Wrth gyflawni ein gwaith, rydyn ni’n dibynnu'n rheolaidd ar gymorth arbenigwyr pwnc allanol i gefnogi ein gwaith diwygio, cymeradwyo a monitro. Mae hyn yn ein helpu i wneud y canlynol:

  • sicrhau bod cymwysterau yn cydymffurfio â'n gofynion;
  • sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru; 
  • hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru. 

Rydyn ni’n defnyddio arbenigwyr fel:

  • Athrawon/tiwtoriaid profiadol
  • Arholwyr/ Personél sicrhau ansawdd
  • Academyddion
  • Gweithwyr proffesiynol ym maes asesu
  • Gweithwyr proffesiynol o'r diwydiannau galwedigaethol

Mae gan yr arbenigwyr rydyn ni’n eu defnyddio wybodaeth a phrofiad helaeth o addysg ac asesu ac o sut mae cymwysterau'n cael eu haddysgu a'u hasesu.        

Rydyn ni’n defnyddio arbenigwyr ar gyfer gwaith sy'n ymwneud â chymwysterau cyffredinol a chymwysterau galwedigaethol.

Os oes gennych chi’r sgiliau, y wybodaeth a'r profiad gofynnol a dealltwriaeth o'r Cwricwlwm i Gymru, a'ch bod yn cael eich dewis i gael eich cynnwys ar ein rhestr, byddwn yn dyrannu gwaith unwaith y byddwn wedi ystyried:

  • y maes arbenigedd sydd ei angen.
  • gwrthdaro buddiannau posibl.
  • a yw'r arbenigwr wedi rhoi cyngor o'r blaen mewn perthynas â'r mater.
  • argaeledd i gwblhau'r gwaith.

Mae'r gwaith yn amrywio o ychydig ddyddiau yn adolygu deunydd ac yn mynychu cyfarfodydd i sawl cyfnod yn cwmpasu cyfres arholiadau. Mae peth o’r gwaith mewn grwpiau a pheth yn waith unigol.

Caiff arbenigwyr dan gontract eu talu ar gyfradd ddyddiol o naill ai £300 neu £400 gan gynnwys TAW, yn dibynnu ar natur y gweithgaredd. Mae'r cyfraddau hyn wedi'u gosod yn dilyn gwaith meincnodi helaeth ac rydyn ni’n monitro cyfraddau'r farchnad yn gyson.

Rydyn ni’n dyfarnu contractau am gyfnod o dair blynedd gyda'r opsiwn i ymestyn am hyd at 12 mis arall. Mae'r contractau'n ein galluogi i ofyn i’r arbenigwr wneud gwaith pellach ar draws y sefydliad yn dibynnu ar eu set sgiliau. Nid ydym yn ymrwymo i gynnig gwaith pellach i arbenigwr o dan eu contract.

Nid yw ein harbenigwyr pwnc yn cael eu hystyried yn gyflogeion ond maen nhw’n gontractwyr annibynnol.

Pan fyddwn ni angen arbenigwyr pwnc, byddwn ni’n hysbysebu ar www.gwerthwchigymru.llyw.cymru ac ar y dudalen Newyddion ar ein gwefan.

Cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am newyddion am ba bynciau y gallen ni fod angen cymorth arbenigwyr arnyn nhw nesaf:

https://www.instagram.com/qualswales/

https://www.linkedin.com/company/qualifications-wales

https://www.facebook.com/qualswalescymcymru

Cymwysterau Cymru (@cymwysterau_cym) / X (twitter.com)

@cymwysterau_cym

Bydd angen i chi gofrestru fel 'cyflenwr' ar GwerthwchiGymru i wneud cais - gweler yr adran isod ar sut i gofrestru.

Gallwch wneud cais drwy lawrlwytho'r templed ymateb oddi ar GwerthwchiGymru a'i gwblhau gyda'r meini prawf/profiad gofynnol a gaiff ei nodi yn y cais. Dylech gwblhau hyn a'i lanlwytho ynghyd â'ch CV i GwerthwchiGymru erbyn y dyddiad cau a roddir. Weithiau, efallai y byddwn ni’n cynnal cyfweliad dros y ffôn yn ogystal â’n gwerthusiad o'ch cais ysgrifenedig.

Byddwch yn cael gwybod a ydych yn llwyddiannus ai peidio. Byddwn yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich cais os nad ydych yn llwyddiannus. Bydd contractau a gaiff eu dyfarnu’n gorfod bodloni telerau ac amodau'r contract ar gyfer gwasanaethau arbenigwyr pwnc.

