Cyflwyniad
Bob blwyddyn rydym yn darparu grantiau i gefnogi'r argaeledd o gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym hefyd yn darparu grantiau bach i gefnogi elfennau o'n gwaith diwygio.
Polisi Grantiau
Mae ein Polisi Grantiau yn gosod yr egwyddorion rydym yn eu dilyn wrth ystyried y grant ar gael.
Y grantiau sydd ar gael
- Y Grant Cymorth i’r Gymraeg – Pwrpas y cyllid grant hwn yw cefnogi pob corff dyfarnu cydnabyddedig wrth iddynt alluogi dysgwyr i gwblhau cymwysterau rheoleiddiedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Y Grant Cymorth ar gyfer Diwygio Cymwysterau – Pwrpas y cyllid grant hwn yw cefnogi cyflwyno cymwysterau newydd a newid o fewn y system gymwysterau.
- Grant Cymraeg i Oedolion – Pwrpas y cyllid grant hwn yw cefnogi darparu arholiadau Cymraeg i Oedolion.
Gwahoddir cyrff dyfarnu i gyflwyno cynnig ffurfiol ar gyfer un o’r grantiau uchod. Bydd Cymwysterau Cymru’n darparu grant yn amodol ar fodloni’r meini prawf a osodir.
Y Grant Cymorth i’r Gymraeg
Bydd ffenestr ymgeisio 2024/25 yn agor ar 11 Ionawr 2024 ac yn cau am hanner nos 29 February 2024. Mae modd dod o hyd i’r Canllawiau Ymgeisio, y Ffurflen Gais, a’r daenlen Gwybodaeth Atodol isod:
Nodwch: Er ein bod yn annog ymgeiswyr i ystyried a ydynt yn gallu cwblhau'r holl weithgareddau y gwnaed cais amdanynt o fewn blwyddyn ariannol 2024/25, byddwn yn ystyried ceisiadau am raglenni gwaith tymor canolig a thymor hwy a allai gynnwys datblygiadau cynyddrannol sy'n mynd y tu hwnt i gylch blwyddyn ariannol.
Rydym yn cadw'r hawl i dderbyn ceisiadau y tu allan i'r ffenestr ymgeisio, fodd bynnag bydd hyn yn amodol ar argaeledd cyllid felly rydym yn argymell bod ceisiadau'n cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau.
Blaenoriaethau strategol
Ar gyfer 2024/25, ein Blaenoriaeth Gyffredinol ar gyfer y Grant Cymorth i’r Gymraeg yw cefnogi cymwysterau a gynlluniwyd:
- i'w defnyddio gan ddysgwyr 14-19 oed ar raglenni dysgu llawn amser sydd wedi’u hariannu a/neu
- i'w defnyddio ar brentisiaethau a ariennir yn gyhoeddus.
Rydym yn rhagweld defnyddio'r rhan fwyaf o'n cyllid sydd ar gael ar gyfer cymwysterau sy'n dod o fewn y flaenoriaeth gyffredinol hon, fodd bynnag, croesewir ceisiadau am gymwysterau nad ydynt yn dod o fewn y flaenoriaeth hon. Byddwn ni hefyd yn blaenoriaethu cymwysterau lle y mae galw a/neu angen amdanynt wedi’i nodi.
Yn ein barn ni, mae'n well sicrhau bod cymwysterau ar gael i ddysgwyr yn y Gymraeg a'r Saesneg o'r adeg y maen nhw’n cael eu haddysgu gyntaf. Mae'r dull hwn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd canolfannau yng Nghymru yn cael eu hannog i fabwysiadu cymwysterau newydd ac i roi cynnig gweithredol a chyfartal i ddysgwyr o'r cychwyn cyntaf.
Nodweddion is-flaenoriaeth
O fewn ein Blaenoriaeth Gyffredinol, byddwn yn rhoi blaenoriaeth ychwanegol i geisiadau sy’n bodloni un neu ragor o’r nodweddion canlynol:
- Cymwysterau newydd sydd wedi’u cynllunio i'w haddysgu gyntaf o fis Medi 2024 neu 2025 (gall y rhain ddisodli'r cymwysterau presennol neu beidio).
