Ymgysylltu â dysgwyr

Mae dysgwyr wrth wraidd ein gwaith ac yn parhau i’n helpu ni i’w lunio. Fel rhanddeiliad allweddol mae eu cyfraniad at rannu profiadau, meddyliau a barn yn amhrisiadwy i’n cefnogi i ddatblygu cymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru.

Ar draws y flwyddyn rydym wedi ymgysylltu â dysgwyr lawer gwaith, gan gynnal nifer o grwpiau ffocws a defnyddio arolygon i ddatblygu ein rhyngweithio â phobl ifanc ym mhob rhan o’r wlad.

Roedd hyn yn cynnwys:

  • sesiynau ymgysylltu â dysgwyr

  • ymweliadau ag ysgolion a cholegau

  • ymgysylltu uniongyrchol mewn digwyddiadau

  • grwpiau llysgenhadon dysgwyr

  • arolygon

Roedd y trafodaethau ar y pynciau canlynol:

  • gweithio gyda thimau anghenion dysgu ychwanegol

  • adolygiadau sector cymwysterau galwedigaethol

  • Cymwysterau Cenedlaethol 14-16

  • Y Gyfres Sgiliau

Roedd hyrwyddo ein gwaith llais y dysgwr yn ymestyn ar draws pob sir yng Nghymru gyda chynrychiolaeth staff yn:

  • Eisteddfod yr Urdd

  • Yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Sgiliau Cymru

Cyfarfu ein Panel Dysgwyr wyth gwaith yn ystod y flwyddyn, gyda gweithgaredd recriwtio yn denu 14 aelod newydd.

Ymunodd dysgwyr o’r panel â ni yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol a chawson nhw gyfle i gynrychioli Cymwysterau Cymru mewn deunyddiau hyrwyddo, postiadau cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddiadau.

Cynnwys dysgwyr yn ein penderfyniadau

Matthew Gooding, Llysgennad Dysgwyr

“Cryfder mwyaf Cymwysterau Cymru yw sut maen nhw’n ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy weithgareddau fel y Panel Dysgwyr.

Maen nhw bob amser yn awyddus i wrando ar farn y dysgwr ac mae’r camau a gymerwyd gan Cymwysterau Cymru yn seiliedig ar drafodaethau’r Panel Dysgwyr wedi creu argraff arnaf bob amser – dydyn ni byth yn cael ein cymryd yn ganiataol.

Rwyf bob amser wedi teimlo bod y Panel Dysgwyr yn ofod eithriadol o agored a meddylgar lle gall pobl drafod pwnc y dydd mewn ffordd deg, craff a gwerthfawr. Rwyf wedi dysgu llawer am ymgysylltu â gwahanol bobl a syniadau o ganlyniad uniongyrchol i fod yn rhan o’r Panel Dysgwyr.

Mae sgyrsiau o fewn y Panel Dysgwyr wir yn ddiddorol ac mae yna bob amser rhywbeth i gnoi cul yn ei gylch ar ôl ein cyfarfodydd. Cawn ein trin â pharch ar y Panel Dysgwyr fel y gallwn drafod materion yn ymwneud â chymwysterau yn fanwl. O ganlyniad i’r Panel Dysgwyr, teimlaf fod dysgwyr Cymraeg wedi cael rôl arweiniol yn y cymwysterau a fydd yn effeithio arnyn nhw, ac mae addysg Gymraeg gymaint gwell o ganlyniad.

Mae bod yn aelod o’r panel wedi bod yn gyfle amhrisiadwy. Rwyf wedi mwynhau’n fawr gallu cyfrannu at grŵp o bobl sydd â chymaint o amrywiaeth barn, cefndir a phersbectif.

Dylai Cymwysterau Cymru fod yn hynod falch o’r adnodd y maen nhw wedi’i greu yn y Panel Dysgwyr, a disgwyliaf y bydd yn parhau i wasanaethu yn y dyfodol i gynnig mewnwelediadau gwerthfawr.”

Ymgysylltiad addysg uwch ac addysg bellach

Yn nhymor yr hydref 2023 a thymor y gwanwyn 2024, cynhalion ni gyfarfodydd wyneb yn wyneb gydag uwch gydweithwyr ym mhob coleg addysg bellach yng Nghymru, i drafod y trefniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau 2023-2024, diwygiadau i gymwysterau, adolygiadau sector a grwpiau cymwysterau sector. Roedd y trafodaethau’n amhrisiadwy gan roi cipolwg ar brofiadau staff a dysgwyr ôl[1]16 o gymwysterau a’r system gymwysterau.

Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd gyda CholegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, i drafod meysydd o ddiddordeb i’r ddwy ochr ynghylch materion addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Rydym hefyd wedi croesawu’r cyfleoedd i gyfarfod yn rheolaidd ag aelodau o rwydweithiau a fforymau ColegauCymru i drafod a derbyn adborth ar agweddau o gymwysterau ac asesiadau.

Rydym wedi croesawu’r cyfle i ymgysylltu, drwy UCAS, â staff ar draws y sector addysg uwch i drafod agweddau allweddol ar ddiwygio cymwysterau yng Nghymru.

Rydym wedi parhau i adeiladu ar ein cysylltiadau cryf ag UCAS trwy eu grwpiau rhanbarthol ac wedi cyfarfod ag amrywiaeth o staff derbyn yng nghynhadledd flynyddol UCAS ym mis Mai.

Cyfarfu ein Grŵp Rhanddeiliaid Addysg Uwch deirgwaith yn ystod y flwyddyn academaidd, gan roi cyfle i ni siarad yn uniongyrchol â chynrychiolwyr o 26 o sefydliadau addysg uwch blaenllaw yn y DU.

Ymgysylltu â chanolfannau

Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, cynhaliwyd ein cynhadledd swyddogion arholiadau wythnos o hyd. Cynhaliwyd y gynhadledd ar-lein gyda chyfraniadau gan CBAC, Pearson a JCQ, a ddarparodd sesiynau ar ofynion gweithredol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Am y tro cyntaf, anogwyd y rhai a oedd yn bresennol i ddod â rheolwyr cwricwlwm a staff eraill i rai o sesiynau allweddol yr wythnos. Arweiniodd hyn at y nifer uchaf erioed o gofrestriadau. Rydym yn parhau i ddarparu gwasanaeth cymorth canolfan parhaus, gyda sesiwn cyngor ar-lein manwl ar bob agwedd ar y system arholiadau.

Rydym yn trefnu ac yn hwyluso cyfarfodydd rhwydwaith ardal leol ar gyfer swyddogion arholiadau. Eleni, yn dilyn cwpl o flynyddoedd o gyfarfodydd ar-lein, fe wnaethon ni dreialu dychwelyd i gyfarfodydd ardal wyneb yn wyneb, a ysgogwyd gan adborth gan swyddogion arholiadau.

Roedd nifer o fanteision allweddol i adfer y dull hwn; mae cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer adeiladu tîm a rhwydweithio anffurfiol, sydd wedi bod yn heriol i’w hailadrodd ar-lein.

Gair gan Grace Birchwood, Ysgol Arbennig Sant Christopher, Wrecsam

"Rwy’n dibynnu’n fawr ar y sesiynau a ddarperir gan y tîm drwy gydol y flwyddyn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am yr holl ddatblygiadau diweddaraf gyda chyrff dyfarnu, y Cyd-gyngor Cymwysterau a Cymwysterau Cymru. Mae mor galonogol gwybod eu bod bob amser ar gael i wirio am unrhyw beth, waeth pa mor fach neu fawr.