Terms and Conditions

Cyfarwyddiadau ar sut i gofrestru fel cyflenwr

Mae cofrestru am ddim, dim ond yn cymryd ychydig funudau ac nid yw'n eich ymrwymo i wneud cais am gontract.  Bydd cofrestru hefyd yn eich galluogi i dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd yn y dyfodol gyda Cymwysterau Cymru.

Gallwch ymateb fel unigolyn neu drwy sefydliad rydych yn gweithio iddo.

Mae'r wefan yn cynnwys llawer o ganllawiau defnyddwyr i'ch helpu i gofrestru ac ymateb.

Cymorth a Chefnogaeth ar y Wefan - GwerthwchiGymru (llyw.cymru)

Canllawiau i’r sawl sy’n defnyddio’r wefan sy'n rhoi trosolwg o'r swyddogaeth a'r prosesau penodol a ddefnyddir ar borth GwerthwchiGymru, mae'r canllawiau hyn yn cynnwys Blwch Postio, cofrestru a mwy:

- Beth yw Blwch Postio GwerthwchiGymru?

- Cyflenwr Newydd - Cofrestru eich cyfrif gydag SOC

- Fy Mhroffil (Proffil Cyhoeddus)

- Canllaw trosolwg GwerthwchiGymru 2021

- Chwilio am Dendrau

Os byddwch chi’n cwblhau eich proffil, bydd hyn yn eich galluogi i dderbyn rhybuddion a hysbysiadau e-bost ar gyfer cyfleoedd contract sy'n berthnasol i chi a/neu'ch busnes gan sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o GwerthwchiGymru.

Bydd rhan gyntaf y proffil rhybuddion yn gofyn i chi nodi categorïau cynnyrch sy'n berthnasol i chi. Bydd hyn yn culhau cyfleoedd contract sy'n cael eu dangos, gan ddangos contractau sy'n berthnasol i chi yn unig.

Bydd yr ail adran yn gofyn i chi am leoliadau daearyddol; bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i hidlo cyfleoedd contract yn ôl ardal ddaearyddol, gan ddangos contractau lle rydych chi'n barod i weithio yn unig.

Sylwch, nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fod â Rhif Dun & Bradstreet i wneud cais am y rôl hon. I gofrestru fel cyflenwr heb rif DUNs, gadewch y maes hwn yn wag ac yna cliciwch "chwilio". Bydd blwch ticio yn ymddangos sy'n eich galluogi i’w dicio ac i osgoi'r gofyniad hwn a chofrestru fel cyflenwr.  

Canllawiau ymateb

Wrth ymateb i'n hysbysebion ar gyfer arbenigwyr pwnc newydd, dilynwch y cyfarwyddiadau a ddarperir a chynnwys tystiolaeth o'ch sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad yn erbyn y meini prawf gofynnol. Byddwn bob amser yn darparu templed i chi ddarparu eich ymateb.

Os nad ydych yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig.

Rheoli Perfformiad

Byddwn yn adolygu'r gwaith rydych yn ei gwblhau i ni ac yn darparu sgôr perfformiad, y byddwn yn ei rhannu â chi. Bydd y sgôr yn cael ei hystyried pan fydd gennym waith ychwanegol ac mae angen i ni ddewis o'n cronfa o arbenigwyr pwnc.

Mae gennym gyfres safonol o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer ein harbenigwyr pwnc:

  • Y gallu i gymhwyso arbenigedd a gwybodaeth pwnc ar lefel briodol.
  • Y gallu i lunio adroddiadau manwl, cywir a gwrthrychol gan gyfeirio at y ddogfennaeth angenrheidiol.
  • Proffesiynoldeb mewn cyfarfodydd (presenoldeb yn unol â’r contract, prydlondeb ac ymddygiad).
  • Cyflwyniadau a chyfathrebu effeithiol ac amserol gyda Cymwysterau Cymru.

Gwaith ychwanegol

Fel arfer, bydd eich contract am gyfnod o dair blynedd ac fel arfer cynigir nifer penodol o ddiwrnodau i chi gwblhau darn o waith y dyfarnwyd contract i chi. Fodd bynnag, efallai y bydd eich sgiliau a'ch gwybodaeth hefyd yn berthnasol ar gyfer darnau eraill o waith tebyg, ac efallai y byddwn yn cynnig diwrnodau ychwanegol i chi.

