Adroddiad TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Dyfarniad Unigol) Gwneud-i-Gymru
Pennawd: Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth Integredig Gwneud-i-Gymru newydd.
Ers cyhoeddi ein penderfyniad i greu cymhwyster TGAU dyfarniad unigol newydd, rydym wedi gweithio'n helaeth gydag amrywiaeth o randdeiliaid i gyd-greu'r gofynion dylunio. Rydym bellach yn cyhoeddi'r rhain ar ffurf meini prawf cymeradwyo.
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu ein penderfyniadau dylunio allweddol rydym wedi'u gwneud a'n rhesymeg dros wneud hynny.