Rydyn ni eisiau gweld system gymwysterau lle mae cyrff dyfarnu yn ymateb i anghenion newidiol y sectorau y maen nhw’n eu gwasanaethu. Lle rydyn ni’n ymyrryd ac yn gosod gofynion dylunio, ein nod yw sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cynllunio a’u dyfarnu mewn ffyrdd sy’n deg ac yn hygyrch i ddysgwyr ac yn galluogi bod safonau yn cael eu cynnal dros amser.
Diben rheoleiddio yw sefydlu amgylchedd darparu cadarn, gyda safonau uchel, sy’n osgoi methiannau system presennol neu yn y dyfodol. Rydyn ni’n gwneud hyn trwy osod meini prawf ar gyfer cydnabod cyrff dyfarnu a darparu rheolau y mae’n rhaid iddyn nhw eu dilyn wrth ddyfarnu cymwysterau – yna rydyn ni’n monitro eu cydymffurfiaeth a goruchwylio dyfarnu i gynnal safonau priodol.
Rydyn ni’n edrych ar ba mor dda y mae anghenion presennol a dyfodol Cymru yn cael eu nodi a’u gweithredu, a pha mor effeithiol ac effeithlon y mae’r system yn gweithredu. Er ein bod yn disgwyl i gyrff dyfarnu addasu i anghenion sy’n newid, rydyn ni’n gallu ymyrryd a chymell newid lle bo angen.
Mae ein dull yn cefnogi system gymwysterau gynaliadwy gyda chymwysterau perthnasol a chynhwysol sy’n helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu bywydau.
Trefniadau cymwysterau 2024/25
Yn ystod tymor yr hydref 2024, fe wnaethon ni roi gwybod i ganolfannau, yn dilyn dychwelyd i’r trefniadau cyn-bandemig ar gyfer cyfres haf 2024, y byddai arholiadau ac asesiadau a astudiwyd yn ystod 2024-25 yn cael eu sefyll a’u graddio yn yr un ffordd.
Roedd hyn yn golygu na fyddai CBAC yn ystyried amddiffyniadau ystadegol ychwanegol wrth ddyfarnu graddau ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, a byddai ystadegau’n chwarae eu rôl arferol ochr yn ochr â barn arholwyr wrth osod ffiniau gradd.
Fe wnaethon ni atgoffa canolfannau y gall ffiniau gradd newid gyda phob cyfres arholiadau i adlewyrchu gwahaniaethau yn lefelau anhawster yr asesiadau. Mae hyn yn golygu y gallai nifer y marciau sydd eu hangen ar gyfer gradd benodol amrywio, sy’n sicrhau cynnal safonau a thegwch i ddysgwyr dros amser.
Fe wnaethon ni hefyd gadarnhau y byddai trefniadau yn parhau i sicrhau bod dysgwyr sy’n astudio cymwysterau galwedigaethol yn cael eu canlyniadau ar amser.
Cynnal safonau perfformio
Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddwyd adroddiad a oedd yn myfyrio ar ein hasesiad o’r daith yn ôl i drefniadau cyn-bandemig mewn cymwysterau cyffredinol a safwyd gan ddysgwyr yng Nghymru. Gwelwyd tystiolaeth o adferiad ym mherfformiad dysgwyr yn haf 2024, ac roedd ffiniau graddau mewn llawer o bynciau yn agosach at yr hyn oedden nhw cyn y pandemig.
Fodd bynnag, mewn rhai pynciau, ac ar rai graddau, roedd safonau perfformiad yn dal yn wannach nag yr oedden nhw cyn y pandemig, ac mewn cymwysterau TGAU roedd hyn yn tueddu i fod ar radd C. Nid oedd angen i CBAC ddefnyddio amddiffyniad ystadegol yn 2024 ond roedd rhai ffiniau graddau mewn rhai pynciau, yn enwedig y ffin gradd C mewn cymwysterau TGAU, yn dal yn isel.
Mae yna lawer o resymau pam y gellir gweld yr adferiad gwahaniaethol hwn, gan gynnwys bod dysgwyr â gallu uwch wedi cael eu heffeithio lai gan yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig. Gallai hyn fod oherwydd eu gallu gwybyddol neu eu sgiliau dysgu annibynnol. Efallai bod ffactorau eraill, megis cyfraddau presenoldeb, hefyd wedi effeithio ar berfformiad dysgwyr.