Mae’r sesiynau y maent wedi eu darparu dros y blynyddoedd diwethaf, i swyddogion arholiadau newydd a phrofiadol, gan gynnwys y gynhadledd swyddogion arholiadau flynyddol, wedi bod mor addysgiadol a hanfodol wrth ddod â chymuned y swyddogion arholiadau ynghyd, gan roi fforwm a chyfle i ni rannu ein gwybodaeth, ein profiad, ac unrhyw faterion y gallem fod wedi dod ar eu traws.

Gwerthfawrogir yn fawr Hyb y Swyddogion Arholiadau, sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda’r canllawiau a dogfennau diweddaraf, gan ei fod yn siop un stop ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn lle i swyddogion arholiadau gysylltu â’i gilydd am gefnogaeth neu gymorth, trwy gydol y flwyddyn academaidd.”

 

Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Mae ymgysylltu’n effeithiol â’n rhanddeiliaid yn hollbwysig er mwyn hysbysu a chynnwys ein cynulleidfaoedd fel bod ganddynt hyder yn ein gallu i ddarparu cymwysterau teg, dibynadwy a chludadwy. Rydym yn esbonio ein gwaith i’r cyhoedd trwy strategaethau cyfathrebu sy’n seiliedig ar fewnwelediad, ymgyrchoedd ac ymgysylltu uniongyrchol.

Fe wnaethon ni barhau i adeiladu ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, ar ein gwefan gorfforaethol a thrwy ein platfform ymgysylltu Dweud Eich Dweud - gan gynyddu ein cyfradd postio a chyrhaeddiad ar draws Facebook, X, Instagram a LinkedIn.

Gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ein gwefan gorfforaethol a mwy o draws-hyrwyddo o’n gwefan trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, rydym wedi gweld cynnydd parhaus mewn ymweliadau â thudalennau gwefan, i fyny o 139,000 ym mlwyddyn academaidd 2022-23 i 285,000 yn ystod y flwyddyn academaidd hon.

Fel sefydliad sy’n gwrando, rydym yn parhau i chwilio am ffyrdd newydd ac, arloesol o hysbysu, ymgysylltu a chydweithio â’n cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid allweddol, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i ddysgwyr yng Nghymru. Rydym yn parhau i adolygu ymgysylltu ar draws ein sianeli digidol a byddwn yn cynnal archwiliad i ddatblygu strategaeth ddigidol newydd i sicrhau ein bod yn parhau i gyfathrebu â’n cynulleidfaoedd craidd mewn ffordd sydd nid yn unig yn cynyddu ymgysylltiad, ond sydd hefyd yn darparu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer cyfranogiad ac adborth.

Cefnogi cyrff dyfarnu

Cefnogi cyrff dyfarnu, gair gan Stacey Wilson, Pearson

“Mae ein hymgysylltiad mewn partneriaeth â Cymwysterau Cymru yn hanfodol wrth gefnogi swyddogion arholiadau, yn enwedig y rhai sy’n newydd i’r rôl. Maen nhw’n cynnig hyfforddiant ac adnoddau hanfodol, yn ogystal â sesiynau ar-lein sy’n darparu gwybodaeth gyfredol a chyngor ymarferol, a all fod yn anodd i swyddog arholiadau ddod o hyd iddynt rywle arall.

Mae Cymwysterau Cymru wedi chwarae rhan hanfodol wrth drefnu a datblygu cynadleddau a digwyddiadau llwyddiannus. Mae eu cefnogaeth wedi gwella’n sylweddol ein gallu i gyrraedd a chynorthwyo swyddogion arholiadau yng Nghymru.

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i gydweithio, rhannu arferion gorau, a gwella’r profiad cyffredinol o arholiadau i swyddogion arholiadau yng Nghymru.

Hoff ddigwyddiad tîm hyfforddi Pearson i weithio arno yw cynhadledd flynyddol Cymwysterau Cymru. Rydym wrth ein bodd yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o fewn y tîm ymgysylltu strategol ac wrth gwrs, yn cymryd rhan yn y gynhadledd bob blwyddyn.”

 

Darllenwch ran nesaf yr adroddiad

Darllenwch ran nesaf yr adroddiad