Cyflwyniad
Mae ein system addysg yn ganolog i ddyfodol ein cenedl. Mae'n hanfodol creu Cymru lewyrchus gyda rhagor o gydraddoldeb o ran cyfle, diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy'n ffynnu.
Mae cymwysterau - a hyder pobl ynddyn nhw - yn sylfaenol i'r llewyrch hwnnw.
Cymwysterau Cymru yw’r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau heblaw rhai lefel gradd yng Nghymru sy’n cael eu cynnig gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig. Rydyn ni am i bawb yng Nghymru fod yn hyderus bod y cymwysterau a gaiff eu hennill gan ein dysgwyr yn deg, bod modd ymddiried ynddyn nhw a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Yr un mor bwysig i gynnal yr hyder hwnnw yw llunio sut y bydd cymwysterau yn bodloni anghenion dysgwyr yn y dyfodol - ac mae hynny'n rhan o'n rôl ni hefyd.
Bwriad ein blaenoriaethau strategol yw creu system gymwysterau gryfach, fwy cadarn a mwy gwydn sy'n bodloni anghenion cenedlaethau'r dyfodol.
Ein rôl ni
Rydyn ni’n gorff statudol annibynnol sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy'n atebol i bobl Cymru drwy Senedd Cymru.
Cawsom ni ein sefydlu fel rheoleiddiwr drwy ddeddfwriaeth yn Neddf Cymwysterau Cymru 2015 a chaiff ein gweithgareddau eu goruchwylio gan fwrdd a gaiff ei benodi yn gyhoeddus.
Mae ein rôl yn ehangach na rôl rheoleiddiwr cymwysterau confensiynol. Mae gennym ni bwerau ychwanegol i gomisiynu cymwysterau newydd ac i gyfyngu ar yr ystod o gymwysterau a gaiff eu cynnig. Rydym hefyd yn cefnogi asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r system gymwysterau drwy roi grantiau penodol.
Mae gennym ni ddiddordeb yn y potensial ar gyfer arloesi o fewn cymwysterau a'r system gymwysterau i fodloni gofynion y dyfodol. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n chwilio am gyfleoedd i fod yn arloesol ein hunain ac yn dymuno cefnogi cyrff dyfarnu pan fyddan nhw’n arloesi.
Mae llawer o fanteision i'r rôl estynedig hon, ond wrth ymgymryd â'r math yma o waith, byddwn ni bob amser yn ystyried yr effaith bosibl ar ein rôl reoleiddio graidd.
Ein gwaith
Rydyn ni’n cynnal hyder yn y cymwysterau rydyn ni’n eu rheoleiddio drwy sicrhau eu bod yn deg, yn werthfawr ac yn ddibynadwy yng Nghymru a thu hwnt.
Dyma ein prif nodau:
- sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol ar gyfer bodloni anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru
- hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru
Rydyn ni’n cyflawni'r rhain drwy:
- osod rheolau ar gyfer cyrff dyfarnu cydnabyddedig er mwyn sicrhau eu bod yn darparu cymwysterau sy'n adlewyrchu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth pob dysgwr yn gywir
- llunio ystod a chynllun y cymwysterau a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru
- gwneud yn siŵr bod cymwysterau'n bodloni anghenion dysgwyr
- gweithio'n agos gyda'r gymuned addysg ehangach a chynnwys pobl a sefydliadau Cymru yn ein gwaith
Ein gweledigaeth
Ein bwriad yw sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn gallu cymryd y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i'w helpu i symud ymlaen mewn bywyd, dysgu a gwaith.
Rydyn ni am weld system gymwysterau sy'n cynnwys:
- ystod gynhwysol a chynaliadwy o gymwysterau perthnasol
- asesiadau modern a chadarn sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr
- cyfleoedd ar gyfer cyflwyno profiadau dysgu o safon
- asesiadau yn Gymraeg a Saesneg
- cofnod ystyrlon a theg o gyflawniad
- seilwaith arbenigol, integredig, effeithlon a chynhwysol
Ein gwerthoedd
Rydyn ni'n gwireddu ein gweledigaeth drwy fod yn:
- gydweithredol o ran sut rydyn ni’n gweithio
- ystyriol o ran y dulliau rydyn ni’n eu defnyddio
- cadarnhaol yn ein hagwedd
- dysgu o brofiad ac oddi wrth eraill
Rydyn ni’n ymgysylltu ac yn cynnwys pobl a sefydliadau Cymru wrth ddatblygu cymwysterau ar bob cam trwy:
- wahodd, gwrando ac ymateb i farn dysgwyr a rhanddeiliaid, a chynnal cysylltiadau effeithiol gyda nhw
- creu ymgynghoriadau tryloyw ac ystyrlon
- tynnu ar arbenigedd a gwybodaeth rhanddeiliaid
- cynhyrchu gohebiaeth glir, addysgiadol ac amserol, rydyn ni’n ei adolygu'n rheolaidd er mwyn gwneud gwelliannau
- gweithio gyda rheoleiddwyr eraill
- cynnal asesiadau effaith rheoleiddiol i asesu’r costau, y buddion a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’n polisïau a’n camau gweithredu