Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Daethom yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ym mis Mehefin 2024. Gwnaethon ni gynnwys rhanddeiliaid, gweithwyr a’n hundeb i’n helpu i ddatblygu ein dull gweithredu.
Gwnaethom gyhoeddi ein datganiad ac amcanion llesiant yn ein cynllun corfforaethol, gan ymgorffori’r egwyddorion llesiant yn ein gwaith diwygio a rheoleiddio. Ar draws y sefydliad, rydym wedi mabwysiadu ffyrdd cynaliadwy o weithio ac yn cynnwys rhanddeiliaid yn weithredol yn ein penderfyniadau.
Dyma ein hamcanion llesiant:
-
llunio cymwysterau sy’n paratoi ac yn cefnogi dysgwyr mewn bywyd, dysgu a gwaith, ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal
-
datblygu system gymwysterau ystwyth i Gymru sy’n ymateb i newidiadau economaidd-gymdeithasol, gan ddiwallu anghenion dysgwyr wrth ddiogelu gwerth y cymwysterau maen nhw’n eu derbyn
-
gweithredu fel sefydliad blaengar a chynhwysol sy’n perfformio’n dda, gan gyflawni ar gyfer pobl Cymru
Mae addysg ei hun yn galluogi llesiant hirdymor oherwydd:
-
mae ffyniant a thwf economaidd yn dibynnu ar allu’r gweithlu i ennill y sgiliau a gwybodaeth gywir
-
mae gan gyflogaeth gydberthynas gref ag iechyd a lles hirdymor, a gall, gyda chyflog teg, oresgyn effaith tlodi
-
mae cydberthynas rhwng lefelau cymwysterau a enillwyd ac enillion
-
mae dysgu yn ystod plentyndod yn llunio dealltwriaeth, agweddau ac ymddygiad yn ddiweddarach mewn bywyd (er enghraifft mynd i’r afael â materion fel gordewdra, gwrth-hiliaeth, a newid hinsawdd, ac o ran ehangu profiadau o’r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon)
-
mae gallu dysgu Cymraeg a chael addysg yn y Gymraeg yn meithrin cenedl ddwyieithog ac yn cefnogi twf yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
Ffyrdd cynaliadwy o weithio, gair gan Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
“Er mai ond o fis Mehefin 2024 y buon nhw’n ddarostyngedig i’r ddeddfwriaeth, mae wedi bod yn gadarnhaol gweld y ffordd y mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi cofleidio eu cyfrifoldebau i ddiwallu anghenion cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.
Mae eu dull o ddiwygio cymwysterau, gan gynnwys dysgwyr a chydweithio ag amrywiaeth o bobl, wedi dangos eu bod eisoes yn cymhwyso egwyddorion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae addysg yn effeithio ar lesiant mewn sawl ffordd.
Fel sefydliad allweddol yng Nghymru, sy’n dylanwadu ar ddysgwyr o bob oed, mae datganiad llesiant newydd Cymwysterau Cymru yn amlinellu’r gwaith gwych sydd ar y gweill a’r gwaith sydd eto i’w wneud i’n dod yn nes at Gymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi. Edrychaf ymlaen at weithio mwy gyda nhw wrth iddyn nhw geisio cyflawni eu hamcanion llesiant.”
Ffyrdd cynaliadwy o weithio
“Er mai ond o fis Mehefin 2024 y buon nhw’n ddarostyngedig i’r ddeddfwriaeth, mae wedi bod yn gadarnhaol gweld y ffordd y mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi cofleidio eu cyfrifoldebau i ddiwallu anghenion cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.
Mae eu dull o ddiwygio cymwysterau, gan gynnwys dysgwyr a chydweithio ag amrywiaeth o bobl, wedi dangos eu bod eisoes yn cymhwyso egwyddorion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae addysg yn effeithio ar lesiant mewn sawl ffordd.
Fel sefydliad allweddol yng Nghymru, sy’n dylanwadu ar ddysgwyr o bob oed, mae datganiad llesiant newydd Cymwysterau Cymru yn amlinellu’r gwaith gwych sydd ar y gweill a’r gwaith sydd eto i’w wneud i’n dod yn nes at Gymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi. Edrychaf ymlaen at weithio mwy gyda nhw wrth iddyn nhw geisio cyflawni eu hamcanion llesiant.”
Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn
Mae ein dull cynhwysol o ymgysylltu yn sicrhau y cynhelir sgyrsiau, adborth a phrofiadau gan ystod amrywiol o ddysgwyr a rhanddeiliaid. Mae’r adborth hwnnw’n cael ei rannu ar draws y sefydliad i helpu i ddatblygu a llywio ein ffordd o feddwl a’n cynlluniau at y dyfodol.
Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2024–2028 yn amlinellu sut rydym yn bwriadu cyflawni ein hymrwymiadau cydraddoldeb ac yn ategu ein hymdrechion llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Mae ein hadroddiad cynnydd cydraddoldeb blynyddol yn crynhoi sut rydym wedi cyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb fel cyflogwr a rheoleiddiwr.