Ar gyfer cyfres 2024-25, gofynnwyd i CBAC ddyfarnu ar safonau perfformiad cyn y pandemig. Roedd hyn yn bwysig er mwyn diogelu gwerth y cymwysterau gwneud-i-Gymru a’u cymharu â chymwysterau tebyg mewn awdurdodaethau eraill.
Arholiadau ac asesiadau 2024/25
Dechreuodd y flwyddyn arholiadau ac asesiadau ym mis Tachwedd 2024 gydag arholiadau TGAU cyntaf y flwyddyn academaidd. Mae’r rhain yn cwmpasu TGAU Saesneg Iaith, TGAU Cymraeg Iaith, TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg - Rhifedd.
Ym mis Ionawr 2025, roedd arholiadau uned ar gyfer TGAU Llenyddiaeth Saesneg a TGAU Llenyddiaeth Gymraeg. Roedd hefyd rai cydrannau a dyfarniadau ar gyfer cymwysterau Lefel 2 a 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chymwysterau Lefel 2 a 3 Gofal Plant, cymwysterau Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.
Mae’r rhan fwyaf o arholiadau ac asesiadau yn digwydd yn ystod cyfres yr haf sy’n dechrau’n ffurfiol ym mis Mehefin.
Hysbysu dysgwyr, rhieni a chanolfannau
Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddwyd ein canllaw i arholiadau ac asesiadau ar gyfer cyfres yr haf, er mwyn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i ddysgwyr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu harholiadau a’u hasesiadau.
Roedd y canllaw yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys:
• dyddiadau allweddol
• gwybodaeth am raddio
• gwybodaeth am y camau nesaf ar ôl diwrnod y canlyniadau
• dolenni i wefannau defnyddiol lle gall dysgwyr gael mynediad at awgrymiadau i helpu gydag adolygu, canllawiau lles, a chefnogaeth arall
Fe wnaethon ni gyfathrebu â dysgwyr, rhieni a chanolfannau gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli eraill, gan gynnwys:
• llythyrau i ysgolion a cholegau
• diweddaru swyddogion arholiadau trwy ein Hwb Swyddogion Arholiadau penodol
• postiadau wythnosol ar y cyfryngau cymdeithasol
• blogiau a straeon newyddion
• deunyddiau printiedig
• siarad â dysgwyr mewn lleoliadau ysgol ac mewn digwyddiadau cyhoeddus
Unwaith eto, fe wnaethon ni gydweithio â phartneriaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, CBAC, Gyrfaoedd Cymru, ac e-sgol i gefnogi dysgwyr sy’n astudio cymwysterau trwy ein hymgyrch wybodaeth ar y cyd – Lefel Nesa. Roedd hyn yn cynnwys hwb canolog lle gallai dysgwyr gael mynediad at gefnogaeth, megis canllawiau adolygu, sesiynau adolygu ar-lein, cefnogaeth lles, a mwy.
Diwrnodau canlyniadau
Cynhaliwyd diwrnodau canlyniadau
eleni ar:
• Ddydd Iau 14 Awst - diwrnod canlyniadau lefel 3
• Ddydd Iau 21 Awst - diwrnod canlyniadau lefel 1 a lefel 2
Mae canlyniadau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol yn cael eu rhyddhau ar - neu cyn - pob diwrnod canlyniadau.
Yn y cyfnod cyn canlyniadau cymwysterau haf 2025, fe wnaethon ni:
• greu tudalen we canlyniadau haf 2025 benodol a’i diweddaru drwy gydol y cyfnod canlyniadau
• cynhyrchu datganiadau i’r cyfryngau a chynnal sesiwn friffio i’r cyfryngau ar gyfer newyddiadurwyr allweddol ac yna cefnogi eu hadroddiadau ar ddiwrnod y canlyniadau
• rhannu gwybodaeth a chefnogaeth ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol
• datblygu fideos yn llongyfarch dysgwyr ar eu canlyniadau, gyda negeseuon personol gan ein Prif Weithredwr a’n Cadeirydd
Ar ddiwrnodau canlyniadau lefel 3, fe wnaethon ni gyhoeddi un Adolygiad Canlyniadau a Chyfres yr Haf 2025 diwygiedig, a oedd yn cynnwys data llawn a dadansoddiad o ganlyniadau cymwysterau UG a Safon Uwch. Yna diweddarwyd hwn gyda gwybodaeth am gymwysterau TGAU a chymwysterau eraill ar ddiwrnod canlyniadau lefel 1 a lefel 2.
Er mwyn sicrhau bod gan randdeiliaid fynediad at y wybodaeth angenrheidiol, fe wnaethon ni rannu ein hadroddiadau canlyniadau a’n ffeithluniau yn uniongyrchol â chanolfannau a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Cafodd y rhain eu hyrwyddo’n helaeth hefyd ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyr canlyniadau a thrwy ein cyfarfodydd rheolaidd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn ymweld â chanolfannau.

Monitro
Ein nod yw sicrhau bod ein gweithgareddau monitro yn dryloyw, yn atebol, yn gymesur, yn gyson ac wedi eu targedu.
Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau i fonitro cyrff dyfarnu yn erbyn ein hamodau cydnabyddiaeth safonol, gan gynnwys:
• datganiadau cydymffurfiaeth gan gyrff dyfarnu
• gweithgareddau monitro dilynol ar gyfer datganiadau cydymffurfiaeth
• archwiliadau rheoleiddio
• cyfarfodydd rheolaidd gyda chyrff dyfarnu i sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth glir o’n gofynion rheoleiddio
Eleni, fel rhan o waith monitro cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, y Dystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch, fe wnaethon ni fonitro sampl fach o brosesau cynhyrchu papurau arholiad CBAC.
Yn ystod misoedd yr haf, fe wnaethon ni arsylwi sampl o gyfarfodydd dyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch CBAC, yn ogystal â monitro’n agos y gyfres o gymwysterau galwedigaethol newydd. Wnaethon ni ddim nodi unrhyw bryderon sylweddol ynghylch y prosesau sydd ar waith i gefnogi asesu a dyfarnu’r cymwysterau hyn yn effeithiol.
Fe wnaethon ni hefyd gynnal arolwg ar ein platfform ymgysylltu Dweud Eich Dweud i gasglu adborth gan ddysgwyr ac athrawon a darlithwyr yn ystod cyfres arholiadau’r haf. Gostyngodd ymgysylltiad cyffredinol tua 33.9% o’i gymharu â’r llynedd, ac ni amlygwyd unrhyw faterion na phroblemau mawr.
Ers cwblhau cyfres yr haf nid oes unrhyw bryderon wedi cael eu codi gan ganolfannau, nac eraill, ynghylch dyfarnu eleni.
Cydnabyddiaeth a chydymffurfiaeth
Eleni, cawson ni ddau gais rhagarweiniol gan sefydliadau sy’n dymuno dod yn gorff dyfarnu cydnabyddedig yng Nghymru.
Gwrthodwyd un oherwydd anomaleddau yn ei dystiolaeth, a methodd y llall y gwiriadau cwblhau cychwynnol a chafodd ei ddychwelyd. Rhoddodd tri chorff dyfarnu – ATHE Limited, Cambridge Assessment International Education, a NOCN – y gorau i’w statws cydnabyddedig yn ystod y flwyddyn.
Mae’n ofynnol i bob corff dyfarnu cydnabyddedig roi hunanasesiad blynyddol i ni o’u cydymffurfiaeth â’n hamodau cydnabod safonol. Er mwyn lleihau’r baich rheoleiddiol ar gyrff dyfarnu, rydyn ni’n cynnal hyn fel ymarfer ar y cyd mewn cydweithrediad â’r rheoleiddwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon rydyn ni’n rhannu amodau tebyg â nhw, sef Ofqual a CCEA Regulation.
Eleni roedd tair prif linell ymholi:
• sefydlogrwydd sefydliadol
• trefniadau gwydnwch gyda chanolfannau – i amddiffyn buddiannau dysgwyr
• darparu addasiadau rhesymol yn unol â deddfwriaeth cydraddoldeb
Eleni cawson ni 88 o ddatganiadau cydymffurfiaeth. Rhoddodd dau gorff dyfarnu y gorau i’w cydnabyddiaeth yn ystod y broses a datganodd 10 arall ddiffyg cydymffurfiaeth gyfredol neu yn y dyfodol.
Gwnaeth dau gorff dyfarnu ddatganiadau diffyg cydymffurfiaeth sy’n berthnasol yn benodol i Gymru yn unig. Roedd un yn gysylltiedig ag anweithgarwch dyfarnu yng Nghymru ar ôl mwy na dwy flynedd heb ardystio unrhyw ddysgwyr. Roedd y llall yn gysylltiedig â chydymffurfio â’n gofynion ynghylch darparu deunyddiau dwyieithog, lle’r oedd gan y corff dyfarnu gymwysterau ar ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW) gyda statws ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ond nid oedd rhai unedau ar gael yn y Gymraeg.

Digwyddiadau
Rhaid i gyrff dyfarnu roi gwybod i ni am unrhyw ddigwyddiadau a allai arwain at effeithiau andwyol i ddysgwyr, neu sy’n bygwth uniondeb cymwysterau rheoleiddiedig.
Mae’r rhain yn cynnwys materion a all godi mewn unrhyw gyfres asesu, er enghraifft gwallau mewn deunyddiau asesu a thor-diogelwch posibl ar gyfer deunyddiau asesu.
Bu nifer uwch o ddigwyddiadau’r flwyddyn academaidd hon o’i gymharu â 2023-24. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o ddigwyddiadau naill ai’n ymwneud â materion bach neu heb effeithio’n sylweddol ar ddysgwyr. Mae’n bosibl bod y cynnydd yn nifer y digwyddiadau a adroddwyd i ni o ganlyniad i fwy o ffocws ar adrodd gan gyrff dyfarnu ac ni ddylid ynddo’i hun ei ystyried yn ffactor negyddol.
Lle gallai effaith y digwyddiad fod wedi arwain at ddysgwyr yn profi effaith andwyol, fe wnaethon ni fonitro’r corff dyfarnu’n ofalus i sicrhau eu bod wedi cymryd camau priodol i leihau unrhyw effaith, ac i amddiffyn buddiannau dysgwyr.
Roedd mwyafrif y digwyddiadau a dderbyniwyd eleni yn ymwneud â digwyddiadau lle dosbarthodd canolfannau, neu eu bod bron â dosbarthu, bapurau asesu anghywir i ddysgwyr yn ystod sesiwn arholiadau. O’r digwyddiadau hyn, digwyddodd y mwyafrif mewn canolfannau y tu allan i Gymru, ond lle roedd nifer fach o ddysgwyr yng Nghymru o bosibl wedi cymryd y cymhwyster.
Yn ogystal, cawson ni ein hysbysu o dor-deunydd posibl ar-lein, ac o gyrff dyfarnu yn rhannu deunyddiau yn anghywir y tu allan i’r rheolaethau disgwyliedig.
Ym mhob achos, fe wnaethon ni fonitro’r camau a gymerwyd gan gyrff dyfarnu i sicrhau bod camau cymesur yn cael eu cymryd i atal neu liniaru unrhyw fynediad anawdurdodedig posibl, ac i sicrhau nad oedd y materion hyn yn cael effaith andwyol ar ddysgwyr yng Nghymru.

Cwynion
Mae Cymwysterau Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu gael gweithdrefnau effeithiol i ymdrin â chwynion, er mwyn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr a chanolfannau godi eu pryderon.
Os na chaiff pryderon o’r fath eu datrys drwy broses gwynion corff dyfarnu ei hun, gellir eu codi i ni i’w hystyried.
Eleni, cawson ni 11 cwyn newydd. O’r rhain, roedd un gwyn o fewn cwmpas ein polisi cwynion am gyrff dyfarnu. Roedd y 10 achos arall naill ai y tu allan i’n cylch gwaith i ymchwilio, neu nid oedden nhw wedi cael eu hystyried eto drwy broses gwynion y corff dyfarnu, fel sy’n ofynnol gan ein polisi cwynion.
Fe ddaeth y cais a dderbyniwyd gennym i’n sylw fel datgeliad chwythu’r chwiban. Aethon ni â’r achos hwn ymlaen drwy gynnal gwaith monitro pellach o’r corff dyfarnu dan sylw. Mae’r gwaith monitro hwnnw’n mynd rhagddo ar hyn o bryd ochr yn ochr â rheoleiddwyr eraill.
O 1 Medi 2025, fe wnaethon ni roi’r gorau i’n Gwasanaeth Adolygu Gweithdrefnau Arholi yn ei ffurf bresennol a’i ymgorffori yn ein proses gwynion. Rydyn ni eisiau gwneud y newid hwn i ddarparu mwy o eglurder i ganolfannau a dysgwyr, gan greu un broses ar gyfer pob cymhwyster lle mae dysgwr yn anfodlon â sut y mae apêl corff dyfarnu wedi cael ei thrin.
