Rydyn ni’n disgwyl gosod y safonau uchaf ym mhopeth a wnawn. Ein nod yw dysgu o'n camgymeriadau a defnyddio'r wybodaeth a gawn i wella ein prosesau.
Rhaid i chi ddod â'ch cwyn neu bryder i ni o fewn chwe mis i'r mater godi. Mae hyn er mwyn osgoi colli gwybodaeth a sicrhau eich bod chi’n gallu siarad â'r aelod perthnasol o staff.
Rydyn ni wedi gosod cyfyngiadau amser i ni'n hunain i ymdrin â chwynion ac rydyn ni’n disgwyl cyflawni'r rheini oni bai bod eich cwyn yn gymhleth ac yn gofyn am ragor o amser i gynnal ymchwiliad trylwyr.
Ein haddewid i chi yw y byddwn ni’n deg ac yn rhesymol wrth ddelio â chi. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar ac yn gwrtais gyda ni wrth i ni ymdrin â'ch cwyn.
Mae cael canlyniad da i bawb dan sylw yn bwysig i ni. Lle bo modd, rydyn ni'n hoffi ymdrin â phethau yn anffurfiol ac ar unwaith.
Cwyno am Cymwysterau Cymru
Datrys y mater yn anffurfiol
Os oes gennych chi bryderon, yna'r peth gorau i’w wneud yw rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ni geisio datrys pethau. Yn gyntaf dylech roi cyfle i ni ymateb i'ch ymholiad. Os nad ydych chi’n hapus â'n hymateb, byddwch yn gallu rhoi gwybod am eich pryder fel rydyn ni’n ei ddisgrifio isod.
Os yw'n bosib, rydyn ni'n credu ei bod hi’n well delio â phethau ar unwaith yn hytrach na cheisio eu datrys yn nes ymlaen. Os oes gennych chi bryder, codwch e’n gyntaf gyda'r person rydych chi'n delio â nhw. Byddan nhw’n ceisio ei ddatrys i chi ar unwaith.
Os oes unrhyw wersi i'w dysgu o ymdrin â'ch pryder, yna bydd yr aelod o staff yn tynnu ein sylw atyn nhw. Os nad yw’r aelod o staff yn gallu helpu, bydd yn esbonio pam, yn cyfeirio’r mater lle bo’n briodol ac os byddwch chi’n parhau i fod yn anfodlon â’r canlyniad, gallwch chi wedyn ofyn am ymchwiliad ffurfiol.
Ymchwiliad ffurfiol
Os ydych chi’n dymuno gwneud cwyn ffurfiol, gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi yn ein Polisi Cwynion Corfforaethol.
Nodwch nad yw'r polisi hwn yn cwmpasu'r canlynol, sy’n cael eu trin mewn ffordd wahanol:
- cwynion yn ymwneud â phenderfyniadau sydd wedi’u gwneud gan Cymwysterau Cymru yn ei rôl fel rheoleiddiwr - caiff hyn ei esbonio yn ein Polisi Apeliadau Rheoleiddiol
- cwynion yn ymwneud â phenderfyniad rydyn ni wedi'i wneud i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrth gorff dyfarnu - gweler ein Polisi Apeliadau Rheoleiddiol am ragor o wybodaeth
- cwynion am gyrff dyfarnu - os yw cwyn am un o'r cyrff dyfarnu a reoleiddir gennym ni wedi cael ei hystyried ganddyn nhw, ond nad yw wedi'i datrys, yna byddwn ni’n gallu ei hystyried, gweler isod
- cwynion am benderfyniad rydyn ni wedi’i wneud yn ymwneud â chynnig neu ddyfarnu contract - cysylltwch â’r Pennaeth Caffael ar caffael@cymwysterau.cymru
Os ydych chi’n credu na chafodd eich cwyn ei thrin yn ddigonol neu'n briodol, mae cyfleoedd eraill i fynd â'ch pryder ymhellach. Byddwn ni’n eich cynghori ynghylch hyn pan fyddwn yn ysgrifennu atoch gyda phenderfyniad ar eich cwyn ffurfiol.
