Adolygiadau o waith marcio a chymedroli ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: haf 2024
Datganiad blynyddol sy'n cyflwyno data ar nifer yr adolygiadau o waith marcio a chymedroli yng Nghymru ar gyfer cymwysterau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch.
Oherwydd bod arholiadau’r haf wedi’u canslo yn 2020 a 2021, nid oes unrhyw ddata adolygiadau o waith marcio ar gyfer y blynyddoedd hyn.
Pwyntiau Allweddol:
- Gofynnwyd am 6,640 o adolygiadau TGAU yn dilyn cyfres arholiadau haf 2024. Mae hyn 28.6% yn uwch na’r ffigwr ar gyfer haf 2023, pan gafwyd 5,165 adolygiad, a 29.0% is na 2019.
- Cafodd 323,175 o raddau TGAU eu cyhoeddi yn haf 2024. Cafodd 1.4% o'r holl raddau TGAU a ddyfarnwyd eu herio a chafodd 0.3% o'r holl raddau TGAU eu newid.
- Bu 2,520 adolygiad o waith marcio ar gyfer yr asesiadau UG neu Safon Uwch a safwyd yng nghyfres arholiadau haf 2024. Mae hyn yn gynnydd o 47.1% o'i gymharu â haf 2023 a ostyngiad o 13.1% o'i gymharu â 2019.
- Cafodd 74,560 o raddau UG a Safon Uwch eu cyhoeddi yn haf 2024. Cafodd 2.6% o'r holl raddau UG a Safon Uwch a ddyfarnwyd eu herio a chafodd 0.4% o'r holl raddau TAG eu newid.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru