Ein nod yw arwain trwy esiampl yn y ffordd rydyn ni’n rhedeg ein sefydliad, gan ystyried lles cenedlaethau’r dyfodol yn ein cynllunio, gwariant a phenderfyniadau. Rydyn ni’n ennill ymddiriedaeth trwy ymgysylltu’n hyblyg â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, trwy reoli ein hadnoddau’n gadarn, a thrwy arferion corfforaethol effeithiol a chydymffurfiol.
Rydyn ni’n ymdrechu i wneud penderfyniadau sy’n gytbwys ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Rydyn ni’n cynnal ac yn comisiynu ymchwil ac yn ymgysylltu â’r gymuned ymchwil allanol i rannu ein syniadau a dysgu gan eraill. Mae ein hamcanion lles wedi eu hymgorffori yn ein proses flynyddol i baratoi ein cynllun busnes, cyllideb a dyraniad adnoddau. Mae’r adnoddau ariannol a phobl rydyn ni’n eu neilltuo i’n timau yn anelu at fynd i’r afael ag anghenion tymor hwy, ochr yn ochr â diogelu’r system a gwerth cymwysterau yn y dyfodol.
Mae lles ein gweithwyr yn hanfodol i’n llwyddiant. Rydyn ni’n meithrin diwylliant cynhwysol o berthyn lle mae pobl yn teimlo bod y sefydliad yn eu gwerthfawrogi nhw fel unigolion, yn gwerthfawrogi eu gwahaniaethau ac yn gwneud defnydd da o’r ystod o brofiadau a mewnwelediadau sydd ar gael.
Mae ein strategaethau a’n cynlluniau corfforaethol yn cefnogi agweddau penodol ar y dangosyddion llesiant cenedlaethol. Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol a’n cynllun gweithredu gwrth-hiliol yn cefnogi Cymru fwy cyfartal, mae ein strategaeth y Gymraeg yn cefnogi Cymru â diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy’n ffynnu, ac mae ein cynllun lleihau carbon yn cefnogi Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang.
Gweithio gyda chanolfannau
Mae cefnogi canolfannau, a swyddogion arholiadau yn benodol, yn dasg barhaus mewn unrhyw flwyddyn academaidd. Fe wnaethon ni ddechrau’r gefnogaeth honno ym mis Medi 2024 gyda’n Cynhadledd Swyddogion Arholiadau Cymru flynyddol.
Mae’r digwyddiad ar-lein hwn, sy’n para wythnos, yn hynod o boblogaidd gydag ysgolion a cholegau, gan ddarparu gwybodaeth allweddol i staff ar ofynion gweithredol arholiadau ac asesiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyfraniadau gan CBAC, Pearson, y Cyngor Cydweithredol ar gyfer Cymwysterau ac amrywiaeth o staff yn Cymwysterau Cymru. Roedd 331 o fynychwyr cofrestredig o 210 o ganolfannau, yn cynrychioli 71% o’r holl ysgolion uwchradd a 91% o’r holl golegau addysg bellach.
Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethon ni hefyd reoli a chynnal ein Hwb Swyddogion Arholiadau Cymru – porth ymgysylltu penodol, sydd bellach â mwy na 500 o aelodau. Mae’r hwb yn rhoi cyfle i swyddogion arholiadau cofrestredig rannu arfer effeithiol a chreu rhwydwaith ar y cyd. Yn ogystal â hyn, fe wnaethon ni gyflwyno chwe gweminar yn ystod y flwyddyn gyda chyngor manwl ar bob agwedd ar y system arholiadau ar gyfer swyddogion arholiadau newydd a sefydledig.
Rydyn ni’n parhau i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb ar ôl cyfres arholiadau’r haf, gan ddod â rhwydweithiau ardal leol ynghyd ym mhob rhanbarth o’r wlad. Ym mis Gorffennaf 2025, fe wnaethon ni gynnal 13 o’r cyfarfodydd hyn gyda chydweithwyr o 132 o ysgolion a cholegau. Darparodd y cyfranogwyr wybodaeth ac adborth ar nifer o faterion datblygol, gan gynnwys amserlennu arholiadau, trefniadau mynediad a pharodrwydd digidol.
Mae ymgysylltu ag uwch arweinwyr mewn canolfannau hefyd yn allweddol. Rydyn ni’n cynnal hyn drwy ymgysylltu bob tymor â phenaethiaid a phrifathrawon sy’n ffurfio ein Grŵp Cyfeirio Arweinwyr Ysgolion a Cholegau. Mae’r grŵp yn ein galluogi ni i rannu cynnydd a mewnwelediadau ar elfennau allweddol o’n gwaith a chlywed yn uniongyrchol ganddyn nhw am faterion ehangach y maen nhw’n eu hwynebu.
“Diolch am drefnu’r digwyddiadau hyn. Mae hi mor braf cwrdd wyneb yn wyneb â swyddogion arholiadau eraill.”
Cynrychiolydd Cynhadledd Swyddogion Arholiadau Cymru
Gweithio gydag addysg bellach
Yn nhymhorau’r hydref a’r gwanwyn, fe wnaethon ni gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda chydweithwyr uwch ym mhob coleg addysg bellach yng Nghymru i drafod cymwysterau cyfredol, diwygiadau cymwysterau, adolygiadau sector a chyhoeddiadau allweddol.
Nid yn unig y mae’r trafodaethau hyn yn cynnig cipolwg amhrisiadwy ar brofiadau staff colegau a dysgwyr ôl-16 o gymwysterau a’r system gymwysterau ehangach, ond maen nhw hefyd yn llywio ac yn siapio cyfeiriad ein gwaith.
Yn ogystal â’n Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cymwysterau Galwedigaethol a gyfarfu bob tymor ar draws y flwyddyn academaidd, fe wnaethon ni hefyd gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i drafod meysydd o ddiddordeb cyffredin ynghylch materion addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Mae cynrychiolwyr o addysg bellach hefyd yn cymryd rhan yn ein grwpiau cymwysterau sector.
Yn ogystal, rydyn ni wedi croesawu’r cyfleoedd i gyfarfod yn rheolaidd ag aelodau rhwydweithiau a fforymau ColegauCymru i drafod a derbyn adborth ar agweddau ar gymwysterau ac asesiadau. Rydyn ni’n gwerthfawrogi didwylledd ac arbenigedd pawb sydd wedi ymgysylltu â ni, sy’n golygu ein bod wedi mireinio a gwella ein hagwedd tuag at nifer o weithgareddau.
Gweithio gydag addysg uwch
Mae ein Grŵp Rhanddeiliaid Addysg Uwch yn chwarae rhan allweddol wrth siapio a dylanwadu ar ein gwaith parhaus gyda’r sector addysg uwch.
Cyfarfu’r grŵp, sy’n dwyn ynghyd staff o 20 o brifysgolion a sefydliadau cynrychioliadol ledled y DU, dair gwaith drwy gydol y flwyddyn academaidd, gan ddarparu fforwm ar gyfer deialog ac archwilio blaenoriaethau allweddol sy’n ymwneud â dilyniant dysgwyr i addysg uwch.
Mae’r mewnbwn gan aelodau’r grŵp hwn wedi helpu i feithrin dealltwriaeth ehangach o’n diwygiadau 14-16, yn ogystal â helpu gyda datblygiad ein canllaw Derbyniadau Addysg Uwch cynhwysfawr i Gymwysterau yng Nghymru.
Nod y canllaw hwn yw sicrhau bod sefydliadau addysg uwch ledled y DU yn deall tirwedd newidiol cymwysterau yng Nghymru. Byddwn ni’n parhau i ddiweddaru cynnwys y canllaw bob blwyddyn wrth i gymwysterau newydd gael eu datblygu a’u cyflwyno.
Rydyn ni hefyd wedi parhau i adeiladu ar ein cysylltiadau cryf ag UCAS trwy eu grwpiau rhanbarthol a fe wnaethon ni gwrdd ag amrywiaeth o staff derbyniadau yng nghynhadledd flynyddol UCAS ym mis Mai 2025.
“Rwy’n teimlo ein bod ni’n cydweithio o ran dylunio a chyflawni. Mae cyfleoedd gyda ni i rannu barn a chwrdd â staff allweddol.”
Michell Hiller-Forster, Coleg Caerdydd a’r Fro
Cynnwys dysgwyr, rhieni a gwarcheidwaid
Mae rhoi dysgwyr wrth wraidd ein gwaith yn ein helpu ni i siapio cymwysterau sy’n diwallu anghenion defnyddwyr cyfredol a defnyddwyr y dyfodol.
Cyfarfu ein Panel Dysgwyr sefydledig bum gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Fe wnaethon nhw roi mewnbwn amhrisiadwy i ni ar ein gwaith ar y Cymwysterau Cenedlaethol, ac ar gynnwys a dyluniad ein hadnoddau teithiau dysgwyr newydd ar gyfer cymwysterau galwedigaethol.