Cwyno am y Gymraeg
Mae ein Polisi Cwynion Corfforaethol yn esbonio sut y gallwch chi wneud cwyn am wasanaethau'r Gymraeg a'n cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg.
Gallwch chi wneud cwyn o dan y polisi:
- os ydych chi'n credu nad ydyn ni wedi bodloni Safonau'r Gymraeg sy'n berthnasol i ni
- os ydych chi'n anfodlon â gwasanaeth Cymraeg rydyn ni wedi ei ddarparu
- os ydych chi'n credu bod y Gymraeg wedi cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg
Pan fyddwn ni’n ystyried cwyn ynghylch y Gymraeg, efallai y byddwn ni’n ystyried deddfwriaeth berthnasol, Safonau’r Gymraeg a Chod Ymarfer Comisiynydd y Gymraeg.
Yn unol â'r Safonau Cadw Cofnodion, rydyn ni’n cadw cofnod o gwynion yn ymwneud â’r Gymraeg ac yn cadw copïau o bob cwyn. Rydyn ni’n adrodd ar y wybodaeth hon yn flynyddol yn ein hadroddiad ar Safonau’r Gymraeg.
Os na ellir datrys cwyn ynghylch y Gymraeg drwy ein Polisi Cwynion Corfforaethol, gellir ei chyfeirio at Gomisiynydd y Gymraeg. Gallwch chi hefyd wneud cwyn yn uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg ar unrhyw adeg os ydych chi’n credu nad ydyn ni wedi cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.
Cwynion Diogelu Data
Os oes gennych chi bryderon ynglŷn â sut rydyn ni wedi casglu, defnyddio neu drin eich data personol, gallwch chi wneud cwyn drwy ein Polisi Cwynion Corfforaethol.
Gallwch chi wneud cwyn drwy ddefnyddio'r ffurflen sydd ynghlwm wrth y polisi, drwy e-bostio llywodraethucorfforaethol@cymwysterau.cymru, neu drwy ffonio 01633 373 222.
Gallwch chi ddefnyddio'r Polisi Cwynion Corfforaethol os:
-
ydych chi'n poeni am sut rydyn ni wedi casglu, defnyddio neu rannu eich data personol
-
ydych chi'n credu bod achos o dorri rheolau data personol wedi digwydd
-
ydych chi'n anfodlon â'r modd rydyn ni wedi ymateb i gais am eich hawliau diogelu data
Rydyn ni’n cymryd cwynion diogelu data o ddifrif a byddwn ni’n adolygu eich cwyn yn deg ac yn unol â'n polisi cyhoeddedig.
Wrth ymdrin â'ch cwyn, byddwn ni’n:
-
cydnabod eich cwyn yn brydlon
-
edrych ar y materion rydych chi wedi'u codi ac yn anelu at ymateb o fewn 30 diwrnod calendr
-
dweud wrthych chi a oes angen mwy o amser arnon ni ac esbonio pam
-
ysgrifennu atoch chi gyda'r canlyniad unwaith y bydd ein hadolygiad wedi'i gwblhau
Ein nod yw ymdrin â chwynion mewn ffordd deg, dryloyw ac amserol, ac esbonio ein penderfyniadau'n glir.
O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025, anogir unigolion i godi pryderon diogelu data gyda'r sefydliad yn gyntaf. Mae hyn yn adlewyrchu'r gofyniad i sefydliadau gael proses glir a hygyrch ar gyfer ymdrin â chwynion diogelu data, gyda'r nod o ddatrys materion yn deg ac yn brydlon. Os ydych chi'n dal i fod yn anfodlon ar ôl i ni ymateb, gallwch chi barhau i godi eich pryder gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), a fydd fel arfer yn disgwyl i chi fod wedi cysylltu â ni yn gyntaf.
