
Croeso i’n hadroddiad blynyddol diweddaraf – y degfed ers i ni gael ein sefydlu ddegawd yn ôl – sy’n edrych yn ôl ar ein gweithgareddau yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25.

Mae ein gwaith i ddylunio a chyflwyno cyfres newydd o Gymwysterau Cenedlaethol gwneud-i-Gymru ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed wedi parhau ar gyflymder, ac mae wedi bod yn ffocws enfawr i ni dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r cymwysterau hyn wedi cael eu creu i fodloni gofynion y Cwricwlwm i Gymru ac maen nhw’n ganlyniad cyfnod helaeth o gydweithio ag arbenigwyr pwnc ac athrawon.
Yn ôl y bwriad, mae’r cymwysterau TGAU newydd cyntaf wedi cael eu cyflwyno’n llwyddiannus gan CBAC. Byddan nhw’n cael eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025 ymlaen, gyda’r gweddill wedi cael eu cymeradwyo’n barod i’w cyflwyno cyn eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2026. Bydd y cymwysterau TGAU hyn yn cyd-fynd â’r gyfres ehangach o gymwysterau, gan gynnwys cymwysterau TAAU, Sgiliau a Sylfaen sy’n berthnasol i alwedigaethau, a fydd yn cael eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027 ymlaen.
Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn cynrychioli’r diwygiad mwyaf cynhwysfawr o gymwysterau cyn-16 y mae Cymru erioed wedi ei weithredu, gyda’r bwriad o roi dewis dealladwy o gymwysterau i ddysgwyr sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm ac wedi eu cynllunio i ddiwallu eu hanghenion amrywiol.
Er bod diwygiadau cyn-16 wedi bod yn brif ffocws i ni, rydyn ni hefyd wedi parhau i weithio gyda cholegau addysg bellach a chyrff dyfarnu i sicrhau ystod gynaliadwy o gymwysterau ôl-16 gwneud-i-Gymru mewn pynciau sy’n ymwneud â’r tir, teithio a thwristiaeth, a lletygarwch ac arlwyo. Mae hyn wedi ymestyn ymhellach yr ystod o sectorau lle mae cymwysterau dwyieithog wedi cael eu dylunio i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru.
Mae ein gwaith i ddiwygio cymwysterau yn cyd-fynd â’n rôl reoleiddio hanfodol – sef monitro cydymffurfiaeth cyrff dyfarnu â’n rheolau, a goruchwylio dyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch. Prosesau dyfarnu eleni oedd y cyntaf lle roedd dychweliad llawn i’r trefniadau cyn-bandemig yn dilyn y mesurau a roddwyd ar waith i gefnogi dysgwyr fel rhan o gynllun adfer COVID-19. Roedden ni’n falch o weld bod y gyfres arholiadau wedi cael ei chynnal heb unrhyw ddigwyddiadau sylweddol gyda chanlyniadau sydd wedi dychwelyd yn fras i lefelau cyn-bandemig. Mae cynnal safonau dros amser yn un o’n cyfrifoldebau craidd, felly mae sefydlogrwydd mewn canlyniadau gyda newidiadau bach sy’n gysylltiedig â pherfformiad dysgwyr yn rhan bwysig o sicrhau hyder y cyhoedd yng ngwerth cymwysterau ac uniondeb y system gymwysterau.
Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, byddwn ni’n cymryd y camau olaf tuag at sicrhau’r ystod lawn o Gymwysterau Cenedlaethol 14-16 ac yn cyfrannu at y gweithgareddau rheoli newid pwysig a fydd yn cael eu gwneud gan eraill. Gan gydnabod bod llawer o gymwysterau ôl-16 yn cael eu darparu ledled y DU, byddwn ni hefyd yn edrych ar effaith diwygiadau arfaethedig Lloegr ar ystod a natur y cymwysterau a astudir gan ddysgwyr yng Nghymru.
Hoffen ni ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu ni i gyflawni blwyddyn lwyddiannus. Yr ysgolion, colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith sydd wedi darparu cymwysterau ‘ar lawr gwlad’, na allai’r system weithredu hebddyn nhw. Hoffen ni hefyd ddiolch i’r cyrff dyfarnu sydd wedi gweithio gyda ni i ddarparu cymwysterau gwerthfawr a llawer o randdeiliaid eraill sydd wedi rhoi’n hael o’u hamser i’n helpu ni i siapio cymwysterau, sy’n caniatáu i ddysgwyr symud ymlaen i’w camau nesaf mewn bywyd, dysgu a gwaith.
Yn olaf, eleni oedd blwyddyn olaf ein cadeirydd David Jones OBE DL yn ei swydd. Bu’n arwain Bwrdd Cymwysterau Cymru er 2019, ac rydyn ni’n estyn ein diolch iddo am ei stiwardiaeth yn ystod rhai o’r blynyddoedd mwyaf cythryblus erioed ar gyfer cyflawni cymwysterau.
Y flwyddyn mewn niferoedd – yr uchafbwyntiau