Fframwaith rheoleiddiol
Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddwyd fframwaith rheoleiddio newydd ar ffurf pecyn cymorth rhyngweithiol.
Mae ein gofynion sylfaenol wedi aros yn gymharol ddigyfnewid. Mae’r fframwaith newydd yn nodi’r rheolau rydyn ni’n eu gweithredu wrth reoleiddio cyrff dyfarnu a’r cymwysterau maen nhw’n eu datblygu, eu cyflwyno a’u dyfarnu i ddysgwyr yng Nghymru mewn fformat clir a hygyrch.
Mae’r fframwaith newydd yn dwyn ynghyd ein holl ddogfennau rheoleiddio mewn un lle ac wedi cael ei gynllunio er mwyn i gyrff dyfarnu a rhanddeiliaid ehangach gael mynediad hawdd at ein gofynion a’n canllawiau.
“Dw i’n meddwl bod gan Cymwysterau Cymru agwedd hynod dros ben ac maen nhw’n gwneud pethau eithriadol o arloesol gydag addysg plant ac oedolion ifanc.”
Cynrychiolydd Fforwm y Cyrff Dyfarnu
Cymeradwyo cymwysterau newydd
Tra bod ysgolion a cholegau wedi canolbwyntio ar eu paratoadau i addysgu ton gyntaf y Cymwysterau Cenedlaethol newydd o fis Medi 2025 ymlaen, fe wnaethon ni barhau i oruchwylio datblygu’r ail don o gymwysterau TGAU a lefel 2.
Fe wnaethon ni gymeradwyo manylebau ar gyfer 10 cymhwyster TGAU ac un cymhwyster lefel 2, gan alluogi CBAC i’w cyhoeddi flwyddyn cyn iddyn nhw gael eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2026 – y rhain yw:
• TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd
• TGAU Astudiaethau Cymdeithasol
• TGAU Cyfryngau Digidol a Ffilm
• TGAU Dawns
• TGAU Dylunio a Thechnoleg
• TGAU Gwyddoniaeth Integredig (gradd unigol)
• TGAU Hanes
• TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
• TGAU Technoleg Ddigidol
• TGAU Y Gwyddorau (dwyradd)
• Dyfarniad Lefel 2 mewn Mathemateg Ychwanegol
Rydyn ni’n hyderus bod y manylebau a ddatblygwyd ar gyfer y cymwysterau hyn yn bodloni’r disgwyliadau a nodir yn ein meini prawf cymeradwyo, yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, ac yn diwallu anghenion dysgwyr.
Rydyn ni hefyd wedi symud ymlaen â’r broses o roi cydnabyddiaeth i gyrff dyfarnu sy’n dymuno cynnig y cymwysterau TAAU, Sgiliau a Sylfaen newydd. Mae hyn yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o geisiadau a gyflwynwyd gan gyrff dyfarnu sy’n ceisio cydnabyddiaeth i ddatblygu a dyfarnu’r cymwysterau hyn.
Yn dilyn yr adolygiadau hyn, rydyn ni’n falch o gadarnhau bod wyth corff dyfarnu wedi bodloni ein holl feini prawf gofynnol yn llwyddiannus ac wedi cael cydnabyddiaeth.
Moderneiddio asesu
Mae cymhwysedd digidol wedi ei ymgorffori ym mhob rhan o’r Cwricwlwm i Gymru, gan siapio pam, beth a sut mae dysgwyr yn dysgu. Mae hyn yn cynnwys galluogi profiadau dysgwyr, er enghraifft cael mynediad at ddeunydd adnoddau hanesyddol neu fynd ar deithiau rhithwir o amgylcheddau naturiol, neu weithleoedd.
Mae gan Cymwysterau Cymru dîm moderneiddio asesu sy’n gweithio gydag eraill ar draws y gymuned cymwysterau ac asesu i archwilio’r manteision mae technolegau digidol yn gallu eu cynnig.
Mae asesiadau digidol yn gallu bod o fudd enfawr i ddysgwyr a’r system gymwysterau ehangach. Maen nhw’n gallu gwella dilysrwydd, gwella ymgysylltiad dysgwyr a gwneud asesiadau’n fwy cynhwysol. Mae Cymwysterau Cymru bob amser yn ystyried pa mor briodol a hylaw yw asesu digidol wrth sefydlu dyluniad cymwysterau newydd. Mae ymchwil a gynhaliwyd ar ein rhan gan Beaufort Research wedi amlygu cydnabyddiaeth gref ymysg rhanddeiliaid o’r manteision hyn, gan gynnwys y gallu i ymgorffori deunyddiau clyweledol a nodweddion hygyrchedd.
