Cyflwyniad
Mae Cymru’n genedl ddwyieithog a chanddi uchelgais gref i gynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg.
I gefnogi hyn, ac i sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru'n gallu dilyn cymwysterau yn eu dewis iaith, rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu ystod ac argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Dewis i Bawb
Gyda thwf addysg cyfrwng Cymraeg, rhagwelir y bydd nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg yn cynyddu i 70% erbyn 2050.
Mae ein strategaeth Dewis i Bawb yn nodi’n glir ein hymrwymiad i’r Gymraeg a’n nod i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Mae hefyd yn pwysleisio ein bwriad i weithio gyda chyrff dyfarnu a phartneriaid eraill er mwyn cyfrannu tuag at flaenoriaethau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.
Mae Dewis i Bawb yn nodi pedwar maes ffocws strategol:
- blaenoriaethu cymwysterau sydd ar gael yn Gymraeg mewn addysg amser llawn, lleoliadau ôl-16 a phrentisiaethau
- cryfhau'r gefnogaeth i gyrff dyfarnu a'u gallu i ddarparu cymwysterau cyfrwng Cymraeg
- adolygu ein grant Cymorth i’r Gymraeg er mwyn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth, cymwysterau newydd a cheisiadau arloesol
- gwella gwybodaeth a data ar gyfer dysgwyr, ysgolion a cholegau, ac at ein dibenion rheoleiddio.
Gofynion rheoleiddio
Mae Amod D9 o'n Hamodau Cydnabod Safonol yn amlinellu ein Hamodau a'n gofynion ar gyfer cyrff dyfarnu cydnabyddedig ynghylch cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Yn benodol:
- rhaid i gorff dyfarnu sicrhau bod cymwysterau Cymeradwy ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- rhaid i gorff dyfarnu sicrhau bod cymwysterau Dynodedig i ddysgwyr cyn-16 fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â'n Polisi Dynodi, o fis Medi 2027 (neu unrhyw ddyddiad a gaiff ei osod gennym ni)
- mae'n ofynnol i bob corff dyfarnu gyhoeddi datganiad polisi sy'n nodi i ba raddau maen nhw’n sicrhau bod cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- pan fo corff dyfarnu yn sicrhau bod cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iddo hyrwyddo argaeledd y cymwysterau hynny a hwyluso mynediad atyn nhw
Er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth â’r gofynion rheoleiddio hyn, rydyn ni wedi cyhoeddi Canllawiau i gyrff dyfarnu ar Amod D9: cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Y Cynnig Cymraeg - Cynnig Gweithredol
Yn rhan o'n gwaith o gryfhau'r cymorth i gyrff dyfarnu a gwella'r wybodaeth sydd ar gael i ddysgwyr, ysgolion, a cholegau am argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg, rydyn ni wedi cynhyrchu pecyn adnoddau rhyngweithiol i gefnogi'r holl gyrff dyfarnu i ddarparu’r Cynnig Cymraeg - y Cynnig Gweithredol, mewn modd rhagweithiol.
Mae'r pecyn yn annog cyrff dyfarnu i ddarparu gwybodaeth benodol i ddysgwyr am gymwysterau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac i hyrwyddo a hysbysebu cymwysterau Cymraeg neu ddwyieithog i ddysgwyr Cymru.
Cymwysterau cyfrwng Cymraeg sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus
Mae cyrff dyfarnu wedi bod yn gweithio gyda ni i gadarnhau’r canlynol:
- y cymwysterau maen nhw’n eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg
- y cymwysterau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg sydd yn dod i ben a, lle bo hynny'n berthnasol, y cymwysterau fydd yn eu disodli
- cymwysterau newydd sy'n cael eu datblygu ac a fydd ar gael i ddysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg yn fuan.
Rydyn ni wedi cysylltu â nifer o gyrff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau a gaiff eu hariannu’n gyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os nad ydyn ni wedi cysylltu â chi, neu os ydych chi am ddiweddaru'r wybodaeth a ddarparwyd gan eich sefydliad, cysylltwch â ni.
Chwilio cronfa ddata QiW.
Grantiau’n ymwneud â’r Gymraeg
Rydyn ni’n cynnig grantiau i gyrff dyfarnu i helpu i gynnal a chynyddu argaeledd darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Gall cyrff dyfarnu wneud cais i ni am gymorth ariannol i helpu gyda'r gost o fodloni'r galw am gymwysterau a gaiff eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydyn ni hefyd yn rhoi grant i CBAC er mwyn helpu i gyfieithu papurau asesu byw ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch.
Grwpiau cymorth a chynghori
Mae gennym ni Grŵp Cefnogi Cyrff Dyfarnu gyda’r Gymraeg lle rydyn ni’n trafod materion sy'n ymwneud â chymwysterau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog gyda chyrff dyfarnu.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno, cysylltwch â grwpcymorthcymraeg@cymwysterau.cymru.
Weithiau, mae cyrff dyfarnu yn ei chael hi’n anodd recriwtio personél asesu sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os oes diddordeb gennych chi mewn dod yn aseswr neu'n gymedrolwr/dilyswr allanol cyfrwng Cymraeg, cysylltwch â'r corff dyfarnu perthnasol neu cysylltwch â ni ar yr e-bost uchod i drafod.