Cyflwyniad

Mae meithrin a chynnal hyder yn system gymwysterau Cymru yn ganolog i’n gwaith. Rydym hefyd yn arwain ar ddiwygio cymwysterau y mae dysgwyr oed ysgol a choleg yn eu sefyll, ac yn deall bod newid llwyddiannus yn gofyn i’r system gyfan ddod at ei gilydd i gydweithredu a chyfathrebu’n effeithiol. Mae sbarduno’r cydweithio hwnnw yn rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo’n llwyr iddo, gan gynnwys eraill fel y gallant chwarae eu rhan yn llwyddiannus yn y newidiadau yr ydym yn eu cychwyn.

Eleni, rydyn ni wedi cyflwyno ein cynllun corfforaethol, gyda’n hamcanion llesiant yn llywio ein gweledigaeth hirdymor. Mae ein datganiad llesiant yn egluro sut mae ein gwaith yn cefnogi pob un o’r nodau llesiant cenedlaethol, a sut rydyn ni wedi cymhwyso’r dulliau o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 Mae gennym hefyd gynllun treigl pum mlynedd sy’n nodi ein rhaglenni gwaith a’r camau rydyn ni’n bwriadu eu cymryd yn y tymor canolig.

Yn yr adroddiad hwn rydym hefyd yn myfyrio ar y ffordd y mae ein gwaith wedi ystyried effaith hirdymor dylanwadau allanol a thueddiadau cymdeithasol yn ogystal ag effaith y cymwysterau ar ddysgwyr yn ystod eu hoes.

Mae cynhwysiant yn ganolog i’n dull gweithredu ac mae ein cynllun cydraddoldeb yn dangos sut mae hynny wedi’i integreiddio i’n gwaith. Rydyn ni hefyd yn grwpio rhai o’n gweithredoedd gyda’i gilydd yn ein cynllun gweithredu gwrth-hiliol a’n cynllun lleihau carbon.

Er mai cyrff dyfarnu sy’n gyfrifol am gyflenwi eu cymwysterau, rydym yn gweithio’n agos gyda nhw ac yn darparu fframwaith rheoleiddio gyda’r bwriad o ddiogelu buddiannau dysgwyr.

Ein pigion ymgysylltu

Darllenwch ran nesaf yr adroddiad