Er mwyn sicrhau bod dysgwyr, a darparwyr dysgu, yn gallu gwneud y defnydd gorau o’r technolegau digidol sydd ar gael iddyn nhw, rydyn ni’n ymchwilio i’w defnydd fel rhan o’r asesiadau a gymerir yn y cymwysterau rydyn ni’n eu rheoleiddio. Mae hyn wedi cynnwys archwilio cymwysiadau ehangach o dechnolegau digidol, megis eitemau prawf amlfoddol, modelau efelychiedig, a goruchwylio o bell, wrth gasglu adborth gan ddysgwyr ac ysgolion.
Mae’r gwaith hwn yn atgyfnerthu potensial sylweddol technolegau digidol i drawsnewid asesu yng Nghymru, ac rydyn ni’n parhau i fod yn ymroddedig i gydweithio â phartneriaid i wireddu’r cyfleoedd hyn.
Rydyn ni’n cydnabod bod addasu i ddefnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol yn gallu cyflwyno heriau i ysgolion o ran lle, adnoddau, hyfforddiant a gweithredu ffyrdd newydd o weithio. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, CBAC, ac awdurdodau lleol i sicrhau gweithrediad llyfn, gan gynnwys mesurau megis arholiadau sy’n gallu cael eu lawrlwytho ymlaen llaw i liniaru problemau cysylltedd.
Deallusrwydd artiffisial
Mae modelau deallusrwydd artiffisial (AI) yn dod yn fwy datblygedig ac, er ein bod ni’n bositif o ran y manteision posibl y gallai AI ei gynnig i addysgu, dysgu ac asesu, rydyn ni hefyd yn gallu gweld eu bod yn cyflwyno heriau o ran sut rydyn ni’n asesu gwybodaeth a sgiliau dysgwyr mewn ffordd ddibynadwy a theg.
Mae Cymwysterau Cymru eisiau sicrhau bod dilysrwydd ymatebion dysgwyr, ac felly uniondeb asesiadau, yn cael ei ddiogelu. Ym mis Tachwedd 2024 fe wnaethon ni gyhoeddi datganiad diwygiedig yn amlinellu ein safbwynt ar ddeallusrwydd artiffisial.
Rydyn ni wedi cymryd camau i ddeall sut y gallai argaeledd modelau AI effeithio ar gyflwyno ac asesu cymwysterau cyfredol gan gyrff dyfarnu a darparwyr dysgu. Rydyn ni hefyd yn ymgysylltu’n eang i ddeall cyfleoedd technolegau AI ar gyfer cymwysterau yn y dyfodol.
Mae hyn yn cynnwys deialog gyson ag arweinwyr AI mewn sefydliadau rheoleiddio cymwysterau eraill yn y DU, sy’n ein galluogi ni i rannu datblygiadau a gwersi sy’n berthnasol i gymwysterau a gynigir ar draws gwahanol ardaloedd y DU.
Mynediad teg drwy ddylunio
Mae’n ofynnol i gyrff dyfarnu ystyried anghenion pob dysgwr wrth ddatblygu cymwysterau. Dylid gwneud pob ymdrech i alluogi pob dysgwr i gymryd rhan yn yr asesiad cyfan, heb effeithio ar uniondeb y cymhwyster.
Gall ystyried mynediad teg yn gynnar wrth ddylunio cymhwyster neu asesiad helpu i leihau’r angen am newidiadau neu addasiadau diweddarach.
Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethon ni adolygu ein canllawiau ar fynediad teg drwy ddylunio a chyhoeddi dogfen wedi ei diweddaru ym mis Mehefin 2025. Mae’r canllawiau, a ddatblygwyd ar y cyd â CCEA Regulation, wedi eu bwriadu ar gyfer cyrff dyfarnu, ond gallen nhw hefyd fod o ddiddordeb i grwpiau anabledd, arholwyr ac aseswyr, canolfannau ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn cymwysterau cynhwysol.
Bwriad y canllawiau yw cefnogi ac ategu arfer da gan gyrff dyfarnu wrth ddylunio cymwysterau ac asesiadau, ac i hyrwyddo cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio.