Adroddiad blynyddol ar y farchnad gymwysterau 2020-2021
Adroddiad blynyddol sy'n crynhoi ystadegau swyddogol am y farchnad gymwysterau yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21.
Pwyntiau Allweddol
- Oherwydd effaith y pandemig COVID-19, dylai defnyddwyr ddehongli gwahaniaethau mewn ystadegau rhwng 2021 a blynyddoedd cynharach yn ofalus.
- Dyfarnwyd 740,740 o dystysgrifau yn 2020/21, cynnydd o 2.0% o’i gymharu â 2019/20. Y corff dyfarnu â'r gyfran fwyaf o’r farchnad oedd CBAC, a ddyfarnodd 68.7% o’r holl dystysgrifau, yr un gyfran â’r llynedd.
- Ar 31 Awst 2021, roedd 96 o gyrff dyfarnu cydnabyddedig yng Nghymru, sy'n ddau yn llai nag yn 2020. Ers sefydlu Cymwysterau Cymru ar 21 Medi 2015, mae 37 yn llai o gyrff dyfarnu cydnabyddedig, sef gostyngiad o 27.8%.
Cysylltwch â’r
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfathrebu@cymwysteraucymru.org