Mae cymwysterau hefyd yn ffynhonnell dystiolaeth allweddol ar gyfer monitro cynnydd tuag at y dangosyddion llesiant cenedlaethol.  Mae wedi bod yn ofynnol arnon ni i gydymffurfio â dyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) er mis Ebrill 2025, ond fe wnaethon ni ddewis gweithio yn unol â disgwyliadau’r Ddeddf ymhell cyn hynny. Mae ein hamcanion llesiant i’w gweld yn ein cynllun corfforaethol, sy’n siapio ein gweledigaeth hirdymor ac yn adlewyrchu ein blaenoriaethau strategol.

Mae’r dangosyddion yn adroddiad Llesiant Cymru 2025 yn dangos bod proffil cymwysterau’r boblogaeth oedran gweithio wedi gwella dros amser.

Erbyn 2024:
• roedd bron i hanner (46.4%) yr oedolion o oedran gweithio wedi cymhwyso i lefel 4 o leiaf
• roedd mwy na dwy ran o dair (68.6%) o oedolion o oedran gweithio wedi cymhwyso i lefel 3 neu’n uwch, yn erbyn targed o 75%
• roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd wedi cymhwyso i o leiaf lefel 2 (sy’n cyfateb i bum neu fwy o gymwysterau TGAU o radd A* i C) yn 87.6%
• roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau wedi gostwng i 7.9% (yn erbyn targed o 5% ym mhob ardal awdurdod lleol erbyn 2050)

Mae addysg yn effeithio ar lesiant hirdymor, a chymwysterau yw’r prif ddylanwad ar gyfle unigolyn i fod yn gyflogedig, ac ar faint o arian maen nhw’n ei ennill. Mae gweithlu medrus hefyd yn cynorthwyo twf economaidd. Mae ein hamcanion llesiant yn cefnogi system gymwysterau gynaliadwy ac ymatebol gyda chynnig sefydlog o gymwysterau perthnasol a fydd yn helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu bywydau.

Mae’r adroddiad blynyddol hwn wedi cael ei strwythuro o amgylch ein hamcanion lles sefydliadol hyd at 2035, sef:
• siapio cymwysterau sy’n paratoi dysgwyr ac yn eu cefnogi mewn bywyd, dysgu a gwaith, ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal
• datblygu system gymwysterau hyblyg i Gymru sy’n ymateb i newidiadau economaidd-gymdeithasol, gan ddiwallu anghenion dysgwyr wrth amddiffyn gwerth y cymwysterau maen nhw’n eu derbyn
• gweithredu fel sefydliad blaengar, uchel ei berfformiad a chynhwysol sy’n cyflawni ar gyfer pobl Cymru

Mae cyflawni’r amcanion hyn yn gofyn am ddull integredig, ynghyd â gweithgaredd ac ymdrechion y sefydliad cyfan, a phob tîm sy’n rhan ohono.

Darllenwch ran nesaf yr adroddiad