Cyflwyniad
Rydyn ni’n disgwyl gosod y safonau uchaf ym mhopeth a wnawn. Ein nod yw dysgu o'n camgymeriadau a defnyddio'r wybodaeth a gawn i wella ein prosesau.
Rhaid i chi ddod â'ch cwyn neu bryder i ni o fewn chwe mis i'r mater godi. Mae hyn er mwyn osgoi colli gwybodaeth a sicrhau eich bod chi’n gallu siarad â'r aelod perthnasol o staff.
Rydyn ni wedi gosod cyfyngiadau amser i ni'n hunain i ymdrin â chwynion ac rydyn ni’n disgwyl cyflawni'r rheini oni bai bod eich cwyn yn gymhleth ac yn gofyn am ragor o amser i gynnal ymchwiliad trylwyr.
Ein haddewid i chi yw y byddwn ni’n deg ac yn rhesymol wrth ddelio â chi. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar ac yn gwrtais gyda ni wrth i ni ymdrin â'ch cwyn.
Mae cael canlyniad da i bawb dan sylw yn bwysig i ni. Lle bo modd, rydyn ni'n hoffi ymdrin â phethau yn anffurfiol ac ar unwaith.
Datrys y mater yn anffurfiol
Os oes gennych chi bryderon, yna'r peth gorau i’w wneud yw rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ni geisio datrys pethau. Yn gyntaf dylech roi cyfle i ni ymateb i'ch ymholiad. Os nad ydych chi’n hapus â'n hymateb, byddwch yn gallu rhoi gwybod am eich pryder fel rydyn ni’n ei ddisgrifio isod.
Os yw'n bosib, rydyn ni'n credu ei bod hi’n well delio â phethau ar unwaith yn hytrach na cheisio eu datrys yn nes ymlaen. Os oes gennych chi bryder, codwch e’n gyntaf gyda'r person rydych chi'n delio â nhw. Byddan nhw’n ceisio ei ddatrys i chi ar unwaith.
Os oes unrhyw wersi i'w dysgu o ymdrin â'ch pryder, yna bydd yr aelod o staff yn tynnu ein sylw atyn nhw. Os nad yw’r aelod o staff yn gallu helpu, bydd yn esbonio pam, yn cyfeirio’r mater lle bo’n briodol ac os byddwch chi’n parhau i fod yn anfodlon â’r canlyniad, gallwch chi wedyn ofyn am ymchwiliad ffurfiol.
Ymchwiliad ffurfiol
Os ydych chi’n dymuno gwneud cwyn ffurfiol, gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi yn ein Polisi Cwynion Corfforaethol.
Nodwch nad yw'r polisi hwn yn cwmpasu'r canlynol, sy’n cael eu trin mewn ffordd wahanol:
- cwynion yn ymwneud â phenderfyniadau sydd wedi’u gwneud gan Cymwysterau Cymru yn ei rôl fel rheoleiddiwr - caiff hyn ei esbonio yn ein Polisi Apeliadau Rheoleiddiol
- cwynion yn ymwneud â phenderfyniad rydyn ni wedi'i wneud i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrth gorff dyfarnu - gweler ein Polisi Apeliadau Rheoleiddiol am ragor o wybodaeth
- cwynion am gyrff dyfarnu - os yw cwyn am un o'r cyrff dyfarnu a reoleiddir gennym ni wedi cael ei hystyried ganddyn nhw, ond nad yw wedi'i datrys, yna byddwn ni’n gallu ei hystyried, gweler isod
- cwynion am benderfyniad rydyn ni wedi’i wneud yn ymwneud â chynnig neu ddyfarnu contract - cysylltwch â’r Pennaeth Caffael ar caffael@cymwysterau.cymru
Os ydych chi’n credu na chafodd eich cwyn ei thrin yn ddigonol neu'n briodol, mae cyfleoedd eraill i fynd â'ch pryder ymhellach. Byddwn ni’n eich cynghori ynghylch hyn pan fyddwn yn ysgrifennu atoch gyda phenderfyniad ar eich cwyn ffurfiol.
Cwyno am gorff dyfarnu
Cwynion am ganlyniadau arholiadau
Gallwch chi herio canlyniad arholiad neu gymhwyster os ydych chi’n credu ei fod yn anghywir.
Cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch cymeradwy a Thystysgrifau Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru
Os ydych chi’n credu bod gwall yn parhau i fod ar ôl i adolygiad canolfan gael ei gwblhau, gofynnwch i'ch ysgol neu goleg gysylltu â CBAC i gyflwyno apêl yn erbyn eich canlyniad(au). Dylai ymgeiswyr preifat gysylltu â'r ganolfan a wnaeth eu cofrestru ar gyfer y cymhwyster.
Dim ond hyn a hyn o amser sydd gennych chi i herio canlyniadau, felly mae’n bwysig gweithredu’n gyflym. Holwch CBAC i gael gwybod beth yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno apêl.
Os yw eich canlyniad yn effeithio ar eich lle yn y brifysgol, mae'n bwysig gwneud hyn yn glir i CBAC, fel bod modd delio â'r apêl yn gyflym.
Os byddwch chi’n parhau i fod yn anfodlon yn dilyn apêl, gallwch ofyn i ni am Wasanaeth Adolygu Gweithdrefnau Arholi (EPRS) i adolygu a yw'r corff dyfarnu wedi cydymffurfio â'n gofynion a'u polisïau a'u gweithdrefnau eu hunain wrth ymdrin â'r apêl.
Ni fydd yr EPRS yn adolygu a yw ysgol neu goleg wedi cydymffurfio â'u polisïau a'u gweithdrefnau ei hunain na'r rhai a osodwyd gan CBAC er mwyn iddyn nhw eu dilyn – mae hyn yn digwydd yng Ngham 2 y broses apelio gan CBAC. Ni fydd yr EPRS ychwaith yn adolygu cywirdeb y penderfyniad graddio ac ni fydd yn newid unrhyw raddau.
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Adolygu Gweithdrefnau Arholi yma. Dylai ceisiadau EPRS gael eu cyflwyno ar y ffurflen hon.
Pob cymhwyster arall
Dylech chi gysylltu'n uniongyrchol â'r corff dyfarnu i herio'r canlyniad.
Os yw eich canlyniad yn effeithio ar eich lle yn y brifysgol, dylech chi wneud hyn yn glir fel bod modd delio â'ch apêl yn gyflym.
Os ydych chi’n credu nad yw'r corff dyfarnu wedi dilyn y weithdrefn apelio yn gyson, yn deg ac yn briodol, gallwch chi gwyno i Cymwysterau Cymru. Byddwn ni’n ystyried a yw'r corff dyfarnu wedi dilyn y weithdrefn gywir, ond ni allwn newid eich canlyniad.
Os ydych chi’n astudio cymhwyster TGAU, UG neu Safon Uwch a gaiff ei gynnig gan AQA, Eduqas, Pearson neu OCR, gallwch chi gyflwyno cais i broses EPRS Ofqual sydd ar gael ar eu gwefan.
Cwynion am rywbeth arall
Ar gyfer cwynion am y gwasanaeth rydych chi wedi ei dderbyn gan gorff dyfarnu, y penderfyniadau maen nhw wedi eu gwneud, neu unrhyw beth arall. Dylech gwyno i'r corff dyfarnu yn gyntaf a rhoi cyfle iddyn nhw gywiro pethau.
Dim ond cwynion sydd wedi bod drwy broses gwyno’r corff dyfarnu ei hun y gallwn ni ymchwilio iddyn nhw, oni bai bod ‘amgylchiadau eithriadol’.
Os gwnaethoch chi geisio cwyno i’r corff dyfarnu, ond ei fod yn gwrthod ystyried eich cwyn neu na fydd yn ei symud ymlaen i gam nesaf y weithdrefn gwyno, gallai hyn gyfrif fel ‘amgylchiadau eithriadol’.
Enghraifft arall fyddai gwrthdaro buddiannau sy’n bwrw amheuaeth ar allu’r corff dyfarnu i ymchwilio’n briodol.
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau pellach ar gyflwyno cwyn i'r corff dyfarnu yma.
Cyflwyno cwyn am gorff dyfarnu
Gallwn ni dderbyn cwynion am sut mae cymwysterau’n cael eu dylunio, eu hasesu, eu dyfarnu a’u hardystio, ac am fethiant corff dyfarnu i gydymffurfio â’n gofynion rheoleiddio.
Rhaid i’r gŵyn hefyd fod yn ymwneud â chymhwyster sy’n cael ei asesu yng Nghymru, neu sy’n cael ei asesu yn rhywle arall ond gallai’r materion effeithio ar ddysgwyr yng Nghymru.
