Adroddiad Blynyddol 2023-2024

Gair gan Philip Blaker, ein Prif Weithredwr a David Jones, Cadeirydd ein Bwrdd.

                

Mae eleni wedi bod yn arwyddocaol i Cymwysterau Cymru mewn sawl ffordd. Mae wedi gweld dychwelyd i drefniadau asesu cyn y pandemig gyda chanlyniadau’n gyffredinol yn unol â lefelau cyn y pandemig. Dyma gam hynod bwysig, gan ddod â Chymru ar yr un lefel ag awdurdodaethau eraill y DU.

Roedd yna gerrig milltir mawr hefyd gyda sefydlu cyfres o Gymwysterau Cenedlaethol gwneud-i-Gymru ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed, a’n rhestriad o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Cwblhawyd yr holl gyfresi arholiadau ac asesiadau eraill a oruchwyliwyd gennym heb unrhyw  faterion sylweddol. 

Cafodd dychwelyd i ganlyniadau cenedlaethol cymwysterau cyffredinol cyn-bandemig dderbyniad cadarnhaol gan randdeiliaid. Rydym yn llongyfarch pob dysgwr ar eu cyflawniadau, a diolch i’r holl athrawon, darlithwyr, staff hyfforddi, rhieni a gofalwyr am eu cefnogi.

Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag ystod eang a chynyddol o bartneriaid allweddol a rhanddeiliaid eraill fel rhan o’n gweithgareddau rheoleiddio a diwygio. Diolchwn iddyn nhw am eu hymgysylltiad, eu mewnwelediadau a’u cydweithrediad. Rydym bellach wedi cynllunio cyfres o Gymwysterau Cenedlaethol a fydd n galluogi dysgwyr oed ysgol i ddilyn cymwysterau sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. 

Cyn bo hir, bydd dysgwyr, beth bynnag yw eu gallu, yn cael datblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ar draws ystod amrywiol o feysydd pwnc a sector, gan astudio ar gyfer cyfuniad o  naill ai cymwysterau TGAU, TAAU, Sylfaen neu Sgiliau. 

Trwy symleiddio’r system gymwysterau Cymreig, bydd y system yn moderneiddio cymwysterau gan alluogi ysgolion a sefydliadau addysg eraill i deilwra eu cynnig i ddiwallu anghenion eu dysgwyr. 

Bydd y Cymwysterau Cenedlaethol ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg ac yn cael eu cyflwyno i’w haddysgu gyntaf mewn tair ton. Mae set newydd o gymwysterau TGAU yn ffurfio’r ddwy don gyntaf, gan gyrraedd
ym mis Medi 2025 a mis Medi 2026. Bydd cymwysterau TAAU, Sylfaen a Sgiliau yn dod yn y don olaf, gyda’r addysgu cyntaf o fis Medi 2027.


Mae’r manylebau ar gyfer 17 TGAU wedi’u cyhoeddi gan CBAC ac mae rhaglen
o ddysgu proffesiynol a chyhoeddi adnoddau bellach ar y gweill.


Rydym yn croesawu cael ein rhestru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol — yn enwedig gan ein bod wedi gweithio yn ysbryd y Ddeddf ers blynyddoedd lawer.


Mae ein cynllun corfforaethol sydd newydd ei gyhoeddi yn integreiddio ein hamcanion llesiant, gan ddangos ein hymrwymiad i egwyddorion datblygu cynaliadwy a ffyrdd o weithio’r Ddeddf.


Yn 2025, mae’n debygol y byddwn yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg.
Rydym yn falch o’r datblygiad cadarnhaol yma, fydd yn ein galluogi i
adeiladu ar ein datblygiadau i gefnogi’r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf,
ac i gryfhau ein gwasanaethau Cymraeg a’n hunaniaeth Gymreig ymhellach.


Rydym yn cydnabod y pwysau ariannol y mae sector cyhoeddus y DU yn eu wynebu ac rydym wedi gwneud gwaith i leihau ein gwariant a dod o hyd i arbedion lle bo modd.


Rydym yn rhagweld y bydd y pwysau hyn yn parhau ac rydym wedi gwneud gwaith i edrych yn fanwl ar ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael i ni yn y ffordd orau.


Yn olaf, hoffem ddiolch i’n holl staff ac aelodau’r bwrdd am eu brwdfrydedd, eu
proffesiynoldeb, eu harbenigedd a’u gwaith caled i gyflawni’r cyflawniadau a amlinellir yn yr adroddiad hwn.