Rhoddodd ein llysgenhadon dysgwyr brofiadau uniongyrchol hefyd o ofynion cyrsiau mynediad prifysgolion ac adborth ar ein strategaeth y Gymraeg a chyfres arholiadau’r haf. Rydyn ni wedi parhau i ymgysylltu â dysgwyr mewn amrywiaeth o leoliadau eraill, gan gynnwys trwy ymweld ag ysgolion, arolygon ac yn ein digwyddiadau haf gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Datblygiad newydd eleni fu sefydlu ein Fforwm Rhieni a Gofalwyr. Bwriad y fforwm yw rhoi cyfle i rieni a gofalwyr rannu eu syniadau a’u barn gyda ni.
Bydd cael dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau teuluoedd â chymwysterau diwygiedig yn adborth pwysig wrth i’r broses o gyflwyno’r Cymwysterau Cenedlaethol barhau.
“Dw i wedi mwynhau gwrando ar safbwyntiau pobl eraill a chyfrannu fy marn fy hun. Mae’n wych gwybod bod gen i ddylanwad.”
Alaw Charles, Llysgennad Dysgwyr
Ymgysylltiad cyhoeddus
Er mwyn cynnal hyder y cyhoedd yn y system gymwysterau, mae’n hanfodol ein bod yn ymgysylltu’n rheolaidd ac yn gyson â’n holl gynulleidfaoedd.
Rydyn ni’n egluro pwrpas ac effaith ein gwaith trwy ystod eang o weithgareddau a sianeli gan gynnwys ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, gwybodaeth ar ein gwefan, sylw yn y cyfryngau a digwyddiadau wyneb yn wyneb, gan gynnwys ymweld ag ysgolion a cholegau addysg bellach.
Drwy gydol y flwyddyn, fe gyhoeddon ni amserlen brysur o gyhoeddiadau, straeon a blogiau ar ein gwefan, yn cwmpasu ein holl weithgareddau rheoleiddio a diwygio, gan gynnwys ein cyhoeddiad canlyniadau haf a gafodd ei weld dros 2,000 o weithiau.
Mae’r defnydd o’n platfform ymgysylltu pwrpasol Dweud Eich Dweud wedi parhau i gynyddu wrth i ni annog ymarferwyr i ymgysylltu’n uniongyrchol â ni ar ein hymgynghoriadau a’n harolygon. Mae’r mewnwelediad uniongyrchol hwn yn amhrisiadwy er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ystyried llais athrawon wrth wneud penderfyniadau.
Er ein bod yn parhau i dyfu ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, mae cyfarfod â’n cynulleidfaoedd wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Drwy ein stondin yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol yn unig eleni fe wnaethon ni ymgysylltu wyneb yn wyneb â bron i 5,000 o ddysgwyr, rhieni a gofalwyr, ac athrawon ynglŷn â’n hymgynghoriadau a chyflwyno’r Cymwysterau Cenedlaethol.
Mae’r ymgysylltiad uniongyrchol hwn yn ein galluogi ni i geisio adborth wyneb yn wyneb, yn syth ar bob agwedd ar ein gwaith, ac rydyn ni’n ei ddefnyddio i lywio ein gwaith cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Adroddiadau ymchwil 2024-25
Mae ein gweithgareddau ymchwil yn darparu sylfaen dystiolaeth i lywio ein penderfyniadau rheoleiddio a pholisi. Mae adroddiadau ymchwil diweddar yn ymdrin â phynciau megis asesu digidol a defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) mewn cymwysterau, hyder rhanddeiliaid a’r cyhoedd, a dylunio cymwysterau.
Asesu parhaus: Ymchwil i ddefnyddio asesu parhaus ar gyfer canlyniadau lle mae llawer yn y fantol
Edrychodd AlphaPlus Consultancy ar sut mae asesu parhaus yn gweithio a rôl technoleg ddigidol. Fe archwilion nhw enghreifftiau o asesu parhaus crynodol mewn systemau cenedlaethol neu awdurdodaethol, gan gynnwys technoleg ddigidol. Fe wnaethon nhw hefyd nodi cyfleoedd i ddefnyddio asesu parhaus digidol mewn cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol.