Fyddwn ni ddim yn gallu delio â'ch cwyn os:
- ydych chi’n cwyno am rywbeth ddigwyddodd dros 12 mis yn ôl
- ydyn ni eisoes wedi delio â chwyn am y mater
- oes achos cyfreithiol parhaus yn ymwneud â'ch cwyn.
I wneud cwyn, llenwch ein ffurflen gwyno isod a’i e-bostio i: adrodd@cymwysterau.cymru.
Mae ein ‘Polisi Cwynion am Gyrff Dyfarnu’ yn dweud mwy wrthych chi am sut y byddwn ni’n ystyried eich cwyn.
Os nad yw'r corff dyfarnu yn cael ei reoleiddio gan Cymwysterau Cymru
Edrychwch i weld a yw'r corff dyfarnu neu'r cymhwyster yn cael ei reoleiddio gan y rheoleiddwyr cymwysterau yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, neu'r Alban. Os felly, efallai y byddan nhw'n gallu eich helpu chi.
Os nad yw’r corff neu’r cymhwyster yn cael ei reoleiddio yn y DU, dylech godi eich pryderon gyda’ch darparwr hyfforddiant.
Datgeliadau chwythu'r chwiban
Os ydych chi’n gweithio i ysgol, coleg, canolfan hyfforddi neu gorff dyfarnu, efallai y byddwch chi’n dod ar draws camwedd mewn perthynas â chymwysterau ac asesiadau. Rydyn ni’n eich annog yn gryf i ddweud wrth rywun am eich pryderon.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn siarad gyda'u cyflogwr yn gyntaf, ond nid pawb sy'n teimlo eu bod yn gallu gwneud hyn.
Os ydych chi’n gweithio i ysgol, coleg neu ganolfan hyfforddi
Os nad ydych chi am godi pryderon gyda'ch cyflogwr, dylech ddweud wrth y corff dyfarnu sy'n cynnig y cymhwyster. Dylai'r corff dyfarnu ymchwilio i unrhyw faterion a allai effeithio ar ddysgwyr, safonau neu hyder y cyhoedd yng Nghymru, a dweud wrthym ni amdanyn nhw.
Os ydych chi’n gweithio i gorff dyfarnu
Rydyn ni’n eich annog i ddweud wrthym os oes gennych chi bryderon am gorff dyfarnu - gallwn ni ystyried datgeliadau am y canlynol:
- y gwaith o ddylunio, asesu, dyfarnu neu ardystio cymwysterau rheoleiddiedig
- methiant corff dyfarnu i gydymffurfio â'n gofynion, gan gynnwys camymddwyn, camweinyddu, gwrthdaro buddiannau a rhoi gwybod am ddigwyddiadau.
Ni allwn ystyried datgeliadau am y canlynol:
- cymwysterau nad ydyn nhw’n cael eu hasesu yng Nghymru na materion nad ydyn nhw’n effeithio ar ddysgwyr yng Nghymru
- pethau a ddigwyddodd fwy na 12 mis yn ôl.
I wneud datgeliad Chwythu'r Chwiban i Cymwysterau Cymru, llenwch y ffurflen datgeliad Chwythu'r Chwiban, a'i hanfon at adrodd@cymwysterau.cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y byddwn yn ymdrin â’ch datgeliad chwythu’r chwiban ar gael yn ein Polisi Rheoleiddiol ar Chwythu’r Chwiban.
Datgeliadau chwythu’r chwiban am Cymwysterau Cymru
Fel gweision cyhoeddus, rydyn ni’n gosod y safonau uchaf i ni ein hunain ac ar gyfer y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu, nid yn unig o ran yr hyn rydyn ni’n ei wneud, ond hefyd sut rydyn ni’n ei wneud.
Mae disgwyl i ni weithio gydag uniondeb, gonestrwydd a gwrthrychedd, a bod yn ddiduedd ac yn foesegol. Os ydych chi’n amau nad yw'r safonau hyn yn cael eu bodloni, rydyn ni’n eich annog i ddweud wrthym ni am eich pryderon.
I wneud datgeliad chwythu’r chwiban am unrhyw unigolyn neu unigolyn sy’n gweithio i Cymwysterau Cymru, amlinellwch eich pryderon yn ysgrifenedig a’i e-bostio i llywodraethucorfforaethol@cymwysterau.cymru.
Cysylltu
Os oes gennych ymholiad am unrhyw ran o'n proses gwyno, cysylltwch â'r Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol ar 01633 373296 neu drwy'r cyfeiriad e-bost uchod.