Bydd arholiadau’n cael eu cynnal yn yr haf ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, ac ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol. Bydd asesiadau ymarferol a di-arholiad eraill hefyd.
Blogiau diweddaraf
Canllaw ar gyfer arholiadau ac asesiadau
Rydyn ni wedi cyhoeddi ein canllaw i arholiadau ac asesiadau 2024 - 2025, i roi'r wybodaeth mae eich dysgwyr eu hangen am drefniadau ar gyfer eu cymwysterau.
Mae paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn amser prysur, a bydd gan nifer ohonoch gwestiynau am y trefniadau ar gyfer eich cymwysterau eleni.
Dysgwch fwy am eich arholiadau a'ch asesiadau, ynghyd â chymorth ychwanegol yn ein Canllaw i Arholiadau ac Asesiadau.
Cymorth a Chefnogaeth
Rydyn ni’n deall bod paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn gyfnod anodd i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr. Mae amrywiaeth eang o adnoddau a chefnogaeth ar gael. Gallwch ddod o hyd i ddolenni i gefnogaeth ychwanegol isod.
P’un a wyt ti’n ystyried parhau ag addysg ôl-16, dod yn brentis neu wneud cais am brentisiaeth gradd, mae gan wefan Gyrfa Cymru wybodaeth ddefnyddiol gyda chanllawiau a chymorth i’th helpu i gymryd dy gamau nesaf.
Os hoffet ti archwilio dy opsiynau mewn coleg addysg bellach yng Nghymru, cer i wefan Colegau Cymru lle cei restr o holl golegau Cymru gyda dolenni i’w gwefannau unigol.
Os wyt ti eisiau symud ymlaen i addysg uwch, mae gan wefan UCAS ragor o wybodaeth am ba gyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais.
Os hoffet ti gymryd dy gam nesaf i gyflogaeth, mae Cymru’n Gweithio ar gael i’th gefnogi gyda chyngor ac arweiniad am ddim a mynediad i hyfforddiant i’th helpu i gael gwaith ac i ddatblygu dy yrfa.