Cyflwyniad

Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu ein gweithwyr o'r diwrnod cyntaf. Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, rydyn ni’n cynnig 30 diwrnod o wyliau blynyddol, trefniadau gweithio hyblyg ac aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Buddion

Gweithio hybrid
Rydyn ni’n cynnig gweithio hybrid i'n holl weithwyr, gan ganiatáu iddyn nhw gydbwyso eu hwythnos waith rhwng y cartref a'r swyddfa.

Gwyliau blynyddol
Mae ein gweithwyr llawn amser yn derbyn 30 diwrnod o wyliau blynyddol, wyth gŵyl banc a hyd at dri diwrnod ychwanegol ar gyfer cau rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Gweithio hyblyg
Rydyn ni’n gwerthfawrogi pwysigrwydd cydbwysedd bywyd/gwaith ac yn gweithredu cynllun gweithio hyblyg i weithwyr. Rydyn ni hefyd yn ystyried ceisiadau am weithio hyblyg ffurfiol, os yw'r patrwm gweithio yn gweddu i anghenion y busnes.

Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Mae gan weithwyr hawl i ddod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Rydyn ni’n ceisio cefnogi ein gweithwyr drwy gynnig absenoldeb a chyflog mamolaeth, tadolaeth, rhannu absenoldeb rhiant a mabwysiadu hael.

Iechyd a lles
Rydyn ni’n ceisio hyrwyddo ac annog lles yn y gwaith. Er mwyn cefnogi pob agwedd ar les, mae ein gweithwyr yn gallu manteisio ar y canlynol:

  • rhaglen cymorth i weithwyr - sy’n cynnig gwasanaethau fel cefnogaeth emosiynol, cwnsela a mynediad at gynghorwyr arbenigol
  • darpariaeth gofal llygaid - sy'n caniatáu i weithwyr gael prawf llygaid am ddim ynghyd â dewis cyfyngedig o fframiau
  • Iechyd galwedigaethol - sy’n rhoi cyngor ar faterion cyn lleoli/ffitrwydd ar gyfer gweithio, cymorth dychwelyd i’r gwaith, neu gyngor pan fo gan weithwyr bryderon iechyd eraill.

Mae ein grŵp gweithwyr, QWEST, yn cefnogi mentrau lles a chydraddoldeb sy'n cael eu cynnal ar draws y sefydliad.

CSSC Sports and Leisure
Mae ein gweithwyr yn gymwys i ymuno â CSSC - sefydliad aelodaeth ar gyfer gweision sifil a gweithwyr yn y sector cyhoeddus - sy'n darparu ystod enfawr o gyfleoedd chwaraeon, hamdden, iechyd a manwerthu i'w aelodau.

Tanysgrifiadau proffesiynol
Er mwyn dangos ein hymrwymiad i statws proffesiynol ein gweithwyr, rydyn ni’n talu eu tanysgrifiadau proffesiynol os ydyn nhw’n berthnasol i’w rôl.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydyn ni’n cyflogi ac yn gwobrwyo'r dalent orau, waeth beth fo'u rhywedd, hil, tarddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol neu oedran. A dyna sut rydyn ni’n chwilio am dalent y dyfodol hefyd, gan recriwtio o'r gronfa ehangaf sydd ar gael.

Mae ein dull o recriwtio a dewis yn deg, yn agored ac yn seiliedig yn gyfan gwbl ar deilyngdod, ac rydyn ni’n cydymffurfio â'r dyletswyddau cyffredinol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae enghreifftiau o’n dull yn cynnwys:

  • dyluniad ein swyddfa
  • ein harferion recriwtio
  • safonau dylunio ein gwefan
  • sut mae ein digwyddiadau yn cael eu trefnu
  • trafod â grwpiau cynrychioliadol i gefnogi datblygu amgylchedd gwaith cynhwysol.

Rydyn ni’n gyflogwr hyderus o ran anabledd ac rydyn ni wedi derbyn safon aur Cyflogwr Chwarae Teg gan Chwarae Teg.

Dysgu a datblygu

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu ein gweithwyr o'r diwrnod cyntaf. Ein nod yw eu cefnogi drwy gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu perthnasol a fydd yn helpu eu gyrfa. Gall hyn gynnwys ariannu cyrsiau neu gymwysterau allanol. Gall hyn amrywio o gyrsiau hyfforddi sgiliau meddal a gaiff eu cynnal yn fewnol i hyfforddiant technegol a nawdd ar gyfer cymwysterau proffesiynol.

Rydyn ni’n darparu hyfforddiant i’r sefydliad cyfan ac i unigolion. Dyma enghreifftiau o'r hyfforddiant rydyn ni wedi ei ddarparu:

  • hyfforddiant uwch ar asesiadau rheoleiddio
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • hyfforddiant ar gydraddoldeb
  • cyllid
  • caffael.

Rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill a gaiff eu noddi gan Lywodraeth Cymru i gaffael, datblygu a darparu rhaglenni arwain a rheoli i’n staff. Nod y rhaglenni hyn yw diwallu anghenion ein gweithwyr a meithrin cysylltiadau ar draws y sector.

Lle rydyn ni’n gweithio

Mae ein swyddfeydd yng Nghasnewydd yn olau ac yn apelgar, gan alluogi gweithwyr i gysylltu a chydweithio mewn man cynllun agored a hamddenol. Mae'n amgylchedd sy'n annog y gorau yn ein timau, ac sydd hefyd yn caniatáu inni gydweithio'n hyblyg â'n rhanddeiliaid.

Sut rydyn ni'n gweithio

Fel sefydliad, rydyn ni’n parhau i ddatblygu ein cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Mae hyn yn golygu bod y sefydliad cyfan yn cymryd rhan mewn gwaith gwirfoddoli lleol neu weithgareddau corfforaethol.

Mae’r rhain wedi cynnwys:

  • casglu sbwriel yn y gymuned (ar y cyd â Grŵp Cymunedol Celtic Horizons)
  • boreau coffi a gwerthu cacennau er mwyn codi arian i Macmillan, Bloodwise a Phlant Mewn Angen
  • rhoddion banc bwyd i Ymddiriedolaeth Raven House
  • casglu teganau Nadolig i deuluoedd yng Nghasnewydd
  • gweithio gyda Re-engage i ddarparu te prynhawn ac adloniant i bobl unig ym mhob rhan o dde Cymru
  • ymwneud â Help the Homeless yng Nghasnewydd, gan helpu yn eu canolfan, rhoi llond bocsys esgidiau o eitemau hanfodol a rhoi cotiau ar gyfer ymgyrch gaeaf Wrap Up Newport
  • Gweithgareddau eraill i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol
  • darllen erthyglau a straeon newyddion i Sight Cymru.

Gweithgareddau hamdden a chymdeithasol

Rydyn ni’n trefnu nifer o weithgareddau eraill drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain yn amrywio o ymdrechion ffitrwydd traws-sefydliadol i weithwyr yn ymgymryd â her y Tri Chopa a Hanner Marathon Caerdydd.