Fe wnaethon ni barhau i ddarparu ein hyfforddiant cynhwysiant a dechrau gweithio gyda Chyngor Hil Cymru i glywed profiadau cydweithwyr fel rhan o’n hyfforddiant gwrth-hiliol. Ym mis Mawrth 2024, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad cynnydd cynllun gweithredu gwrth-hiliol diweddaraf.
Yn ein harolwg staff yn 2023, roedd 92% o weithwyr yn cytuno ein bod wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol, ac 89% yn cytuno eu bod yn cael eu trin â pharch gan eu cyfoedion.
Datblygu staff
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol a phersonol ein gweithwyr trwy hyfforddiant ffurfiol a dod i gysylltiad â chyfleoedd dysgu trwy eu gwaith.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein staff wedi bod yn bresennol mewn sesiynau hyfforddiant, fel: • ysgrifennu effeithiol
-
cyd-destun cyfreithiol bod yn rheoleiddiwr
-
cydraddoldeb a chynhwysiant
-
gwrth-hiliaeth
Drwy gydol y flwyddyn, cynhalion ni nifer o ddiwrnodau datblygu i’r staff i gyd i rannu gwybodaeth a sgiliau, ac i feithrin perthnasoedd y tu allan i dimau uniongyrchol, a all fod yn fwy heriol mewn amgylchedd hybrid.
Rydym hefyd wedi cefnogi staff i fynd i nifer o gynadleddau a digwyddiadau rhannu gwybodaeth allweddol i’n cynrychioli.
Rydym wedi bod yn cyflwyno rhaglen o hyfforddiant gwrth-hiliaeth i’r staff i gyd, a ddechreuodd gyda sgyrsiau agored i ddeall safbwyntiau unigol. Fe wnaethon ni hefyd gefnogi hyfforddiant i ddau unigolyn ar niwroamrywiaeth ac i gydweithiwr fynd i gynhadledd ar hygyrchedd mewn asesiadau.
Estynnwyd ein contract gyda Leaderful Action i ddarparu rhaglenni arweinyddiaeth a rheolaeth, gan gefnogi 12 gweithiwr arall i fynd. Bu gweithwyr hefyd yn ymgysylltu â rhaglen Sbardun Academi Wales, sy’n cefnogi menywod i fod yn rheolwyr.
Rhoddwyd cymorth hefyd i gynrychiolwyr undeb fynd i hyfforddiant i’w cefnogi yn eu rolau, ac rydym yn darparu hyfforddiant iechyd, diogelwch a TG.
Gwnaethon ni godi ymwybyddiaeth o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy ein diwrnodau i’r staff cyfan. Cynhaliodd cynrychiolydd o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol weithdy i helpu staff i ymgysylltu â meddwl yn yr hirdymor, sydd wedi llywio ein gwaith ar ddiwygio cymwysterau a moderneiddio asesu.
Partneriaeth gymdeithasol
Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â’n cangen undeb o’r dechrau, gan geisio cipolwg ar ddatblygu polisi, eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau yn ystod y pandemig, fel bod amrywiaeth barn yn cael ei chlywed, a rhannu safbwyntiau ac atebion.
Mae’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol wedi cryfhau’r ffordd rydym yn gweithio. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithgareddau yn ystyried safbwyntiau a phrofiadau ar bob lefel, a bod yr hyn a wnawn yn cael ei rannu a’I ddeall gan ein gweithwyr, wrth hyrwyddo egwyddorion gwaith teg.
“Daeth Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i rym yn 2024.
Mae’n nodi y dylai cyrff cyhoeddus ac undebau llafur weithio gyda’i gilydd i sicrhau gwaith teg yng Nghymru ac i gytuno, a chyflawni, amcanion llesiant y sefydliad fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).
Mae Cymwysterau Cymru a’n cangen undeb PCS wedi gweithio’n gadarnhaol mewn partneriaeth ers i Cymwysterau Cymru gael ei sefydlu yn 2015.
Trwy gyfarfodydd fforwm partneriaeth rheolaidd rhwng y tîm gweithredol a chadeirydd ac ysgrifennydd cangen yr undeb, ymgynghori ar bolisïau ac ymgysylltu â chynllunio sefydliadol, mae aelodau’r undeb wedi gallu cyfrannu at newidiadau cadarnhaol i ffyrdd o weithio.
Rydym yn parhau i adeiladu ar gryfder y bartneriaeth hon i gyrraedd canlyniadau y cytunwyd arnynt gan y ddwy ochr a’n hamcanion llesiant.”
Ceri Phillips, Cangen Undeb PCS
Cynnwys yr undebau
“Daeth Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i rym
yn 2024.
Mae’n nodi y dylai cyrff cyhoeddus ac undebau llafur weithio gyda’i gilydd i sicrhau gwaith teg yng Nghymru ac i gytuno, a chyflawni, amcanion llesiant y sefydliad fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).
Mae Cymwysterau Cymru a’n cangen undeb PCS wedi gweithio’n gadarnhaol mewn partneriaeth ers i Cymwysterau Cymru gael ei sefydlu yn 2015.
Trwy gyfarfodydd fforwm partneriaeth rheolaidd rhwng y tîm gweithredol a chadeirydd ac ysgrifennydd cangen yr undeb, ymgynghori ar bolisïau ac ymgysylltu â chynllunio sefydliadol, mae ael odau’r undeb wedi gallu cyfrannu at newidiadau cadarnhaol i ffyrdd o weithio.
Rydym yn parhau i adeiladu ar gryfder y bartneriaeth hon i gyrraedd canlyniadau y cytunwyd arnynt gan y ddwy ochr a’n hamcanion llesiant.”
Ceri Phillips, Cangen Undeb PCS
Cyllid a chaffael
Cawn ein hariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru. Ein cyllid refeniw craidd ar gyfer 2024—25 yw £9.807m ac rydym yn derbyn dyraniad cyllid cyfalaf o £250k. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, rydym hefyd eleni wedi cael £200k i ariannu cymwysterau Cymraeg i Oedolion.
Darparwn wasanaethau cymorth technoleg gwybodaeth i ddau gorff arall a noddir gan Lywodraeth Cymru ac yn disgwyl cynhyrchu ychydig dros £40k o incwm o’r bartneriaeth hon bob blwyddyn ariannol. Mae crynodeb o’n cyllideb ar gyfer 2024–25 wedi’i amlinellu gyferbyn.
Y llynedd bu’n rhaid i ni leihau ein cyllidebau nad ydyn nhw’n ymwneud â chyflogau tua 25% i dalu am ein pwysau cost cyflogau. Mae dyraniad cyllid digyfnewid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 wedi golygu bod yn rhaid i’r ailwampio hwn rhwng cyllidebau cyflogau a chyllidebau nad ydynt yn gyflogau barhau. Rydym yn rhagweld (ar y gorau) lefelau cyllid digyfnewid parhaus ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf, wrth wynebu pwysau costau chwyddiant cyflog parhaus ar yr un pryd. Rydym yn y broses o adolygu ein model gweithredu hirdymor i sicrhau y gellir talu ein costau gyda’r lefelau cyllid sy’n debygol o fod ar gael, tra byddwn yn parhau i gyflawni yn erbyn ein blaenoriaethau allweddol.
Crynodeb o’n cyllideb 2024-25
Dilynwn egwyddorion rheoli arian cyhoeddus Cymru i sicrhau bod ein holl benderfyniadau gwario yn sicrhau gwerth am arian. Pan fyddwn yn caffael nwyddau a gwasanaethau, rydym yn adolygu ein dull gweithredu a’n manylebau ac yn ystyried a allwn wneud arbedion effeithlonrwydd pellach neu wireddu buddion ehangach.
Rydym yn paratoi ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth caffael newydd drwy adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau i sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio ac yn cyflawni caffael sy’n gyfrifol yn gymdeithasol.
Mae ein polisi caffael yn adlewyrchu datganiad polisi caffael Cymru a pha gamau y byddwn yn eu cymryd i hybu ein cydymffurfedd â nodau llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn parhau i gyflawni arbedion – cyfanswm o £18.8k ar gyfer blwyddyn ariannol 2023–24 – o gontractau a ddyfarnwyd cyn y cyfnod adrodd. Daw rhai o’r arbedion parhaus mwy sylweddol o wasanaethau cyfieithu ac argraffu. Cyflawnwyd arbedion eraill trwy gontractau ar gyfer ffonau symudol, archwilio mewnol, meddalwedd archebu desg, gwasanaethau rheoli cyfleusterau ac yswiriant.
Rydym hefyd yn ystyried effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol yn ein gweithgarwch caffael ac yn monitro ac yn adrodd ar y canlyniadau.
Mae’r rhain yn cynnwys lleihau ôl troed carbon ein contractwyr, annog ceisiadau gan fusnesau bach a chanolig (BBaCh) ynghyd â mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, hyrwyddo cyfle cyfartal a gwaith teg yn ein cadwyni cyflenwi - gan gynnwys sicrhau bod contractwyr yn talu’r cyflog byw gwirioneddol i’w staff ac is-gontractwyr.
Fe wnaethon ni adrodd am lai o allyriadau carbon ar gyfer ein gwasanaethau arbenigwyr pwnc a thrwyddedau Microsoft Office 365 o ganlyniad i gyfrifo allyriadau gwirioneddol yn ymwneud â’u defnydd yn hytrach na dull seiliedig ar wariant.
Rydym yn monitro ein gwariant cydweithredol a’r swm a wariwyd gyda chyflenwyr o Gymru, busnesau bach a chanolig, mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, a chyflenwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.