Asesu digidol a Deallusrwydd Artiffisial mewn cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru
Astudiaeth a archwiliodd farn rhanddeiliaid ar asesu digidol a deallusrwydd artiffisial mewn cymwysterau, a gweithredu’r cynnig cymwysterau 14-16 newydd.
Dewisiadau ymchwil ar gyfer archwilio paramedrau dylunio allweddol TGAU
Adroddiad terfynol prosiect ehangach ar osod safonau mewn cymwysterau TGAU yng Nghymru. Mae’n amlinellu dewisiadau ymchwil pe bai Llywodraeth Cymru byth yn dymuno archwilio dull sy’n cyfeirio at feini prawf ar gyfer gosod safonau ar gyfer cymwysterau TGAU.
Arolwg o Farn y Cyhoedd am Gymwysterau nad ydynt yn Radd yng Nghymru 2024
Arolwg blynyddol gan Beaufort Research sy’n mesur hyder mewn cymwysterau nad ydynt yn radd yng Nghymru a’r system gymwysterau.
Mae’r astudiaethau hyn yn darparu tystiolaeth i arwain blaenoriaethau uniongyrchol a phenderfyniadau polisi hirdymor, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i ddeall y materion sy’n siapio ymddiriedaeth, tegwch a safonau yn y system gymwysterau.
Ystadegau swyddogol
Bob blwyddyn, rydyn ni’n cyhoeddi cyfres o ystadegau swyddogol gan ddefnyddio data a gasglwyd gan gyrff dyfarnu a Llywodraeth Cymru.
Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth o gyhoeddiadau sy’n dilyn cylch arholiadau ac asesiadau TGAU, UG a Safon Uwch o gofrestriadau dros dro i ddadansoddi canlyniadau a gwasanaethau ôl-ganlyniadau, megis adolygiadau o waith marcio a chymedroli ac apeliadau.
Cyhoeddwyd ystadegau chwarterol hefyd ar dystysgrifau mewn cymwysterau galwedigaethol, ac eleni diweddarwyd cynnwys ein hadroddiad blynyddol ar y farchnad gymwysterau i wella cydlyniant a pherthnasedd y cyhoeddiad.
Mae cofnod llawn o’n holl gyhoeddiadau ystadegau swyddogol cyfredol a blaenorol ar gael ar ein gwefan.
Llesiant gweithwyr
Rydyn ni eisiau sicrhau bod Cymwysterau Cymru yn lle gwych i weithio sy’n galluogi ein gweithwyr i fod yn hapus ac yn effeithiol yn eu gwaith. Mae ein harolwg staff blynyddol yn un o’n mesurau allweddol.
Yn 2024, fe wnaethon ni gyflawni cyfradd ymgysylltu o 75%, gydag 85% o’n gweithwyr yn cytuno y bydden nhw’n argymell Cymwysterau Cymru fel lle gwych i weithio.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, cyflwynwyd polisïau newydd ar gyfer absenoldeb gofalwyr a’r menopos, er mwyn darparu cefnogaeth i unrhyw weithwyr sy’n profi cyfnodau heriol. Sefydlwyd grŵp menopos i gynnig man cyswllt, a darparwyd hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth.
Ym mis Medi 2024, lansiwyd ein pum piler llesiant, sydd wedi llywio strategaeth pobl newydd y sefydliad. Mae rhwydwaith llesiant ein staff yn hyrwyddo mentrau iechyd a lles ac yn hwyluso cyflawni ein cyfraniadau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Eleni, rydyn ni wedi cefnogi Llamau ac Ambiwlans Awyr Cymru fel ein helusennau enwebedig. Mae gweithwyr wedi gwirfoddoli gyda Cadwch Gymru’n Daclus a Cyfeillion Rabbit Hill i wella ardal Dyffryn yng Nghasnewydd, sy’n lleol i’n swyddfa.
Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda Cymunedau am Waith yng Nghasnewydd i sefydlu cynllun lleoliadau gwaith, sy’n rhoi profiad gweinyddol ac yn meithrin hyder ymysg pobl sy’n chwilio am waith.
Rydyn ni’n cefnogi datblygiad staff a dysgu proffesiynol, gyda gweithwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau, yn mynychu cynadleddau neu’n dysgu sgiliau newydd sy’n uniongyrchol berthnasol i’w rôl. Fe wnaethon ni hefyd archwilio manteision defnyddio meddalwedd Microsoft Copilot i’n helpu i weithio mewn ffyrdd mwy effeithlon ac i ddatblygu ein defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn ffordd foesegol.
