Adroddiad blynyddol ar y farchnad gymwysterau: blwyddyn academaidd 2022 i 2023 yng Nghymru
Adroddiad blynyddol sy'n crynhoi ystadegau swyddogol am y farchnad gymwysterau yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23.
Pwyntiau Allweddol
- Dyfarnwyd 730,415 o dystysgrifau yn y flwyddyn academaidd 2022 i 2023, cynnydd o 1.1% o gymharu â blwyddyn academaidd 2021 i 2022. CBAC oedd y corff dyfarnu â'r gyfran fwyaf o'r farchnad, gan ddyfarnu 67.3% o'r holl dystysgrifau, 1.5 pwynt canran yn is na'u cyfran o'r farchnad yn y flwyddyn flaenorol.
- Ar 31 Awst 2023, roedd 91 o gyrff dyfarnu cydnabyddedig yng Nghymru, sef dau yn llai nag ar yr un adeg yn 2022. Ers sefydlu Cymwysterau Cymru ar 21 Medi 2015, mae 42 yn llai o gyrff dyfarnu cydnabyddedig, sef gostyngiad o 31.6%.
- Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar yr ystadegau hyn.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysteraucymru.org