Dros y 12 mis nesaf byddwn yn:

  • parhau â’n gwaith i gymeradwyo Cymwysterau Cenedlaethol newydd a goruchwylio’r gwaith o’u gweithredu

  • penderfynu ar y dull gorau o ran gosod a chynnal safonau’r Cymwysterau Cenedlaethol

  • gweithio gyda phartneriaid ar ddatblygu a gweithredu rhaglen effeithiol o reoli newid i gefnogi ysgolion i weithredu’r Cymwysterau Cenedlaethol

  • cyfathrebu ac ymgysylltu â dysgwyr, rhieni, colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, prifysgolion a chyflogwyr i feithrin ymwybyddiaeth o’r Cymwysterau Cenedlaethol a hyder ynddyn nhw

  • gweithio gyda CBAC i sicrhau bod cymwysterau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn parhau i adeiladu ar y cymwysterau TGAU gwneud-i-Gymru newydd

  • ymgysylltu’n helaeth â’r sector addysg ôl-16 a chyrff dyfarnu i nodi ystod o lwybrau i sicrhau ystod gynhwysfawr ac effeithiol o gymwysterau ôl-16

  • gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Medr, cyrff dyfarnu ac eraill i weithredu argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol yng Nghymru

  • parhau gyda’n gwaith o ddiwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru er mwyn sicrhau bod dull cydgysylltiedig a chadarn o asesu llythrennedd, rhifedd a sgiliau perthnasol eraill i ddiwallu anghenion dysgwyr

  • hyrwyddo dulliau modern ac arloesol o asesu

  • monitro gweithredu ein hamcanion llesiant a’n ffyrdd cynaliadwy o weithio

  • lansio strategaeth Gymraeg integredig newydd wrth i ni fabwysiadu safonau’r Gymraeg

  • ystyried sut y gallwn fod yn fwyaf effeithlon ac effeithiol o ystyried y cyfyngiadau tebygol ar gyllid y sector cyhoeddus a’n cylli