Efallai y byddwch yn gwrthod y gwaith hwn ac ni fydd yn effeithio ar gyfleoedd yn y dyfodol.

Pan gynigir gwaith ychwanegol, nid yn unig y byddwn yn rhoi amlinelliad o ofynion ac amcanion i chi, ond hefyd nifer y diwrnodau, yr amserlen arfaethedig, y gyfradd ddyddiol a'r pwynt cyswllt. Bydd hyn yn cael ei gasglu mewn Datganiad Gwaith y bydd gofyn ei lofnodi a’i ddychwelyd. 

Taliad

Pan fyddwch yn derbyn gwaith, byddwch yn derbyn rhif archeb brynu (PO). 

Pan fyddwch yn ein hanfonebu am waith wedi'i gwblhau, rhaid i chi ddyfynnu rhif yr archeb brynu (yn arbennig o bwysig os ydych chi’n gweithio ar fwy nag un contract gyda ni) ac atodi derbynebau sy'n cwmpasu unrhyw deithio a chynhaliaeth rydyn ni wedi cytuno arnyn nhw i'r anfoneb. Sylwer mai chi sy’n gyfrifol am unrhyw dreth sy'n daladwy o ganlyniad i'r gwaith hwn. 

Dim ond os byddan nhw’n cwblhau'r tasgau y tu allan i oriau ysgol/coleg y gellir talu'r ffi ymgynghori i athrawon y dyfernir Contract iddyn nhw. 

Ar gyfer tasgau a gaiff eu cwblhau y tu allan i oriau addysgu gall yr arbenigwr hawlio'r ffi ymgynghori sy'n daladwy yn llawn a bydd yn gwbl gyfrifol am unrhyw Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy'n deillio o daliad a wneir am y Gwasanaethau o dan y contract.  

Efallai y bydd arbenigwyr yn cytuno â'u cyflogwr i gael yr holl daliadau drwy eu cyflogres er mwyn rheoli'r didyniadau. 

Pan fydd angen i’r arbenigwr fynychu hyfforddiant a/neu gyfarfodydd yn ystod oriau addysgu arferol, ni all hawlio’r ffi ymgynghori ond gall ei gyflogwr (ysgol/coleg/Awdurdod Lleol) gyflwyno anfoneb Rhyddhau Athrawon i Cymwysterau Cymru, sef cyfradd benodol o £189 i wneud iawn am unrhyw gostau cyflenwi.  

Bydd nifer y diwrnodau, os bydd angen eu cynnal yn ystod oriau addysgu ar gyfer pob darn o waith, yn amrywio. Cyn derbyn y gwaith, bydd angen i'r arbenigwr gytuno â'u cyflogwr y gallant ymrwymo i'r gwaith yn ystod oriau addysgu. Er enghraifft, ar gyfer gwaith cymeradwyo cymwysterau, bydd gofyn i'r arbenigwr fynychu diwrnod o hyfforddiant a chymryd rhan mewn tua thri chyfarfod panel o ddiwrnod yr un, yn dibynnu ar y cymhwyster, a gynhelir yn ystod oriau addysgu. 

Bydd angen i chi lenwi ffurflen cyflenwr newydd fel y gallwn dalu am eich gwaith ar ôl ei gwblhau. Bydd angen eich enw, manylion cyswllt a chyfeiriad a bydd angen cynnwys y cyfrif banc y dylem wneud taliad iddo. (h.y. p'un a ydym yn talu i mewn i'ch cyfrif banc personol, neu i ysgol neu gwmni cyfyngedig).

Cyhoeddusrwydd

Er mwyn bodloni gofynion caffael cyhoeddus a thryloywder taliadau, rydyn ni’n cyhoeddi rhestr o'n holl gontractau ar ein gwefan:

Tryloywder | Cymwysterau Cymru

Mae angen i ni hefyd rannu eich manylion yn ddiogel gyda chontractwr ein system gyllid.

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd: Polisi Preifatrwydd | Cymwysterau Cymru

Cysylltu

Os ydych chi'n arbenigwr pwnc gyda ni’n barod, byddwch yn cael cyfle i roi adborth i ni yn ystod unrhyw adolygiad perfformiad.

Gallwch gysylltu â ni yn Caffael@Cymwysterau.cymru  ar gyfer unrhyw ymholiadau cytundebol.