Cyflwyniad

Wrth ein gwaith, byddwn yn aml yn dibynnu ar gymorth gan arbenigwyr pwnc er mwyn:

  • adolygu cymwysterau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'n gofynion
  • sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol wrth ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru
  • hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru

Rydym yn defnyddio arbenigwyr megis ymarferwyr profiadol, arholwyr, academyddion, a gweithwyr proffesiynol o faes asesu ac o ddiwydiannau galwedigaethol.

Gwaith a Chyfrifoldebau

Mae gan yr arbenigwyr rydyn ni’n eu defnyddio wybodaeth a phrofiad helaeth o addysg ac asesu, ac o sut mae cymwysterau'n cael eu haddysgu a'u hasesu. Gall hyn gynnwys gweithio mewn lleoliadau sy’n cynnig cymwysterau cyffredinol a rhai galwedigaethol.

Bydd arbenigwr pwnc, yng nghyd-destun y gwaith cymeradwyo ar gyfer y Cymwysterau 14–16 Cenedlaethol, yn gwneud gwaith adolygydd cymwysterau. Mae adolygydd cymwysterau yn weithiwr proffesiynol sy'n gwerthuso cymwysterau addysgol er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni safonau penodol a’u bod yn addas i'r diben. 

Wrth ddyrannu gwaith i arbenigwyr pwnc, rydyn ni’n ystyried:

  • y maes arbenigedd sydd ei angen
  • gwrthdaro buddiannau posibl
  • a yw'r arbenigwr wedi rhoi cyngor ynghylch y mater o’r blaen
  • argaeledd i gwblhau'r gwaith

Gallai'r gwaith:

  • amrywio o fod yn ychydig ddyddiau o waith i fod yn gyfnodau hirach sy'n cwmpasu cyfres arholiadau
  • cynnwys gweithio mewn timau neu gyflawni tasgau yn annibynnol
  • cael ei gynnal o bell neu gall fod angen mynd i swyddfeydd Cymwysterau Cymru

Bydd natur y gwaith yn dibynnu ar y gofynion penodol a nodir yn y Datganiad Gwaith.

Cyflog a buddion

Caiff arbenigwyr dan gontract eu talu ar gyfradd ddyddiol o naill ai £300 neu £400 gan gynnwys TAW, yn dibynnu ar natur y gweithgaredd. Mae'r cyfraddau hyn wedi'u gosod yn dilyn gwaith meincnodi helaeth ac rydyn ni’n monitro cyfraddau'r farchnad yn gyson.

Rydyn ni’n dyfarnu contractau am gyfnod o hyd at dair blynedd, gyda'r opsiwn i ymestyn am hyd at 12 mis arall. Mae'r contractau'n ein galluogi i ofyn i’r arbenigwr wneud gwaith pellach ar draws y sefydliad yn dibynnu ar eu set sgiliau. Nid ydym yn ymrwymo i gynnig gwaith pellach i arbenigwr o dan eu contract.

Nid yw ein harbenigwyr yn cael eu hystyried yn gyflogeion ond maen nhw’n gontractwyr annibynnol.

Rydyn ni’n hysbysebu cyfleoedd i arbenigwyr pwnc ar www.gwerthwchigymru.llyw.cymru, llwyfan contractio Llywodraeth Cymru, ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Sut i wneud cais

I wneud cais, byddwch chi angen:

  • cofrestru fel cyflenwr ar GwerthwchiGymru
  • lawrlwytho’r templed ymateb
  • nodi’ch profiad a'ch meini prawf yn y templed
  • llwytho eich templed a'ch CV gorffenedig cyn y dyddiad cau

Efallai y byddwn yn cynnal cyfweliadau ffôn fel rhan o'n hasesiad. Byddwch yn derbyn ein penderfyniad yn ysgrifenedig, gan gynnwys adborth os na fuoch chi’n llwyddiannus. Mae pob contract yn ddarostyngedig i'n telerau ac amodau ar gyfer gwasanaethau gan arbenigwyr pwnc.