Cydraddoldeb, cynnwys, perthyn
Mae Cymwysterau Cymru wedi ymrwymo i degwch, cynhwysiant a hyrwyddo amrywiaeth, yn y ffordd rydyn ni’n gweithredu fel sefydliad a’r dylanwad sydd gennym ar gyrff dyfarnu cydnabyddedig trwy ein rôl reoleiddio.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 yn amlinellu ein hamcanion cydraddoldeb a sut rydyn ni’n bwriadu cyflawni ein hymrwymiadau cydraddoldeb.
Rydyn ni’n gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac wedi darparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth i staff ac aelodau’r bwrdd. Mae aelodau’r bwrdd hefyd wedi mentora unigolion ar raglen mynediad i’r bwrdd a drefnwyd gan grŵp o ymddiriedolaethau tai.
Rydyn ni wedi sefydlu llysgenhadon cydraddoldeb o bob rhan o’r sefydliad. Mae hyn yn helpu i feithrin gwybodaeth a monitro ein perfformiad mewn perthynas â’n hamcanion cydraddoldeb a gwrth-hiliaeth. Rydyn ni’n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol. Mae gennym ein cynllun gweithredu gwrth-hiliol ein hunain ac rydyn ni wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol.
Mae ein dull cynhwysol o ymgysylltu yn rhan hanfodol o’n gwaith. Rydyn ni’n parhau i chwilio am ffyrdd newydd o gyfathrebu â grwpiau ac unigolion dan anfantais i ddylanwadu ar ein polisïau a’n penderfyniadau yn ôl yr angen. Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod ein cyhoeddiadau yn gynhwysol yn weledol. Mae ein hadroddiad blynyddol ar gydraddoldeb yn crynhoi sut rydyn ni wedi cyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb fel cyflogwr.
“Roedden ni’n falch o gael y cyfle i rannu gyda Cymwysterau Cymru ganfyddiadau ein hymchwil diweddar ynghylch hiliaeth mewn ysgolion ac i gydweithio i gydnabod mai ein cyfrifoldeb ni fel cymuned ac fel unigolion yw herio hiliaeth systemig ar draws addysg.”
Kate Powell, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth
Partneriaeth gymdeithasol
Mae Cymwysterau Cymru a’n cangen undeb PCS wedi gweithio’n gadarnhaol mewn partneriaeth ers ein sefydlu ddegawd yn ôl.
Mae cadeirydd ac ysgrifennydd cangen yr undeb yn cyfarfod ag uwch reolwyr mewn cyfarfodydd fforwm partneriaeth chwarterol. Fe’u gwahoddir hefyd i roi mewnbwn i gynllunio sefydliadol a negeseuon i staff, i ymgynghori ag aelodau ar bolisïau ac i rannu ein harfer sefydliadol mewn digwyddiadau allanol.
Mae’r ffordd sefydledig hon o weithio yn unol â disgwyliadau Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) newydd, sy’n nodi y dylai cyrff cyhoeddus ac undebau llafur gydweithio i sicrhau gwaith teg yng Nghymru ac i geisio consensws ar amcanion lles y sefydliad a’u cyflawni fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015).
Rydyn ni’n ymgysylltu â menter Llywodraeth Cymru i bartneru â sefydliadau eraill i rannu arfer effeithiol.
“Mae’r bartneriaeth gref rydyn ni’n parhau i’w datblygu yn Cymwysterau Cymru yn ein galluogi ni i weithio’n gydweithredol ac yn llwyddiannus tuag at y nodau llesiant.”
Ceri Phillips, Cadeirydd, cangen undeb PCS
Lleihau carbon
Mae Cymwysterau Cymru wedi ymrwymo i gefnogi uchelgeisiau sero net Llywodraeth Cymru, gan anelu at niwtraliaeth carbon yn y sector cyhoeddus erbyn 2030.
Rydyn ni’n olrhain ein hôl troed carbon yn flynyddol, gan ganolbwyntio ar adeiladau, symudedd a chaffael. Mae ein cyfanswm allyriadau wedi gostwng yn sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf. Mae’r gostyngiadau hyn wedi cael eu cyflawni trwy weithio hybrid, trwy uwchraddio sy’n effeithlon o ran ynni, a thrwy leihau gwastraff.
Fe gyflwynon ni ein cynllun lleihau carbon newydd yn 2025, sy’n nodi cyfrifoldebau ar draws pob rhan o’n sefydliad.