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus ar ôl i ni ymateb, gallwch chi godi eich pryder gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
-
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/
-
E-bost: wales@ico.org.uk
-
Ffôn: 0303 123 1113
-
Cyfeiriad: 17 Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH
Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu gwestiynau, anfonwch e-bost at llywodraethugwybodaeth@cymwysterau.cymru
Cwyno am gorff dyfarnu
Cwynion am ganlyniadau arholiadau
Gallwch chi herio canlyniad arholiad neu gymhwyster os ydych chi’n credu ei fod yn anghywir.
Cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch cymeradwy a Thystysgrifau Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru
Os ydych chi’n credu bod gwall yn parhau i fod ar ôl i adolygiad canolfan gael ei gwblhau, gofynnwch i'ch ysgol neu goleg gysylltu â CBAC i gyflwyno apêl yn erbyn eich canlyniad(au). Dylai ymgeiswyr preifat gysylltu â'r ganolfan a wnaeth eu cofrestru ar gyfer y cymhwyster.
Dim ond hyn a hyn o amser sydd gennych chi i herio canlyniadau, felly mae’n bwysig gweithredu’n gyflym. Holwch CBAC i gael gwybod beth yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno apêl.
Os yw eich canlyniad yn effeithio ar eich lle yn y brifysgol, mae'n bwysig gwneud hyn yn glir i CBAC, fel bod modd delio â'r apêl yn gyflym.
Pob cymhwyster arall
Dylech chi gysylltu'n uniongyrchol â'r corff dyfarnu i herio'r canlyniad.
Os yw eich canlyniad yn effeithio ar eich lle yn y brifysgol, dylech chi wneud hyn yn glir fel bod modd delio â'ch apêl yn gyflym.
Os ydych chi’n credu nad yw'r corff dyfarnu wedi dilyn y weithdrefn apelio yn gyson, yn deg ac yn briodol, gallwch chi gwyno i Cymwysterau Cymru. Byddwn ni’n ystyried a yw'r corff dyfarnu wedi dilyn y weithdrefn gywir, ond ni allwn newid eich canlyniad.
Os ydych chi’n astudio cymhwyster TGAU, UG neu Safon Uwch a gaiff ei gynnig gan AQA, Eduqas, Pearson neu OCR, gallwch chi gyflwyno cais i broses EPRS Ofqual sydd ar gael ar eu gwefan.
Cwynion am rywbeth arall
Ar gyfer cwynion am y gwasanaeth rydych chi wedi ei dderbyn gan gorff dyfarnu, y penderfyniadau maen nhw wedi eu gwneud, neu unrhyw beth arall. Dylech gwyno i'r corff dyfarnu yn gyntaf a rhoi cyfle iddyn nhw gywiro pethau.
Dim ond cwynion sydd wedi bod drwy broses gwyno’r corff dyfarnu ei hun y gallwn ni ymchwilio iddyn nhw, oni bai bod ‘amgylchiadau eithriadol’.
Os gwnaethoch chi geisio cwyno i’r corff dyfarnu, ond ei fod yn gwrthod ystyried eich cwyn neu na fydd yn ei symud ymlaen i gam nesaf y weithdrefn gwyno, gallai hyn gyfrif fel ‘amgylchiadau eithriadol’.
Enghraifft arall fyddai gwrthdaro buddiannau sy’n bwrw amheuaeth ar allu’r corff dyfarnu i ymchwilio’n briodol.
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau pellach ar gyflwyno cwyn i'r corff dyfarnu yma.
Cyflwyno cwyn am gorff dyfarnu
Gallwn ni dderbyn cwynion am sut mae cymwysterau’n cael eu dylunio, eu hasesu, eu dyfarnu a’u hardystio, ac am fethiant corff dyfarnu i gydymffurfio â’n gofynion rheoleiddio.
Rhaid i’r gŵyn hefyd fod yn ymwneud â chymhwyster sy’n cael ei asesu yng Nghymru, neu sy’n cael ei asesu yn rhywle arall ond gallai’r materion effeithio ar ddysgwyr yng Nghymru.
Fyddwn ni ddim yn gallu delio â'ch cwyn os:
- ydych chi’n cwyno am rywbeth ddigwyddodd dros 12 mis yn ôl
- ydyn ni eisoes wedi delio â chwyn am y mater
- oes achos cyfreithiol parhaus yn ymwneud â'ch cwyn.
I wneud cwyn, llenwch ein ffurflen gwyno isod a’i e-bostio i: adrodd@cymwysterau.cymru.
Mae ein ‘Polisi Cwynion am Gyrff Dyfarnu’ yn dweud mwy wrthych chi am sut y byddwn ni’n ystyried eich cwyn.
Os nad yw'r corff dyfarnu yn cael ei reoleiddio gan Cymwysterau Cymru
Edrychwch i weld a yw'r corff dyfarnu neu'r cymhwyster yn cael ei reoleiddio gan y rheoleiddwyr cymwysterau yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, neu'r Alban. Os felly, efallai y byddan nhw'n gallu eich helpu chi.
Os nad yw’r corff neu’r cymhwyster yn cael ei reoleiddio yn y DU, dylech godi eich pryderon gyda’ch darparwr hyfforddiant.
Datgeliadau chwythu'r chwiban
Os ydych chi’n gweithio i ysgol, coleg, canolfan hyfforddi neu gorff dyfarnu, efallai y byddwch chi’n dod ar draws camwedd mewn perthynas â chymwysterau ac asesiadau. Rydyn ni’n eich annog yn gryf i ddweud wrth rywun am eich pryderon.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn siarad gyda'u cyflogwr yn gyntaf, ond nid pawb sy'n teimlo eu bod yn gallu gwneud hyn.
Os ydych chi’n gweithio i ysgol, coleg neu ganolfan hyfforddi
Os nad ydych chi am godi pryderon gyda'ch cyflogwr, dylech ddweud wrth y corff dyfarnu sy'n cynnig y cymhwyster. Dylai'r corff dyfarnu ymchwilio i unrhyw faterion a allai effeithio ar ddysgwyr, safonau neu hyder y cyhoedd yng Nghymru, a dweud wrthym ni amdanyn nhw.
Os ydych chi’n gweithio i gorff dyfarnu
Rydyn ni’n eich annog i ddweud wrthym os oes gennych chi bryderon am gorff dyfarnu - gallwn ni ystyried datgeliadau am y canlynol:
- y gwaith o ddylunio, asesu, dyfarnu neu ardystio cymwysterau rheoleiddiedig
- methiant corff dyfarnu i gydymffurfio â'n gofynion, gan gynnwys camymddwyn, camweinyddu, gwrthdaro buddiannau a rhoi gwybod am ddigwyddiadau
Ni allwn ystyried datgeliadau am y canlynol:
- cymwysterau nad ydyn nhw’n cael eu hasesu yng Nghymru na materion nad ydyn nhw’n effeithio ar ddysgwyr yng Nghymru
- pethau a ddigwyddodd fwy na 12 mis yn ôl
I wneud datgeliad Chwythu'r Chwiban i Cymwysterau Cymru, llenwch y ffurflen datgeliad Chwythu'r Chwiban, a'i hanfon at adrodd@cymwysterau.cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y byddwn yn ymdrin â’ch datgeliad chwythu’r chwiban ar gael yn ein Polisi Rheoleiddiol ar Chwythu’r Chwiban.
Cysylltu
Os oes gennych ymholiad am unrhyw ran o'n proses gwyno, cysylltwch â'r Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol ar 01633 373296 neu drwy'r cyfeiriad e-bost uchod.