Sut i gofrestru fel cyflenwr

Cewch gofrestru’n rhad ac am ddim, a dyw ond yn cymryd rhai munudau. Gallwch wneud cais naill ai fel unigolyn neu drwy eich sefydliad, heb unrhyw rwymedigaeth i wneud cais am gontractau.

Ar ôl cofrestru, cewch hysbysiadau am gyfleoedd Cymwysterau Cymru ac am gontractau perthnasol eraill.

I wneud y gorau o'r hysbysiadau hyn, dewiswch gategorïau cynnyrch a’r ardaloedd lle hoffech weithio wrth greu eich proffil. Bydd hyn yn sicrhau mai dim ond cyfleoedd sy'n gweddu i’ch arbenigedd a'ch lleoliad y byddwch chi yn eu gweld.

Mae canllawiau llawn ar gael yma:

Beth yw Blwch Postio GwerthwchiGymru?

Cyflenwr Newydd – Cofrestru eich cyfrif gydag SOC

Fy Mhroffil (Proffil Cyhoeddus)

Canllaw trosolwg GwerthwchiGymru 2021

Chwilio am Dendrau

Sylwch, nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fod â Rhif Dun & Bradstreet i wneud cais am y swydd hon. I gofrestru fel cyflenwr heb rif DUNs, gadewch y maes hwn yn wag ac yna cliciwch "chwilio". Bydd blwch ticio yn ymddangos sy'n eich galluogi i osgoi'r gofyniad hwn a chofrestru fel cyflenwr. 

Am ganllaw manwl, ewch i: Help a Chefnogaeth ar y Wefan – GwerthwchiGymru (llyw.cymru).

Gweithio fel arbenigwr pwnc

Byddwn yn asesu ac yn sgorio eich gwaith yn seiliedig ar:

  • allu asesu ac arbenigedd pwnc lle bo angen
  • ansawdd adroddiadau ysgrifenedig
  • ymddygiad proffesiynol
  • cyfathrebu a phrydlondeb

Fel arfer, mae Contractau a Chontractau Gwaith Ychwanegol yn para tair blynedd gyda diwrnodau gwaith penodol. Efallai y bydd gwaith ychwanegol yn cael ei gynnig ond gellir ei wrthod heb unrhyw gosb. Mae pob aseiniad yn cynnwys Datganiad Gwaith sy'n rhoi manylion y gofynion, y llinell amser, a’r gyfradd.

Tâl

Rhaid i chi roi eich manylion cyswllt a’ch manylion banc ar y ffurflen gyflenwr er mwyn i daliadau gael eu prosesu.

Canllawiau ar gyfer talu arbenigwyr pwnc cyffredinol:

  • derbyn rhif PO ar gyfer pob aseiniad
  • dyfynnu PO ar yr anfoneb ac atodi derbynebau ar gyfer eich costau
  • rydych yn gyfrifol am eich trefniadau treth eu hunain

Canllawiau talu ar gyfer arbenigwyr pwnc sy'n ymarferwyr:

  • dim ond am waith a wneir y tu allan i oriau ysgol y telir ffioedd ymgynghori
  • telir am waith yn ystod oriau ysgol gan ddefnyddio ffi rhyddhau athrawon o £189
  • mae dewis i gael eich talu trwy gyflogres yr ysgol
  • rhaid cytuno ar ymrwymiadau amser gyda'r cyflogwr 

Gwybodaeth gyfreithiol

Rydyn ni’n cyhoeddi manylion contractau ar ein gwefan ac yn rhannu gwybodaeth am daliadau gyda'n system gyllid. Edrychwch ar ein hysbysiad preifatrwydd yma: Polisi Preifatrwydd | Cymwysterau Cymru

E-bostiwch caffael@cymwysterau.cymru gydag unrhyw ymholiadau am gontractau.