- Cymwysterau sydd wedi cael eu diweddaru neu eu hadolygu'n ddiweddar.
- Cymwysterau lle y mae angen a/neu alw amdanynt wedi’i nodi gan randdeiliaid allweddol megis darparwyr dysgu, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a Llywodraeth Cymru.
- Cymwysterau sydd wedi’u nodi’n flaenoriaeth drwy weithgareddau Cymwysterau Cymru, megis Adolygiadau Sector, y Grwpiau Cymwysterau Sector, a gwaith mapio cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
- Gweithgareddau i gefnogi asesu dysgwyr sydd wrthi’n cwblhau cymhwyster trwy gyfrwng y Gymraeg. Er enghraifft, cefnogi gweithgareddau Sicrhau Ansawdd Allanol yn Gymraeg neu gyfieithu papurau arholiad i’r Gymraeg. Cefnogir gweithgareddau o’r fath dan amgylchiadau eithriadol yn unig.
Rhaid bod Dyddiad Dechrau hwyraf Dynodi/Cymeradwyo’r cymhwyster o leiaf dwy flynedd ar ôl dyddiad dyfarnu cyllid y grant, oni bai bod ymrwymiad clir gan y corff dyfarnu i estyn ac/neu ddisodli’r cymhwyster gyda chymhwyster dwyieithog newydd.
Os bydd gennych gwestiwn am y broses ymgeisio, cysylltwch â grantiau@cymwysterau.cymru
Gweminar ar y Grant Cymorth i’r Gymraeg 2024/25
Ar 15fed Ionawr 2024, cynhalion ni ein gweminar ar y Grant Cymorth i’r Gymraeg a fu’n amlinellu pwrpas y grant, sut y gall cyrff dyfarnu geisio cyllid, a’r newidiadau sydd wedi’u cyflwyno i’r broses ymgeisio ar gyfer cylch grant 2024/25.
Grantiau a Ddyfarnwyd 2024/2025
Cliciwch yma i lawrlwytho dogfen Cymwysterau’r Grant Cymorth i’r Gymraeg 2024-2025
Grantiau a Ddyfarnwyd 2024/5 |
||
Grant: Grant Cymorth i’r Gymraeg (cyfanswm y cyllid ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25): £200,487) |
||
Pwrpas y grant: Mae'r cyllid grant er mwyn cefnogi argaeledd cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg |
||
Derbynnydd |
Dyddiad y’i Dyfarnwyd |
Gwerth |
1st4Sport |
Ebrill -24 |
≤£4,458 |
Agored Cymru |
Ebrill -24 |
≤£30,679 |
AIM |
Ebrill -24 |
≤£3,560 |
City & Guilds |
Ebrill -24 |
≤£82,689 |
EAL |
Ebrill -24 |
≤£3,182 |
Focus Awards |
Ebrill -24 |
≤£29,823 |
Open Awards |
Ebrill -24 |
≤£6,742 |
YMCA |
Ebrill -24 |
≤£39,352 |
Grant: Grant Cymorth i’r Gymraeg (cyfanswm y cyllid ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25): £205,000) |
||
Pwrpas y grant: Mae'r cyllid grant yn cefnogi'r gwaith o ddarparu Cymwysterau Cyffredinol yn ddwyieithog |
||
Derbynnydd |
Dyddiad y’i Dyfarnwyd |
Gwerth |
CBAC |
Gorffennaf-24 |
≤£205,000 |
Grant: Grant Cymraeg i Oedolion (cyfanswm y cyllid ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25): £200,487) |
||
Pwrpas y grant: Mae'r cyllid grant yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno arholiadau Cymraeg i Oedolion |
||
Derbynnydd |
Dyddiad y’i Dyfarnwyd |
Gwerth |
CBAC |
Gorffennaf-24 |
≤£200,000 |