Adroddiad Penderfyniadau cymwysterau UG a Safon Uwch yn y Gymraeg
Cyhoeddi penderfyniadau ymgynghori ar gymwysterau UG a Safon Uwch newydd mewn Iaith a llenyddiaeth Gymraeg a Cymraeg Craidd
Ym mis Mehefin eleni, cyhoeddwyd ein hymgynghoriad ar gynigion dylunio ar gyfer cymwysterau UG a Safon Uwch newydd mewn Iaith a llenyddiaeth Gymraeg (ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael eu haddysgu mewn ysgolion Categori 2 a 3) a Cymraeg Craidd (ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael eu haddysgu mewn ysgolion Categori 1).
Roedd yr ymgynghoriad yn fyw o 17 Mehefin i 12 Medi 2025 ac yn dilyn cyfnod o ymgysylltu helaeth â'r sector addysg, gan gynnwys athrawon, darlithwyr a dysgwyr. Hefyd, gweithredwyd cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu eang a sicrhaodd ein bod yn derbyn barn bellach ar ein cynigion. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at y gwaith a helpodd i lunio'r cynigion dylunio a gyflwynwyd gennym, ac sydd wedi cymryd yr amser i ymateb i'r ymgynghoriad pwysig hwn.
Mae’r adroddiad yn crynhoi ein canfyddiadau ac yn amlinellu'r penderfyniadau ymgynghori ar gymwysterau UG a Safon Uwch newydd mewn Iaith a llenyddiaeth Gymraeg a Cymraeg Craidd. Rydym hefyd yn egluro'r rhesymau dros ein penderfyniadau a sut y byddwn ni’n eu rhoi ar waith.
Bydd y cymwysterau newydd hyn yn cael eu cyflwyno’n barod ar gyfer eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027. Bydd hyn yn sicrhau y gall y garfan gyntaf o ddysgwyr sy’n sefyll y TGAU cenedlaethol 14-16 newydd mewn Iaith a llenyddiaeth Gymraeg a Cymraeg Craidd symud ymlaen i'r cymwysterau UG a Safon Uwch newydd wrth iddyn nhw wneud eu dewisiadau cymwysterau ôl-16.