Mae hyn yn cynnwys darparu cefnogaeth weithredu gynnar ar gyfer y don gyntaf o gymwysterau TGAU Cenedlaethol, gweithredu ein rhaglen waith rheoli newid ar gyfer yr ail don o gymwysterau TGAU ochr yn ochr â’n partneriaid allweddol, a chymeradwyo’r don olaf newydd o gymwysterau.
Byddwn ni’n cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymwysterau TGAU newydd ym mhynciau Cymraeg a Saesneg sydd wedi eu dylunio’n benodol i’w defnyddio mewn lleoliadau ôl-16.
Byddwn ni’n dechrau gwerthuso diwygiadau’r Cymwysterau Cenedlaethol 14–16. Byddwn ni’n parhau i weithio gyda CBAC i sicrhau bod cymwysterau UG a Safon Uwch yn adeiladu ar y cymwysterau TGAU newydd gwneud-i-Gymru.
Mewn perthynas â’n diwygiad o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru, byddwn ni’n lansio ein hymgynghoriad ac yn cyhoeddi ein hadroddiad penderfyniadau a’n canfyddiadau. Yna byddwn ni’n cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ac yn lansio’r broses gymeradwyo.
Byddwn ni’n cwblhau’r argymhellion a nodwyd yn ein hadolygiad sector mewn gwallt a harddwch. Byddwn ni hefyd yn parhau i weithio ar ein diwygiadau ôl-16, sy’n cynnwys sicrhau cymwysterau sy’n ymwneud â’r tir a’r diwygiadau i gymwysterau lletygarwch ac arlwyo, a theithio a thwristiaeth. Byddwn ni hefyd yn ystyried effeithiau posibl o ran newidiadau polisi yn Lloegr ac yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru.
Byddwn ni’n adolygu ein strategaeth reoleiddio, er mwyn sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn ymgorffori ein dull rheoleiddio sydd newydd ei ddiweddaru.
Byddwn ni’n parhau â’n gweithgareddau rheoleiddio craidd, gan gynnwys goruchwylio cyfres arholiadau ac asesiadau, yn ogystal ag arholiadau a gafodd eu sefyll ym mis Tachwedd 2026.
Byddwn ni’n parhau â gweithgareddau corfforaethol craidd, gan gynnwys ymgorffori ein hamcanion lles a’n ffyrdd cynaliadwy o weithio ym mhob agwedd ar ein gwaith.
Byddwn ni’n ystyried sut i gynnal ein ffocws ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd sefydliadol, o ystyried y cyfyngiadau tebygol ar gyllid y sector cyhoeddus a’n cyllid ni.