arwain at ddatblygu’r cymwysterau yn yr un modd er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol, yn gynhwysol, ac yn cynnwys cymysgedd eang o ddulliau asesu

O fewn hynny mae rhai elfennau trawsgwricwlaidd allweddol sy'n ychwanegu at gynnwys pynciau craidd traddodiadol. Mae angen i ddulliau asesu hefyd adlewyrchu'r addysgu’n well er mwyn osgoi unrhyw ddiffyg cysylltiad â nodau a dibenion y Cwricwlwm. 

Hawl i ddysgu
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Hawl i Ddysgu 14 i 16 newydd, sy'n amlinellu'r cwricwlwm y mae gan bob dysgwr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 hawl iddo.  

Mae’r hawl i ddysgu yn golygu bod yn rhaid i ganolfannau drefnu amser ac adnoddau eu cwricwlwm o amgylch pedair elfen allweddol: 

  • cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd
  • cymwysterau i annog ehangder
  • myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16
  • dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm 

Llunio'r cynnig
Mae tair egwyddor allweddol wedi dylanwadu ar benderfyniadau Cymwysterau Cymru ar amrywiaeth a dyluniad y Cymwysterau Cenedlaethol: 

  • cysondeb â’r Cwricwlwm i Gymru
  • cydlyniaeth a chynhwysiant
  • ar gael yn Gymraeg a Saesneg 

Wrth ystyried yr amrywiaeth, roeddem yn gofalu ein bod yn dylunio cymwysterau a fyddai, lle bo hynny'n bosibl, yn cefnogi lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu bob tro heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.  

Cymwysterau Cenedlaethol fydd y prif gynnig 14-16 sy’n cael ei ariannu yn gyhoeddus yn ysgolion Cymru a bydd yn cynnwys: 

  • TAAU
  • TGAU
  • Cyfres Sgiliau – yn cynnwys Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith a’r Prosiect Personol
  • Cymwysterau Sylfaen 

Nid datblygiad yn unig yw’r Cymwysterau Cenedlaethol - maent yn chwyldroi’r modd y caiff addysg ei chyflwyno a'i hasesu. Byddant yn cefnogi nodau a dibenion y Cwricwlwm ac yn darparu cyfleoedd asesu ar lefel mynediad, lefel 1 a lefel 2. Mae hyn yn cefnogi ein huchelgais o greu cynnig cydlynol a chynhwysol. 

Bydd canolfannau'n gallu cynnig cyfuniad pwrpasol o'r cymwysterau hyn i gefnogi dysgwyr i gyflawni eu nodau unigol ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith. Bydd hygyrchedd, amrywiaeth a gwerth y cymwysterau hyn yn ysgogi ysgolion i’w cynnig nhw i ddysgwyr, gan gynnig mwy o gysondeb i ddysgwyr yng Nghymru.  

Mae nifer o fanteision allweddol i'r cymwysterau newydd: 

  • amrywiaeth o ddulliau asesu, gan ddarparu ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu a sicrhau gwerthusiad tecach o alluoedd myfyrwyr
  • mae integreiddio iaith a llenyddiaeth yn gymwysterau cyfun yn rhoi cyfleoedd i annog ffyrdd newydd o feddwl a mwy o werthfawrogiad o lenyddiaeth, a dyfeisgarwch iaith
  • gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol, paratoi dysgwyr ar gyfer y byd digidol a gwella eu cyflogadwyedd
  • profiadau dysgu ymarferol - datblygu’r sgiliau byd go iawn sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr
  • gwerth y tu hwnt i'n ffiniau - sicrhau bod myfyrwyr Cymru yn gallu cystadlu ar raddfa fyd-eang 

Cyflwyno’n raddol
Mae’r Cymwysterau Cenedlaethol yn cael eu cyflwyno fesul cam dros y tair blynedd nesaf.  

O fis Medi 2025 bydd llu o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd yn cael eu haddysgu, mewn pynciau sy'n amrywio o gelf a dylunio i astudiaethau crefyddol. Bydd ail set o gymwysterau TGAU yn cael eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026, gan gynnwys pynciau newydd fel dawns ac astudiaethau cymdeithasol. 

Yn olaf, ym mis Medi 2027 bydd y dysgwyr cyntaf yn dechrau ar y cyrsiau TAAU, ochr yn ochr â'r Cyfres Sgiliau a'r Cymwysterau Sylfaen newydd. 

Mae cyflwyno’r Cymwysterau Cenedlaethol yn garreg filltir bwysig o ran diwygio addysg yng Nghymru. Mae'r cymwysterau hyn wedi'u cynllunio i fod yn gynhwysol, yn gydlynol ac i gyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, gan sicrhau bod gan ein dysgwyr yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y byd modern. 

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid i ddatblygu'r meini prawf y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu bodloni wrth ddatblygu'r cymwysterau hyn. Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n eang ac rydym wedi ymrwymo i gynnwys eraill wrth i'r broses gyflwyno fynd rhagddo.  

Rydym yn eich gwahodd i groesawu'r newidiadau cyffrous hyn ac i archwilio'r cyfleoedd newydd a ddaw yn eu sgil. Gyda’n gilydd, gallwn greu amgylchedd addysgol deinamig, cynhwysol ac ysbrydoledig ar gyfer pob dysgwr. 

Cadwch lygad am ragor o ddiweddariadau ac ymunwch â ni ar y daith drawsnewidiol hon tuag at ddyfodol mwy disglair i addysg yng Nghymru.