Cynllun cyhoeddi

Mae Cymwysterau Cymru’n gorff sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawliau mynediad cyhoeddus i wybodaeth sy'n cael ei chofnodi a'i chadw gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Cymwysterau Cymru. Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn annog awdurdodau cyhoeddus i fynd ati’n rhagweithiol i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i'r cyhoedd. Ei nod yw hyrwyddo diwylliant o fod yn agored ac atebol ymhlith cyrff y sector cyhoeddus a gwella dealltwriaeth o sut mae awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau, yn gwneud penderfyniadau, ac yn gwario arian cyhoeddus.

 

Mae'r Cynllun Cyhoeddi hwn yn ganllaw i'r wybodaeth a gyhoeddir fel mater o drefn gan Cymwysterau Cymru, sut mae'r wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi ac a oes unrhyw ffi yn daladwy am gael mynediad i’r wybodaeth.

 

Os hoffech gyflwyno cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu os oes gennych ymholiad yn ymwneud â'r Cynllun Cyhoeddi, cysylltwch â:

Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Parc Imperial
Lôn Pencarn, Coedcernyw
Casnewydd, NP10 8AR

01633 373222

llywodraethugwybodaeth@cymwysterau.cymru

 

Efallai na fydd Cymwysterau Cymru yn gallu darparu gwybodaeth y gofynnir amdani o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth os yw wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu neu wedi’i diogelu o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Rhyddid Gwybodaeth

Rydym yn cyhoeddi ein hymatebion Rhyddid Gwybodaeth yn rheolaidd. Gallwch ddod o hyd i'r rhain yn ein log datgelu.