Mae hyn yn cynnwys nodi ffyrdd o annog cyflenwyr i leihau effaith mewn cyfleoedd tendro, neu ofyn i gyflenwyr adrodd ar eu dull o leihau carbon fel gofyniad cytundebol. Rydyn ni hefyd yn trafod lleihau carbon gyda chyrff dyfarnu yn ein cyfarfodydd diweddaru rheoleiddiol.
Rydyn ni wedi lleihau ein defnydd o drydan ers dechrau’r degawd ac wedi newid i gytundeb trydan ynni gwyrdd y llynedd.
Rydyn ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer gosod gwefrwyr cerbydau trydan ar
safle ein swyddfa yng Nghasnewydd ac yn edrych ar ba mor ymarferol yw hi i osod paneli solar.
Cyllid
Rydyn ni’n cael ein hariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru. Ein cyllid refeniw craidd ar gyfer blwyddyn ariannol 2025–26 yw £10.535 miliwn a chawson ni ddyraniad cyllid cyfalaf o £250,000.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, dyrannwyd £200,000 i ni hefyd, a oedd wedi ei gynnwys yn ein cyllid craidd, i gefnogi cymwysterau Cymraeg i Oedolion.
Rydyn ni’n parhau i ddarparu gwasanaethau cymorth technoleg gwybodaeth i ddau
gorff arall a noddir gan Lywodraeth Cymru ac yn disgwyl cynhyrchu incwm o tua £50,000 o’r gwaith hwnnw. Rydyn ni’n rhagweld y byddwn ni’n rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaeth hwn i un o’r cyrff a noddir, ac felly bydd hyn yn cael ei leihau ar gyfer 2026–27.
Mae cyfran ein cyllideb sydd wedi ei ddyrannu i gyflogau staff yn parhau i gynyddu, gyda chyllidebau nad ydyn nhw’n gysylltiedig â chyflogau bellach yn cynrychioli dim ond 22% o’r cyfanswm, i lawr o 25% mewn blynyddoedd blaenorol.
O ystyried y pwysau parhaus i ariannu cynnydd mewn costau sy’n gysylltiedig â chyflogau, disgwylir i’r duedd hon barhau.
Oherwydd pwysau cyllidebol parhaus, byddwn ni’n parhau i fonitro a diweddaru ein model gweithredu hirdymor i sicrhau bod pwysau costau blynyddol yn cael eu rheoli’n effeithiol. Bydd hyn yn ein galluogi i gynnal gwariant hanfodol a pharhau i gyflawni ein blaenoriaethau allweddol.

Caffael
Rydyn ni’n dilyn egwyddorion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod ein holl benderfyniadau gwario yn rhoi gwerth am arian.
Pan fyddwn ni’n caffael nwyddau a gwasanaethau, rydyn ni’n adolygu ein dull a’n hamodau ac yn ystyried a allwn ni wneud arbedion effeithlonrwydd pellach neu wireddu buddion ehangach.
Rydyn ni’n parhau i gyflawni arbedion — cyfanswm o £36.5k ar gyfer blwyddyn ariannol 2024–2025. Fe wnaethon ni ailgaffael ein cytundeb trydan gan arwain at arbediad o £21k yn seiliedig ar ddefnydd gwirioneddol.
Mae rhai o’r arbedion parhaus mwy sylweddol, sy’n seiliedig ar gytundebau a ddyfarnwyd yn flaenorol, yn tarddu o gyfieithiadau a deunydd argraffedig. Mae arbedion eraill wedi cael eu cyflawni trwy gytundebau ar gyfer ffonau symudol, gwasanaethau cyfreithiol, archwilio mewnol,
gwasanaethau rheoli cyfleusterau ac yswiriant.
Rydyn ni’n parhau i ddiweddaru ein polisïau a’n gweithdrefnau i adlewyrchu deddfwriaeth berthnasol gan gynnwys Deddf Caffael 2023, Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 a’r ddyletswydd caffael gymdeithasol gyfrifol yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
Mae’r ddyletswydd honno i ddod i rym yn 2026 er ein bod eisoes yn ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cytundebau perthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys lleihau ôl troed carbon ein contractwyr, annog cynigion gan fusnesau bach a chanolig a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, a hyrwyddo cyfle cyfartal a gwaith teg yn ein cadwyni cyflenwi.
Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod contractwyr yn talu’r cyflog byw go iawn i’w gweithwyr ac is-gontractwyr.